Byddai prynu ffasiwn ail law yn atal allyriadau sy’n cyfateb i hedfan 17,000 o weithiau o amgylch y byd

Mae gwaith ymchwil newydd gan Oxfam heddiw yn datgelu petai holl oedolion y Deyrnas Unedig yn prynu hanner eu wardrob nesaf yn ail law, byddai modd atal 12.5 biliwn cilogram o allyriadau carbon deuocsid rhag cael eu rhyddhau i’r atmosffer. Mae’r swm anferthol hwn yn cyfateb i allyriadau awyren sy’n hedfan 17,000 o weithiau o amgylch y byd.

Cyhoeddir y canfyddiadau wrth i Oxfam lansio ei ail ymgyrch flynyddol, Mis Medi Ail Law, sy’n annog pobl ledled Cymru i brynu eitemau ail law a rhoi unrhyw ddillad diangen neu heb eu gwisgo i siop elusen, a hynny am 30 diwrnod.

Yn ôl elusen WRAP sy’n gweithredu dros yr hinsawdd, mae wardrob yr oedolyn cyffredin yn cynnwys 106 o eitemau, a dengys gwaith ymchwil gan Oxfam y byddai prynu hanner y dillad hynny yn ail law yn atal biliynau o’r allyriadau niweidiol a grëir wrth gynhyrchu dillad newydd. Ar hyn o bryd, 10 y cant yn unig o gynnwys ein cwpwrdd dillad sy’n eitemau ail law.

Trwy ddewis ffasiwn ail law, byddwch yn ymestyn oes dillad ac yn lleihau’r angen am ddillad newydd sbon sy’n creu allyriadau niweidiol i’r hinsawdd yn ystod eu proses gynhyrchu. Mae Oxfam am annog siopwyr ledled Cymru i ddilyn y ffasiwn ym mis Medi eleni trwy wisgo ar gyfer y byd a garent.

Meddai Dr Hade Turkmen, Cynghorydd Eiriolaeth Oxfam Cymru: “Mae’r wyddoniaeth yn arswydus ac yn gyson glir: rydym wedi cyrraedd croesffordd dyngedfennol o ran yr hinsawdd lle mae sychder, llifogydd a seiclonau dinistriol eisoes yn effeithio’n enbyd ar y gwledydd incwm isel sy’n lleiaf cyfrifol am achosi argyfwng yr hinsawdd.

“Heddiw, mae’r diwydiant ffasiwn ar draws y byd yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr sylweddol sy’n bygwth dyfodol ein planed. Trwy fod yn ymwybodol o’r hyn y maent ei brynu, gall pobl Cymru ddangos eu bod am gael diwydiant ffasiwn mwy cynaliadwy.

“Wrth brynu eitemau ail law gan Oxfam, byddwch nid yn unig yn ailgylchu ac yn prynu dillad steilus sy’n werth y byd ond hefyd yn ailfuddsoddi eich arian mewn gwaith allweddol i drechu tlodi – gan gefnogi cymunedau ledled y byd wrth iddynt geisio gwrthsefyll argyfwng yr hinsawdd a brwydro yn erbyn yr anghyfiawnder sy’n gwthio pobl ymhellach i afael tlodi. Mae’n bryd i ni newid ar gyfer y byd a garem.”

Mae canfyddiadau pellach gan Oxfam yn dangos petai pob oedolyn yn y Deyrnas Unedig yn rhoi pob dilledyn heb ei wisgo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i siopau elusen, a bod y dillad hynny’n cael eu defnyddio eto gan rywun arall, byddai hynny’n dileu’r angen am ryddhau 4.9 biliwn cilogram o garbon i’r atmosffer. Mae hyn yn cyfateb i awyren sy’n hedfan mwy na 6,600 o weithiau o amgylch y byd.

Cyhoeddir y cyfrifiadau wrth i bobl ddod yn fwy a mwy ymwybodol o effeithiau negyddol y diwydiant ffasiwn, sydd i gyfrif am 10 y cant o’r allyriadau carbon byd-eang – mwy na’r diwydiannau awyrennau a llongau rhyngwladol gyda’i gilydd.

Mae’r dylanwadwr ffasiwn gynaliadwy Rachel Pridmore o Abertawe yn cefnogi ymgyrch Mis Medi Ail Law. Mae Rachel, sydd â mwy na 136,000 o ddilynwyr ar Instagram, yn annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan.

Meddai Rachel: “Mae prynu o siopau elusen wedi trawsnewid yn llwyr yn y blynyddoedd diwethaf: bellach, mae’n gyfle i greu steiliau unigryw a byw’n fwy cynaliadwy ar yr un pryd. Trwy gefnogi Mis Medi Ail Law gall pawb wneud ei ran i helpu’r blaned: oherwydd os ydym yn difetha hon, ’does dim planed B.”

Mae Oxfam yn galw ar bobl ledled Cymru i wisgo ar gyfer y byd a garent ym mis Medi eleni trwy addunedu i brynu dillad ail law a rhoi eu holl ddillad diangen i Oxfam.

 

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450  

 

Nodiadau i’r golygydd

  • Gwybodaeth am Fis Medi Ail Law
  • Mae manylion methodoleg ystadegol Oxfam ar gael ar gais.
  • Lansiodd Oxfam ymgyrch Mis Medi Ail Law yn 2019 i ysbrydoli pobl i siopa mewn ffordd sy’n fwy caredig i bobl ac i’r blaned. Nod yr ymgyrch yw annog pobl i roi a phrynu dillad ail law ym mis Medi. Gall cyfranogwyr ddefnyddio’r hashnodau #MisMediAilLaw #SecondHandSeptember #FoundInOxfam ar Instagram, TikTok a Twitter wrth bostio lluniau o’u heitemau a thagio @OxfamGB @OxfamCymru

https://www.oxfam.org.uk/get-involved/second-hand-september/