Cyfradd tlodi Cymru yn ‘anghyfiawnder tanbaid’, medd Oxfam Cymru

Mae Oxfam Cymru wedi galw ar y Prif Weinidog newydd i wneud mynd i’r afael â phroblemau tlodi yn flaenoriaeth bennaf iddo, a hynny wrth i ffigurau swyddogol newydd a gyhoeddwyd heddiw ddangos bod 1 o bob 5 (21%) unigolyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae’r ystadegau hefyd yn datgelu bod mwy na 1 o bob 4 (29%) plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae’r ystadegau’n dangos bod y gyfradd tlodi yn llawer uwch yn achos menywod sengl â phlant, pobl sy’n Ddu yn ogystal â phobl o liw, a phobl sy’n byw mewn aelwyd lle mae gan rywun anabledd.

Mae Oxfam Cymru wedi dynodi’r ffigurau’n ‘anghyfiawnder tanbaid’, ac mae’n galw ar lywodraethau Cymru a’r DU, fel ei gilydd, i gymryd camau parhaus a strategol i ostwng cyfraddau tlodi.

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Ers degawdau, mae cyfradd tlodi ystyfnig o uchel Cymru wedi taflu cysgod hir a chywilyddus sy’n difetha bywydau ac yn cyfyngu ar botensial.

“Er nad y Senedd sy’n gyfrifol am yr holl ysgogiadau ar gyfer newid, mae’n hanfodol i’r Prif Weinidog newydd gydnabod bod manteisio i’r eithaf ar bwerau datganoledig i ddelio â’r materion hyn mewn modd effeithiol yn gofyn am ddull llywodraeth gyfan sy’n seiliedig ar strategaeth gwrthdlodi uchelgeisiol dargededig, ac iddi gyfyngiad amser a’r nod o ysgogi a chyflawni camau gweithredu trawsadrannol. Heb fap clir o’r fath i ddyfodol tecach, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau heb lyw, gan adael pobl ledled Cymru ar goll ar fôr tymhestlog tlodi parhaus, cyffredinol.”

“Bydd dewrder ac argyhoeddiad y Prif Weinidog newydd wrth iddo fynd i’r afael â’r anghyfiawnder tanbaid hwn yn brawf dangosol o’i arweinyddiaeth.”

 /DIWEDD   

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450