Bydd Cyllideb Cymru yn cael effaith ddifrifol ar lefelau tlodi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25.

Mewn ymateb i’r Gyllideb ddrafft, dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Bydd y Gyllideb ddrafft hon, sy’n ddigon i’ch sobri, yn rhoi mwy fyth o bwysau ar bobl ledled Cymru sydd eisoes wedi’u gwthio i’r dibyn gan y cynnydd mewn costau byw. Rhaid i Brif Weinidog nesaf Cymru roi blaenoriaeth fawr i fynd i’r afael â chyfradd tlodi gywilyddus ac ystyfnig o uchel y wlad, gan ategu’r genhadaeth hollbwysig hon â strategaeth feiddgar, gynhwysfawr a rhwymol sy’n nodi targedau ac amserlenni clir. ‘Nawr yw’r amser i ddechrau adeiladu’r Gymru decach, wyrddach, fwy gofalgar y mae angen i bob un ohonom – a chenedlaethau’r dyfodol – ei gweld.”

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450