Natasha Wynne Ymgyrchydd, llun gan Glenn Edwards
Ym mis Hydref eleni, fe es i o Gaerdydd i Lundain i ymuno yno ag ymgyrchwyr eraill i alw ar Coca-Cola i dynhau eu cadwyn gyflenwi, ac iddynt ddefnyddio eu dylanwad i arwain y diwydiant bwyd a diod i barchu hawliau tir. Roedd llawer ohonom wedi teithio ymhell, gan ddeffro i’r larwm cynnar ac yna wynebu’r gwynt a’r glaw, ond ni lwyddwyd i atal ein brwdfrydedd. Dyma fynd ati i wisgo cotiau gwynion a dod yn arolygwyr siwgr am y bore, gan ddenu sylw’r cymudwyr dyddiol wrth i ni godi ein placardiau ac anelu am brif swyddfa Coca-Cola.
Mae pawb yn gwybod fod gormod o siwgr yn ddrwg i ni. Ond yr hyn nad yw llawer yn ei wybod yw bod gan ein hawch am siwgr ganlyniadau i bobl ym mhen draw’r byd. Mae bachu tir – lle y caiff cymunedau eu lluchio oddi ar eu tiroedd heb eu cydsyniad a heb iawndal – yn broblem fawr sy’n gysylltiedig â’r farchnad siwgr.
Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig iawn i mi ac i chi oherwydd mae Coca-Cola sef prynwr siwgr mwyaf y byd wedi penderfynu i ddatgan eu polisi o ‘oddef dim’ ar fachu tir o fewn eu cadwyni cyflenwi. Mae gan y cwmni anferth yma bŵer aruthrol a dylanwad ar eu cyflenwyr ac ar y diwydiant, mae nhw’n arwain y ffordd ac felly gallwn obeithio y bydd eraill yn dilyn.
Gyda dros 215,000 o bobl yn arwyddo deiseb Oxfam ac yn cymeryd rhan mewn gweithredoedd ar draws y wlad i ddangos nad yw bachu tir yn dderbyniol, mae Coca-Cola wedi gwrando ac wedi penderfynu gweithredu.
Rydyn ni’n meddu ar bŵer hefyd fel unigolion ac fel cymuned ac mae gweld y modd y mae Coca-Cola wedi ymateb i ymgyrch Oxfam Tu ôl i’r Brand wedi adnewyddu fy ffydd a fy malchder ym mhŵer y bobl.
Mae gwaith eto i’w wneud felly ymunwch gyda mi a chefnogwyr eraill i bwyso ar y cwmniau eraill fel PepsiCo ac ABF. Mae angen i ni roi gwybod iddyn nhw nad ydym yn fodlon ar gynnyrch os ydyw wedi golygu bod teuluoedd wedi colli eu cartrefi, neu fod ffermwyr wedi colli eu bywoliaeth. Gellwch ddarllen mwy a chymryd camau i fynnu hawliau tir ar y wefan hon: https://www.behindthebrands.org/.
Natasha
Ymgyrchydd