Arweinwyr gwleidyddol yn cael eu hannog i weithredu wrth i’r argyfwng tlodi roi ‘pwysau annioddefol’ ar ofalwyr yn rheng flaen y frwydr yn erbyn y Coronafeirws yng Nghymru

Heddiw mae dros 100 o fudiadau gofal a gwrth dlodi, sefydliadau hawliau merched a melinau trafod wedi dod ynghyd i wneud cais taer i wleidyddion yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig weithredu i ddiogelu gofalwyr rhag argyfwng tlodi cynyddol.

Mewn llythyr agored ar y cyd, dywed y sefydliadau fod gofalwyr yn rheng flaen y frwydr yn erbyn y Coronafeirws yn wynebu ‘pwysau annioddefol’, ac nad ydynt wedi cael eu gwerthfawrogi na’u gwobrwyo digon ers llawer gormod o amser.

Mae’r sefydliadau’n rhybuddio y byddai methu sicrhau bod gofalwyr yn cael eu diogelu rhag tlodi yn ‘gwbl anfaddeuol’.

Dywed y sefydliadau y tu ôl i’r llythyr agored fod system nawdd cymdeithasol annigonol a chyflogau tlodi wedi golygu bod gofalwyr â thâl a gofalwyr di-dâl, fel ei gilydd, yn ymdrybaeddu mewn tlodi ers blynyddoedd.

Mae ymchwil newydd gan Carers Wales wedi datgelu bod 77% o’r gofalwyr di-dâl yn gorfod gwario mwy o arian yn ystod yr achosion o’r feirws. Mae’r elusen, Gingerbread, wedi rhybuddio y bydd mesurau i gyfyngu ar ledaeniad y feirws yn rhoi “pwysau aruthrol” ar deuluoedd un rhiant, a oedd eisoes ddwywaith mor debygol o fod mewn tlodi, ac mae’r Grŵp Cyllideb Menywod wedi rhybuddio na fydd llawer o fenywod sydd ar gyflog isel yn elwa ar gymorth gan y llywodraeth gan nad ydynt yn ennill digon, neu eu bod mewn gwaith ansicr, dros dro a rhan-amser. Mae’r IPPR wedi galw ar y llywodraeth i “fynd i’r afael â’r bylchau enfawr yn ein rhwyd diogelwch cymdeithasol”.

Mae’r llofnodwyr, sy’n cynnwys 18 o sefydliadau yng Nghymru, yn amrywio o Oxfam Cymru i Gofalwyr Cymru, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, TUC Cymru a’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, yn galw am i ofalwyr, yn rhai â thâl ac yn rhai di-dâl, gael eu diogelu rhag tlodi trwy godi lefelau nawdd cymdeithasol a chynyddu’r arian a roddir i ddarparwyr gofal cymdeithasol.

Mae’r gynghrair yn galw am gynyddu budd-daliadau allweddol, gan gynnwys Lwfans Gofalwyr a Budd-dal Plant, yn ogystal â newidiadau ar unwaith i daliadau nawdd cymdeithasol eraill. Mae’r sefydliadau hefyd yn galw am chwistrelliad sylweddol o arian i mewn i’r system gofal cymdeithasol er mwyn galluogi darparwyr i dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol i’w gweithwyr.

Daw’r cais taer hwn wrth i arolwg gan YouGov, a gomisiynwyd gan Oxfam, ddangos:

Bod mwy na dau draean (68%) o’r oedolion yng Nghymru yn meddwl nad yw gwaith gofal yn cael ei werthfawrogi’n ddigonol gan y Llywodraeth;

Bod 69% o’r bobl o’r farn nad yw gweithwyr gofal yn cael digon o dâl; dim ond 1% a ddwedodd eu bod yn cael gormod o dâl;

Bod bron dau draean (63%) o’r farn y dylai’r rheiny sydd ar incwm isel ac sy’n gofalu am bobl sâl neu anabl gael rhagor o gymorth ariannol trwy daliadau nawdd cymdeithasol uwch.

Mae’r gynghrair yn tynnu sylw at y ffaith bod mwyafrif helaeth y gofalwyr ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig yn fenywod, ac mae hyn yn atgyfnerthu disgwyliadau annheg ac yn lledaenu anghydraddoldebau ar sail rhyw. Mae nifer o’r menywod hyn hefyd yn wynebu anghydraddoldeb o ran oedran, anabledd a hil. Dywed y llofnodwyr fod ‘camau annigonol’ wedi cael eu cymryd i rannu gwaith gofal mewn modd mwy teg.

Dywed llofnodwyr y llythyr fod pandemig y Coronafeirws wedi gwaethygu sefyllfa gofalwyr, gan roi pwysau annioddefol arnynt; gyda nifer ohonynt yn wynebu lefelau digynsail o berygl.

Dywedodd Rachel Cable, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae’r pandemig Coronavirus wedi amlygu pwysigrwydd sylfaenol gwaith gofal i’n hiechyd, ein llesiant a’n bywydau bob dydd, a hynny yn fyd-eang ac yma yng Nghymru. Mae’n tynnu sylw at y ffordd y mae’r gofalwyr yn parhau i beidio â chael eu cydnabod na’u gwerthfawrogi digon; yn syml, nid yw’n iawn bod llawer yn byw mewn tlodi. Heddiw, mae gennym un cais syml ar gyfer ein harweinwyr gwleidyddol yng Nghymru a ledled Prydain; gweithredu ‘nawr i ddileu tlodi ar gyfer gofalwyr. Rhaid i Lywodraethau ymrwymo i ofalu am ofalwyr yn y ffordd y maen nhw wedi gofalu amdanom ni, a sicrhau bod ganddynt yr hyn y mae arnynt ei angen, a hynny yn y gwaith a gartref.”

Dywedodd un gofalwr di-dâl o Gaerdydd wrth Oxfam ei bod yn pryderu’n fawr am effaith y Coronafeirws. Dywedodd ei bod ‘nawr yn casglu gofalwyr cyflogedig ei mam oedrannus o’u cartrefi, ac yn mynd â nhw adref, er mwyn eu hatal rhag gorfod teithio ar y bws, gan leihau eu cyswllt â phobl eraill. Dywedodd: “Pan rydych yn gofalu am unigolyn oedrannus â dementia, yn ogystal â phedwar plentyn gartref, mae’n achosi cymaint o straen. Mae arnaf gymaint o ofn y bydd Covid yn dod i’m tŷ. Rydym i gyd yn iawn ar hyn o bryd, ond wyddoch chi ddim beth sydd am ddigwydd.”

Dywedodd Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru: “Mae’r gofalwyr yn ein tywys trwy’r argyfwng hwn, ond mae arnynt angen mwy na chlap yn gyfnewid am hynny; mae arnynt angen rhwyd nawdd cymdeithasol sy’n eu diogelu rhag tlodi, ac mae arnynt angen cyflogau a chontractau teg. Yn ddiweddar, dywedodd dros dri chwarter y gofalwyr yng Nghymru eu bod yn cael eu gorfodi i wario mwy yn ystod y pandemig; arian ychwanegol nad ydynt, yn syml, yn meddu arno. Am ormod o amser, nid yw gofalwyr wedi cael eu gwerthfawrogi na’u gwobrwyo digon; mae’n hen bryd i ni ofalu am ei gofalwyr fel y maen nhw’n gofalu amdanom ni; trwy sicrhau bod ganddynt y cymorth angenrheidiol yn y gwaith a gartref.”

Ychwanegodd Catherine Fookes, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru: “Yng Nghymru, mae anghydraddoldeb o ran cyfrifoldebau gofalu ymhlith y mwyaf amlwg yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhan fwyaf o ofalwyr y genedl yn fenywod, ac mae hyn yn golygu bod menywod mewn mwy o berygl o gael eu gwthio ymhellach i dlodi gan y Coronafeirws. Hoffem weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd ati ar frys i ddileu’r cyfnod aros o bum wythnos ar gyfer y Credyd Cynhwysol, ac, yn dilyn yr argyfwng, hoffem weld cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant yn cael ei ymestyn i bob rhiant ac ar gyfer pob plentyn o chwe mis oed.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae cyfweliadau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Mae’r rhai a lofnododd y llythyr agored ar y cyd i ASau ledled y Deyrnas Unedig, ASAau yn yr Alban, ac ACau yng Nghymru, yn cynnwys: Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, Cymru, Shelter Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Home-Start Cymru a Trefnu Cymunedol Cymru.
  • Darllenwch y llythyr llawn, ynghyd â rhestr o’r llofnodwyr, yma: https://oxfam.app.box.com/s/h1f9lqxyb46t63ciff0p1zrrn3ibhhuz/file/658824132815
  • Oni nodir yn wahanol, daw’r holl ffigurau gan YouGov Plc. Maint y sampl oedd 1,065 o oedolion. Gwnaed y gwaith maes rhwng 24 a 27 Ebrill 2020. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi cael eu pwysoli, ac maent yn gynrychiadol o holl oedolion Cymru (18+ oed).
  • Darllenwch friff Oxfam ar y cysylltiad rhwng gwaith gofal a thlodi yn y Deyrnas Unedig yma: https://bit.ly/2KObHI6
  • Carers Wales: https://www.carersuk.org/wales/news-campaigns/news/the-forgotten-families-in-lockdown-unpaid-carers-close-to-burnout-during-covid-19-crisis-wales
  • Gingerbread: https://www.gingerbread.org.uk/policy-campaigns/covid-19-briefing/
  • Women’s Budget Group: https://wbg.org.uk/wp-content/uploads/2020/04/FINAL.pdf