Cyfradd tlodi plant Cymru yn ‘warth cenedlaethol’ meddai Oxfam Cymru

Mae Oxfam Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ar fyrder â phroblem tlodi parhaus Cymru gan fod ffigurau newydd a ryddhawyd heddiw yn datgelu bod 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae’r ystadegau hefyd yn datgelu bod 1 o bob 4 plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Mae Oxfam Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun newydd i fynd i’r afael â chyfradd tlodi plant ystyfnig o uchel y wlad, a hynny gyda chefnogaeth yr ewyllys wleidyddol a’r adnoddau i gyflawni’r gwaith.

Mewn ymateb i’r ystadegau, dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw wedi bod yn ergyd ddwbl ddinistriol i’r tlotaf yn ein cymdeithas, fel y dengys yr ystadegau brawychus hyn. Mae’n warth cenedlaethol bod plant ledled Cymru, hyd yn oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf cefnog, yn byw mewn tlodi.

“Gwyddom nad yn nwylo Gweinidogion Cymru yn unig y mae’r pŵer i roi terfyn ar dlodi plant, ond rhaid iddynt ddefnyddio’r holl bwerau sydd ar gael iddynt i drawsnewid bywydau’r miloedd o blant sy’n cael eu magu mewn tlodi ledled Cymru.

“Maes diwygio allweddol yw system gofal plant anfforddiadwy ac anhygyrch y wlad, sydd ar hyn o bryd yn golygu bod gormod o rieni yn methu mynd am waith cyflogedig ac felly’n cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Dylai mynediad at ofal plant rhad ac am ddim o safon dda, a hynny i bob plentyn o chwe mis oed, fod yn ganolog i strategaeth tlodi plant nesaf Llywodraeth Cymru: mae’n seilwaith economaidd sylfaenol.

“Nid yw tlodi yn anochel: dewis gwleidyddol yw peidio â mynd i’r afael ag ef. Rhaid i Weinidogion Cymru ddewis yn ddoeth a chreu dyfodol tecach i bob un ohonom.”

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450