Mae disgwyl i nifer sylweddol o bobl ledled Cymru benderfynu rhoi anrhegion ail-law i blant y Nadolig hwn, yn ôl arolwg newydd a gynhaliwyd ar gyfer Oxfam.
Canfu astudiaeth o 2,000 o oedolion ledled y DU sy’n dathlu tymor yr Ŵyl y bydd chwarter ohonynt (24%) yn debygol o brynu anrhegion ail-law i blant eleni – a’r anrhegion ail-law mwyaf poblogaidd yw llyfrau (34%), teganau (30%), a gemau bwrdd (17%).
A gan fod 50 y cant o oedolion yn disgwyl gwario rhwng £10 a £60 fesul plentyn, gallai prynu pethau ail-law dorri eu costau’n sylweddol, yn ogystal â helpu’r blaned.
Mae Oxfam yn annog siopwyr ledled Cymru i fanteisio ar y cyfle i brynu anrhegion ail-law i sicrhau Nadolig mwy cynaliadwy a chosteffeithiol.
Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae prynu eitemau ail-law yn ffordd wych o wneud y Nadolig yn arbennig, yn enwedig i blant. O dedi hoff i lyfr stori cyfareddol, mae anrhegion ail-law yn tanio’r un hudoliaeth heb fod angen iddynt fod yn newydd sbon. Nid yn unig y mae prynu eitemau ail-law yn llai o ergyd i’ch waled; mae hefyd yn ddewis sy’n ystyriol o’r blaned. A phan fyddwch yn prynu anrhegion trwy Oxfam, rydych chi nid yn unig yn rhoi rhywbeth unigryw i blant, ond rydych yn cefnogi achos sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i dymor yr Ŵyl.”
Canfu arolwg YouGov, a gynhaliwyd ar ran Oxfam, fod helpu’r blaned ac arbed arian yn ysgogwyr allweddol i siopwyr cynaliadwy eleni – ac mae dros hanner y bobl yn y DU sy’n bwriadu prynu anrhegion ail-law yn dweud mai’r prif reswm dros wneud hynny yw am ei fod yn well i’r amgylchedd (57%) ac yn rhatach na phrynu eitemau newydd (51%).
Ond mae siopwyr hefyd yn meddwl bod anrhegion ail-law yn fwy ystyriol – ac mae un o bob pedwar (27%) yn dweud mai’r prif reswm y byddent yn debygol o brynu anrheg ail-law adeg y Nadolig yw oherwydd y bydd yn “unigryw”.
Adlewyrchir yr agwedd hon yn y ffordd y mae pobl yn teimlo am roi neu gael anrheg ail-law o dan y goeden, gyda chwech o bob deg (60%) yn dweud y byddent yn teimlo’n gyfforddus yn cael anrheg Nadolig ail-law, a bron pedwar o bob deg (38%) yn dweud eu bod yn teimlo’n gyfforddus yn rhoi anrheg ail-law i rywun arall.
O ran oedolion, llyfrau yw’r dewis mwyaf poblogaidd o anrhegion ail-law hefyd, ac mae bron hanner (49%) yn dweud y byddent yn debygol o roi llyfr ail-law yn anrheg y Nadolig hwn, ac mae chwarter (24%) yn dweud y byddent yn debygol o roi dillad ail-law yn anrheg.
Ychwanegodd Sarah Rees: “Gall siopa Nadolig fod yn anodd, ond mae siopau ail-law yn cynnig dewis arall braf. Byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth anhygoel o anrhegion unigryw ac ystyrlon sy’n lleihau gwastraff ac yn amddiffyn adnoddau ein planed.
“Trwy ddewis hyd yn oed ychydig o anrhegion ail-law y tymor hwn, byddwch nid yn unig yn gwneud arbedion ar eich cyllideb Nadolig ond hefyd yn cefnogi’r frwydr yn erbyn tlodi ac anghydraddoldeb ledled y byd. Mae newid bach yn cael effaith fawr.”
Gwnewch newid bach a phrynwch anrhegion ail-law y Nadolig hwn trwy ymweld ag un o Siopau Oxfam ledled Cymru neu ewch i
/DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk/07917 738450
Nodiadau i Olygyddion
- Oni nodir yn wahanol, daw’r holl ffigurau gan YouGov Plc. Maint y sampl oedd 2,311 o oedolion. Gwnaed y gwaith maes rhwng 7 a 8 Tachwedd 2024. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi cael eu pwysoli, ac maent yn gynrychiadol o holl oedolion y DU (18 oed a hŷn).
Gwybodaeth am Oxfam
Mae Oxfam yn gymuned fyd-eang o bobl sy’n credu mewn byd mwy caredig a gwell o lawer, lle y mae gan bawb y pŵer i ffynnu nid dim ond goroesi. Credwn y gallwn oresgyn tlodi trwy frwydro yn erbyn yr anghyfiawnderau a’r anghydraddoldebau sy’n ei ysgogi.
Mae gan Oxfam fwy na 500 o siopau yn y DU yn ogystal â siop ar-lein Oxfam. Trwy brynu a rhoddi trwy siopau Oxfam neu ar-lein, gallwch helpu i amddiffyn ein planed, gan hefyd helpu i godi arian hanfodol i fynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder o amgylch y byd.
I ddod o hyd i’ch siop Oxfam leol cliciwch yma neu ewch i Siop Ar-lein Oxfam yma.
Oxfam’s Online Shop [RW1]
Link to: https://onlineshop.oxfam.org.uk/