Mae gwleidyddion Cymru yn cael eu herio i ‘agor eu llygaid a’u calonnau’ i brofiadau gofalwyr di-dâl o bob cwr o’r wlad wrth i arddangosfa bwerus roi sbotolau llachar ar ofalwyr di-dâl Cymru yn y Senedd heddiw.
Mae’r arddangosfa arloesol, Ymgyrchwyr Gofalgar trwy Grefft: Gwau Llinynnau Newid, yn benllanw misoedd o waith gan ofalwyr di-dâl o Gymru benbaladr, gofalwyr sy’n rhannu eu profiadau hynod o bersonol a theimladwy am y niwed corfforol ac ariannol y mae gofalu wedi’i achosi iddynt.
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r anweledigrwydd y dywed llawer o ofalwyr y maent yn ei deimlo. Cafodd y prosiect ei gydlynu gan Gofalwn (WeCare) – ymgyrch llawr gwlad arobryn sy’n cael ei rhedeg gan ofalwyr ac ar eu cyfer – ac Oxfam Cymru, a hynny gyda chefnogaeth yr artist tecstilau enwog, Vanessa Marr.
Trwy gyfrwng y prosiect, mae 80 o ofalwyr di-dâl o bob cwr o Gymru wedi bod yn pwytho eu profiadau o ofalu ar gadachau llwch melyn cyffredin, a bydd y rhain yn cael eu hongian a’u harddangos ar lein ddillad syml yn Neuadd y Senedd.
Ddydd Mawrth 24 Hydref, bydd detholiad o’r cadachau llwch hyn yn cael eu harddangos yn y Senedd: gan ddwyn lleisiau a phrofiadau gofalwyr Cymru i goridorau grym. Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal cyn y Diwrnod Rhyngwladol Gofal a Chymorth cyntaf erioed, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, ar 29 Hydref, diwrnod sy’n anelu at feithrin ymwybyddiaeth o waith gofalwyr di-dâl ledled y byd.
Mae Clare Cremona o Sir Benfro yn ofalwr di-dâl ar gyfer ei dau blentyn awtistig, ac mae gan un ohonynt anghenion cymhleth. Dywed Clare fod i’r cwestiwn pwerus ar ei chadach llwch, sef ‘I care, do you?’, ystyr deublyg gan ei fod yn cynrychioli rolau’r bobl sy’n ofalwyr, a’r modd y rhoddir gwerth ar ofalwyr.
Dywedodd Clare: “Mae bod yn ofalwr yn swydd 24/7 anodd iawn, a gallwch yn aml deimlo’n angof ac yn hynod o ynysig. Yn anaml y bydd pobl yn gofyn i chi sut ydych chi, ond pe baent yn gwneud hynny, wedi’ch ymestyn i’r eithaf a dan straen fyddai’r ateb y rhan helaeth o’r amser. Bydd y rhan fwyaf ohonom yn dod yn ofalwyr ar ryw adeg yn ein bywydau, ac eto, mae ein cyfraniad i gymdeithas yn cael ei danbrisio’n llwyr. Mae angen i ofalwyr deimlo eu bod yn gysylltiedig, eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn cael eu gweld, ac, i hynny ddigwydd, mae arnom angen arweinwyr tosturiol sy’n ein trin â pharch, sy’n ein gweld, sy’n rhoi gwerth arnom ac sy’n ein cefnogi.”
Amcangyfrifir bod 10% o boblogaeth Cymru yn ofalwyr di-dâl, ac eto mae Oxfam Cymru a Gofalwn yn dweud bod llesiant gofalwyr a’u cyfraniadau i Gymru yn cael eu hanwybyddu’n rhy aml.
Mae Katy Styles, sylfaenydd Gofalwn, yn annog Llywodraeth Cymru i wrando ar brofiadau gofalwyr ac i weithredu ar alwadau gan sefydliadau gofalwyr i gyflwyno cofrestr swyddogol ar gyfer gofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Dywedodd Katy: “Trwy gydol ein prosiect clywsom yn aml am yr unigrwydd enbyd a all fod yn ganlyniad i ofalu. Mae arddangosfa heddiw yn ceisio gweu ynghyd brofiadau ynysig gofalwyr i ffurfio dirnadaeth hardd a phwerus o sut beth yw bod yn ofalwr yng Nghymru heddiw.
“Trwy ddod â lleisiau gofalwyr i goridorau grym, rydym yn gobeithio gwthio anghenion gofalwyr yn uwch i fyny’r agenda wleidyddol trwy agor llygaid a chalonnau Aelodau’r Senedd. Gwyddom nad yw llawer o bobl ledled Cymru sy’n gofalu am eraill hyd yn oed yn eu hystyried eu hunain yn ofalwyr di-dâl: yn syml, maent yn gwneud yr hyn sy’n ofynnol i ofalu am unigolyn y maent yn ei garu. Byddai cyflwyno cofrestr gofalwyr yng Nghymru nid yn unig yn taflu goleuni ar waith amhrisiadwy gofalwyr di-dâl, ond byddai hefyd yn helpu pobl i gael mynediad at y cyngor a’r cymorth y mae ganddynt hawl iddynt.”
Yn ôl ymchwil Gofalwyr Cymru, nid yw anghenion y mwyafrif helaeth o ofalwyr yn cael eu hasesu, ac nid ydynt yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen. Dim ond 15% o ofalwyr yng Nghymru sydd wedi cael asesiad o anghenion gofalwyr, a hynny er bod gan ofalwyr hawl i asesiad dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Dywed Gofalwn ac Oxfam Cymru y byddai creu cofrestr genedlaethol o ofalwyr hefyd yn helpu i gyflawni Strategaeth Unigrwydd Llywodraeth Cymru: sy’n datgan bod nodi gofalwyr di-dâl yn flaenoriaeth allweddol.
Yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, mae gofalwyr di-dâl o bob oed mewn mwy o berygl o brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, a seithgwaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod bob amser neu’n aml yn unig, o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol.
Mae’r sefydliadau’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi gofalwyr y genedl a mynd i’r afael â’r ynysigrwydd y maent yn ei wynebu.
Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Ledled y byd, mae cymdeithasau ac economïau wedi’u hadeiladu ar gefnau gofalwyr di-dâl; y mwyafrif ohonynt yn fenywod. Bob dydd, mae gofalwyr di-dâl yn mynd yr ail filltir i ofalu am y bobl y maent yn eu caru, a hynny er gwaethaf y gost bersonol ac ariannol uchel y gall gofalu ei olygu. Heddiw, rydym yn arddangos creadigaethau’r gofalwyr ar lein ddillad syml i dynnu sylw at y ffaith bod gofalwyr yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i ymdopi yn llawer rhy aml: a hynny gan wleidyddion, cyflogwyr a chymdeithas nad ydynt, fel mater o drefn, yn rhoi fawr o werth ar eu gwaith hanfodol, gan eu tanbrisio. Mae cyfraniadau gofalwyr i fywyd Cymru yn amhrisiadwy, ond yn anweledig; ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i gydnabod a gwobrwyo eu hymdrechion ac adeiladu’r wlad ofalgar y mae arnom ni i gyd eisiau byw ynddi.”
/DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450
Nodiadau i Olygyddion
- Cynhelir arddangosfa’r Senedd ddydd Mawrth 24 Hydref, a hynny o 12pm. Bydd y siaradwyr yn y digwyddiad yn cynnwys gofalwr di-dâl, sef Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru, Katy Styles, sylfaenydd Gofalwn, a Jane Bryant, AS (noddwr y digwyddiad). Rhaid i’r wasg gofrestru i fod yn bresennol a gall gyrraedd o 11.30am.
- Gellir darparu delweddau cydraniad uchel o’r cadachau llwch ar gais.