Adroddiad yn datgelu bod costau aruthrol gofal plant yn gorfodi rhieni Cymru i dlodi ac yn eu hatal rhag cael mwy o blant

Mae costau ‘dychrynllyd’ gofal plant a diffyg darpariaeth gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn gwthio rhieni i dlodi, gan eu gadael heb arian i dalu am hanfodion sylfaenol a’u gorfodi i ymatal rhag cael mwy o blant, yn ôl ymchwil newydd a ryddhawyd heddiw.

Mae Little Steps, Big Struggles, Childcare in Wales a gyhoeddwyd gan Oxfam Cymru ar ran y glymblaid, Gwneud Gofal yn Deg, yn datgelu profiadau dros 300 o rieni o lywio system gofal plant gymhleth a ‘hynod o ddrud’ Cymru.

Mae canfyddiadau allweddol yr arolwg yn cynnwys:

  • Roedd dros chwarter (27%) yr ymatebwyr yn cyfaddef eu bod yn gwario dros £900 y mis ar gostau gofal plant;
  • Roedd mwy na dau o bob pump (43%) yn dweud nad ydynt wedi gallu talu costau hanfodol eraill ar ôl talu am ofal plant;
  • Dywed dwy ran o dair (67%) eu bod wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith oherwydd diffyg gofal plant;
  • Dywed dros hanner (53%) yr ymatebwyr, ar ôl talu am gostau gofal plant, nad yw’n gwneud synnwyr ariannol iddynt fynd i’r gwaith;
  • Dywed dwy ran o dair (67%) fod costau gofal plant yn eu hatal rhag cael mwy o blant.

Mae ymgyrchwyr yn galw am ailwampio Cynnig Gofal Plant presennol Llywodraeth Cymru, dan arweiniad Grŵp Cynghori arbenigol newydd, i sicrhau bod unrhyw ofal plant a ariennir ledled Cymru sy’n cael ei gyflwyno yn y dyfodol yn diwallu anghenion rhieni, gan gyflawni uchelgeisiau’r Llywodraeth o ran gwrthdlodi a chydraddoldeb rhwng y rhywiau ar yr un pryd.

Ar hyn o bryd, trwy Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru, gall rhieni cymwys sy’n gweithio gael mynediad at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant tair a phedair oed.

Trwy gynllun ar wahân, sef Dechrau’n Deg, mae Llywodraeth Cymru’n darparu 2.5 awr o ofal plant y dydd i blant dwy oed o gartrefi incwm isel mewn awdurdodau lleol cyfyngedig, y mae ymgyrchwyr yn ei ddisgrifio’n ‘loteri cod post’ ac yn ‘gwbl annigonol’ o ran lleihau tlodi a darparu gofal plant.

Bron dwy flynedd ar ôl llofnodi cytundeb cydweithio Llafur Cymru a Phlaid Cymru, ychydig a wyddys am sut y mae’r pleidiau’n bwriadu cyflawni eu haddewid i ehangu lleoedd gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed.

Dywed rhieni ac ymgyrchwyr eu bod yn gwybod dim am fanylion y cynllun a addawyd – gan gynnwys ei feini prawf cymhwysedd, faint o oriau fydd yn cael eu cynnig a phryd y bydd yn cael ei gyflwyno. Maent yn dweud eu bod yn ofni y bydd y pwysau cyllidebol presennol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yn arwain at y cynlluniau ehangu yn cael eu sgubo o’r neilltu.

Yn ôl y glymblaid Gwneud Gofal yn Deg, menywod yn bennaf sy’n talu’r pris am oedi aneglur y Gweinidogion, wrth i famau gael eu gorfodi i naill ai leihau eu horiau gwaith neu roi’r gorau i’w gwaith yn gyfan gwbl er mwyn gofalu am eu plant, gan wreiddio tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhellach ledled Cymru.

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Ledled Cymru, mae costau syfrdanol gofal plant naill ai’n dal rhieni mewn tlodi neu’n eu gadael ar fin mynd i dlodi wrth iddynt gael eu gorfodi i wneud dewisiadau amhosibl am eu gyrfa a chynlluniau ar gyfer y dyfodol i gael mwy o blant.

“Mae’n mynd yn groes i bob rhesymeg ei bod yn debygol na fydd y nifer bach o bobl sy’n gymwys ar hyn o bryd i gael y cymorth gofal plant prin sydd ar gael i blant dwy oed yng Nghymru yn gallu cael rhagor o gymorth gofal plant pan fydd eu plentyn yn dair oed diolch i feini prawf cymhwysedd gwahanol.

“Yn hytrach na chyflwyno ymhellach gynllun sydd eisoes wedi torri, rhaid i’r Gweinidogion gael cynghorwyr arbenigol o amgylch y bwrdd i helpu i ailwampio system gofal plant Cymru a datblygu cynllun clir ar gyfer system newydd, decach, fwy cynhwysfawr ac o ansawdd uchel sy’n mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ledled Cymru.”

Mae Helen Corsi-Cadmore o Abertawe yn entrepreneur llwyddiannus, yn wraig fusnes ac yn fam i efeilliaid tair oed. Dywed, er iddi ennill cyflog da cyn genedigaeth yr efeilliaid, fod y costau gofal plant yr oedd yn eu hwynebu yn llethol.

Dywedodd Helen: “A minnau’n entrepreneur a menyw fusnes hunangyflogedig, roeddwn bob amser yn gwybod fy mod am fynd yn ôl i’r gwaith ar ôl cael plant, nid oeddwn byth am roi’r gorau i weithio er mwyn aros gartref i ofalu am y plant. Ond ar ôl cael yr efeilliaid yn ystod anterth y pandemig, pan ddaeth y byd i gyd i stop, dioddefais yn wael iawn o iselder ôl-enedigol. Er nad oedd yn gwneud unrhyw synnwyr ariannol i ddychwelyd i’r gwaith, roedd mynd yn ôl yn hanfodol i fy iechyd meddwl.

“Trwy gael gefeilliaid, mae cost popeth bob amser yn cael ei ddyblu: roedd ein bil ar gyfer y feithrinfa’n arfer bod yn £1,500 y mis am dri diwrnod yr wythnos yn unig. Roedd gwneud cais am y lleoedd gofal plant a ariennir pan oedd y merched yn dair oed yn hynod gymhleth, ac oherwydd nad oedd lleoedd ar gael mewn meithrinfeydd cyhoeddus yn agos atom, nid oeddem yn gallu cael mynediad at y 30 awr lawn o gymorth. Yn y pen draw, symudom o Gaerdydd i Abertawe rai misoedd yn ôl, yn rhannol fel y gallem gael mynediad at yr oriau yr oedd gennym hawl iddynt ac i fyw’n fwy cyfforddus.

“Ni allwn byth ystyried cael mwy o blant: hyd yn oed os nad oeddwn wedi cael gefeilliaid y tro cyntaf. Byddai’n amhosibl yn ariannol. Mae angen i bethau newid yn gyflym.”

Daw adroddiad y glymblaid, Gwneud Gofal yn Deg, yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn gynharach eleni bod gofal plant a ariennir ar gyfer rhieni sy’n gweithio yn Lloegr yn cael ei ehangu i gynnwys plant o dan dair oed, ac y bydd pob plentyn o naw mis oed yn cael ei gynnwys erbyn mis Medi 2025.

Wrth i ddeiseb sy’n gysylltiedig ag ehangu gofal plant a ariennir yng Nghymru gyrraedd bron 11,000 o lofnodion yn ddiweddar, mae pwysau cynyddol ar Weinidogion Cymru i ailwampio ac ehangu’r Cynnig Gofal Plant presennol ar frys i’w wneud yn fwy hygyrch i fwy o rieni yng Nghymru, gan sicrhau bod buddsoddiad parhaus yn y sector gofal plant yn sylfaen i’r broses o’i gyflwyno’n ehangach.

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru: “Dylai manteision gofal ac addysg gynnar ffurfiol fod ar gael i bob plentyn. Mae’r system gofal plant bresennol yn atgyfnerthu’r bwlch rhwng plant o deuluoedd incwm is a theuluoedd incwm uwch, sy’n wirioneddol anodd i blant ei oresgyn ac sy’n effeithio ar eu cyfleoedd mewn bywyd yn y dyfodol.

“Mae’r adroddiad newydd hwn yn dangos bod costau gofal plant uchel hefyd yn gwthio teuluoedd tuag at dlodi, a gwyddom am yr effaith eang y gall byw mewn tlodi ei chael ar fywyd plentyn. Fel rhan o’i gwaith yn mynd i’r afael â thlodi plant, dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r ddarpariaeth gofal plant i wneud yn siŵr bod y swm sylweddol o arian cyhoeddus sy’n cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd yn cyrraedd y rhai y mae arnynt angen y cymorth mwyaf.”

 

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450