Cymru yn barod am Nadolig ‘ail-law’ eleni gan fod bron hanner y defnyddwyr yn bwriadu rhoi anrhegion sydd eisoes wedi bod yn eiddo hoff i rywun

Mae astudiaeth o 1,000 o siopwyr yng Nghymru sy’n dathlu’r Nadolig wedi canfod bod 46 y cant ohonynt yn bwriadu rhoi anrhegion ail-law eleni. O blith y rhai sy’n bwriadu gwneud hyn, dywed 92 y cant ohonynt eu bod yn bwriadu arbed arian yn ystod yr argyfwng costau byw.

Yn ogystal ag arbed arian, darganfu Oxfam Cymru, a gomisiynodd yr ymchwil a gynhaliwyd gan OnePoll.com, fod bron traean (32 y cant) o’r bobl yn bwriadu prynu anrhegion ail-law am eu bod yn fwy ecogyfeillgar, ac roedd bron chwarter (24 y cant) yn cytuno bod yna ffactor o ‘deimlo’n dda’ yn perthyn i siopa ail-law.

Gydag anrhegion sydd eisoes wedi bod yn eiddo hoff i rywun yn dod yn fwyfwy cyffredin, mae canran aruthrol o 63 y cant o siopwyr Cymru yn dweud ei bod yn fwy derbyniol nag erioed rhoi anrhegion ail-law, a mynegodd dros hanner ohonynt (54 y cant) mai eu greddf gyntaf, pan fo arnynt angen anrheg Nadolig, yw gweld a allant ei chael yn ail-law.

Mae llyfrau, teganau a gemau, gemwaith, DVDs a gemau fideo ymhlith y prif eitemau y mae siopwyr craff Cymru yn dweud y byddent yn ystyried eu prynu yn ail-law.

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Ledled Cymru, mae siopwyr craff yn gweld rhinweddau prynu anrhegion ail-law. Mae defnyddwyr gofalus yn amlwg yn gwybod nad yw ail-law yn golygu ail-orau gan fod siopau elusen yn fannau perffaith i bobl ddod o hyd i anrhegion unigryw, meddylgar, a gofalu am eu ceiniogau a’r blaned yr un pryd.

“Nid yn unig y mae pobl yn siopa mewn modd mwy craff a chynaliadwy, ond pan fyddant yn siopa yn Oxfam, maent yn newid bywydau hefyd; mae’r anrhegion ail-law yn lledaenu llawenydd ac yn cefnogi cymunedau mewn angen ledled y byd.”

Canfu’r astudiaeth hefyd fod union draean y rhai a holwyd yn bwriadu i anrhegion ail-law ddod yn draddodiad iddyn nhw a’u hanwyliaid bob Nadolig, a dywedodd ymhell dros hanner yr ymatebwyr (60 y cant) ei bod yn wers dda i’w throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

Cyfaddefodd bron dau draean (64 y cant) o’r ymatebwyr fod gallu dod o hyd i eitemau ail-law o safon yn syndod pleserus, ac ychwanegodd bron un rhan o bump (18 y cant) eu bod yn mwynhau’r agwedd ‘chwilota’ sy’n perthyn i chwilio am yr anrheg berffaith.

At hyn, dywedodd pedwar o bob deg (43 y cant) o’r holl ymatebwyr y byddent yn ddiolchgar am anrheg ail-law ar 25 Rhagfyr.

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450