Mae’r adroddiad yn amlinellu ffyrdd i sicrhau bod y llygrwyr mwyaf a chyfoethocaf yn talu, gan helpu i atal aelwydydd cyffredin rhag gorfod talu costau cyfnod trosglwyddo cyflym a theg
Gallai codi trethi teg ar lygrwyr mwyaf y DU – gan gynnwys cwmnïau tanwyddau ffosil, ehedwyr aml a’r bobl eithriadol o gyfoethog sy’n defnyddio jetiau preifat – fod wedi cynhyrchu hyd at £23 biliwn y llynedd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Oxfam heddiw.
Mae modelu enghreifftiol yn awgrymu y byddai hyd at £86 miliwn mewn arian ychwanegol wedi bod ar gael i Lywodraeth Cymru pe bai Llywodraeth y DU wedi gwario ychydig dros un rhan o bump o’r refeniw ychwanegol hwn ar drafnidiaeth gyhoeddus werdd yn Lloegr – digon o arian i sicrhau bod tocynnau bws sengl ledled Cymru yn £1.50.
Mae’r adroddiad, Payment Overdue, Fair ways to make UK polluters pay for climate justice, yn dangos y gall Llywodraeth y DU sicrhau cyllid y mae mawr ei angen yn gyflym ac mewn modd teg, gan ofalu hefyd nad yw aelwydydd cyffredin yn ysgwyddo’r baich, a hynny trwy dargedu’r rhai sydd fwyaf cyfrifol am allyriadau.
Mae ymgyrchwyr yn amlygu’r modd y bu i gwmnïau olew ac ynni wneud yr elw mwyaf erioed yn 2022 a’r ffaith eu bod wedi adrodd am biliynau o bunnoedd yn fwy o elw hyd yma eleni, a hynny yng nghanol argyfwng costau byw, biliau ynni cynyddol a chwyddiant uchel – sydd wedi rhoi pwysau arbennig ar aelwydydd incwm is.
Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth y DU yn deddfu cyfres o fesurau synnwyr cyffredin i godi refeniw, gan gynnwys ailgynllunio treth ar elw gormodol ar gyfer cwmnïau tanwyddau ffosil; ailgyfeirio cymorthdaliadau presennol ar gyfer tanwyddau ffosil; ardoll ar ehedwyr mynych a threthi newydd ar y defnydd o jetiau preifat a chychod hwylio enfawr; yn ogystal â chlustnodi 20 y cant o’r elw o system sy’n trethu cyfoeth yn deg ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Dywed Oxfam Cymru y gallai’r gwariant cyhoeddus ychwanegol dilynol gan Lywodraeth y DU ar weithredu domestig ar yr hinsawdd yn Lloegr arwain at sicrhau arian hinsawdd newydd sylweddol i Gymru trwy symiau canlyniadol Barnett.
Dywed ymgyrchwyr y gallai’r arian ychwanegol gael ei ddefnyddio i roi cymhorthdal pellach ar gyfer teithio ar fysiau ledled Cymru, gan helpu i leihau allyriadau a hefyd sicrhau bod bysiau – a ddefnyddir yn anghymesur gan fenywod a phobl sy’n byw mewn tlodi – yn fwy fforddiadwy.
Dywed Oxfam Cymru y dylai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, annog Prif Weinidog y DU i ddwyn llygrwyr mwyaf y DU i gyfrif: gan sicrhau eu bod yn talu am eu difrod.
Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Gyda thymereddau’r byd yn saethu i fyny, ’nawr yw’r amser i Brif Weinidog Cymru ofyn i’r Prif Weinidog roi mwy o bwysau ar y cwmnïau tanwydd ffosil a’r bobl gyfoethocaf sydd wedi gwneud y mwyaf i achosi’r argyfwng hinsawdd yr ydym i gyd yn ei wynebu ’nawr.
“Yn syml, nid yw’n iawn bod pobl sy’n byw mewn tlodi ledled y byd ac yma yng Nghymru yn wynebu talu’r pris am yr argyfwng y maent wedi gwneud y lleiaf i’w achosi. Rhaid i Brif Weinidog Cymru anfon neges glir at Brif Weinidog y DU: ni ellir parhau i feio pawb arall: mae’n bryd i’r llygrwyr mwyaf dalu am y difrod y maent yn ei achosi.”
Rhaid codi arian ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd a’i wario mewn modd teg er mwyn osgoi gwreiddio’r tlodi a’r anghydraddoldeb sy’n bodoli a chynnal cefnogaeth y cyhoedd wrth drosglwyddo i sero net. Mae hyn yn golygu sicrhau mai’r rhai sydd fwyaf cyfrifol am yr argyfwng sy’n ysgwyddo’r costau mwyaf o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, gan ddiogelu’r rhai sydd leiaf cyfrifol ac sydd heb yr adnoddau i dalu’r bil.
Dywed Oxfam Cymru y dylid defnyddio’r hwb ariannol ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru ei gael i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac ar yr un pryd godi pobl allan o dlodi, gan nodi y byddai buddsoddi mewn bysiau yn flaenoriaeth buddsoddi amlwg.
Ar hyn o bryd, trafnidiaeth yw un o allyrwyr mawr Cymru, gan gyfrif am 17% o allyriadau carbon Cymru. Dywed ymgyrchwyr fod yn rhaid ategu ymdrechion diweddar gan Lywodraeth Cymru i annog mwy o deithio llesol a chynaliadwy – megis cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya – gan fwy o fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae cynnydd mewn prisiau tocynnau, ynghyd â chŵynion am ddibynadwyedd ac argaeledd gwasanaethau bysiau, yn cael eu beio’n aml am ostyngiad yn nifer y teithwyr, ac mae’r gweithredwyr yn rhybuddio y gallai hyd at chwarter gwasanaethau presennol Cymru gael eu dileu heb fwy o fuddsoddiad gan y Llywodraeth.
Dywed Oxfam Cymru y byddai rhoi cymhorthdal i deithio ar fysiau yn gam cyntaf pwysig mewn pecyn ehangach o fesurau sy’n ofynnol i leihau allyriadau trafnidiaeth a gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn fwy dibynadwy, fforddiadwy a hygyrch.
Dywed Oxfam Cymru y gallai llif cyllid newydd i Gymru fod yn ddigon i sicrhau bod pob tocyn bws sengl ledled y wlad yn £1.50.
Ychwanegodd Sarah Rees: “Gallai sgileffeithiau arian newydd sylweddol yn cael ei godi gan Lywodraeth y DU roi hwb ariannol sylweddol i Lywodraeth Cymru, gan ei galluogi i fuddsoddi yn y math o weithredu trawsnewidiol ar y newid yn yr hinsawdd sy’n ofynnol i’n helpu i gyrraedd sero net erbyn 2050.
“Mae buddsoddi mewn bysiau yn benderfyniad amlwg i Lywodraeth Cymru: nid yn unig y byddai’n gwneud Cymru’n fwy gwyrdd, byddai hefyd yn helpu pobl ar incwm isel – sy’n aml yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus – i gyrraedd y gwaith a chyrchu gwasanaethau cyhoeddus yn haws.
“Dylai’r posibilrwydd o gronfeydd newydd sylweddol yn dod i Gymru ysgogi’r Prif Weinidog i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu ‘nawr. Mae bil yr hinsawdd y fawr ac yn cynyddu: mae’n bryd i’r rhai sydd â’r cyfrifoldeb mwyaf a’r gallu ariannol mwyaf dalu.”
/DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450
Nodiadau i’r golygydd
- Mae copïau o Payment Overdue, Fair ways to make polluters across the UK pay for climate justice ar gael ar gais.