Gallai prynu un pâr o jîns ail-law arbed digon o ddŵr i lenwi Llyn Tegid bum gwaith – Oxfam Cymru

Pe byddai pawb yn y DU yn prynu un pâr o jîns ail-law yn hytrach na phâr newydd, gallai hynny helpu i arbed yr hyn sy’n cyfateb i 1 triliwn o boteli safonol o ddŵr, sy’n ddigon i lenwi Llyn Tegid bum gwaith, yn ôl dadansoddiad newydd gan Oxfam.

Daw’r canfyddiadau wrth i Oxfam lansio ei chweched ymgyrch Mis Medi Ail-law i annog pobl ledled Cymru i brynu dillad ail-law a rhoddi eu dillad diangen i helpu i leihau’r angen am ddillad newydd. Mae gan y diwydiant dillad ôl troed dŵr enfawr sy’n rhoi straen ar adnoddau dŵr prin y blaned.

Mae dadansoddiad Oxfam yn datgelu bod cynhyrchu pâr o jîns yn gofyn am 16,000 potel 500 ml safonol o ddŵr – digon i ddiwallu anghenion yfed 4,750 o bobl am ddiwrnod, yn ôl safonau’r GIG.

Mae’r diwydiant ffasiwn byd-eang yn gyfrifol am ddefnyddio 93 biliwn metr ciwbig o ddŵr y flwyddyn – sy’n cyfateb i 37 miliwn pwll nofio Olympaidd.

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Mae’n amlwg o’r ystadegau hyn ein bod yn boddi mewn ffasiwn: mae ein cypyrddau dillad yn gorlifo tra bo dŵr croyw’r blaned yn sychu o ganlynid i’r newid yn yr hinsawdd.  Trwy goleddu’r arfer o brynu dillad ail-law, rydym nid yn unig yn ysgafnhau’r baich ar yr amgylchedd ond hefyd yn canfod eitemau ffasiwn unigryw sy’n garedig i’n waled. Nid oes yn rhaid i ddillad steilus gostio’r ddaear, a thrwy roi dillad i Oxfam a phrynu oddi yno rydych hefyd yn helpu i amddiffyn y blaned gan godi arian hanfodol ar gyfer byd gwell, tecach, sy’n rhydd o dlodi.

Ers ei lansio yn 2019, mae ymgyrch Mis Medi Ail-law Oxfam wedi helpu miloedd o bobl i siopa mewn modd mwy cynaliadwy trwy eu hannog i brynu eitemau ail-law a helpu i leihau effaith y diwydiant ffasiwn ar y blaned.

Yn rhan o ymgyrch eleni, bydd Oxfam hefyd yn cychwyn Wythnos Ffasiwn Llundain unwaith eto ar 12 Medi, a hynny gyda’r sioe rhedfa, Style for Change, a fydd yn cynnwys enwogion wedi’u gwisgo â’r goreuon o blith ffasiwn ail-law gan y steilydd eiconig Bay Garnett.

Bydd Vinted – y mae ei genhadaeth yn cynnwys sicrhau mai ail-law yw’r dewis cyntaf ledled y byd trwy ei gwneud yn rhwydd i bawb ymhobman gyrchu dillad ail-law – yn bartner craidd ar gyfer y sioe ffasiwn. Bydd y cwmni hefyd yn cefnogi ymgyrch Mis Medi Ail-law Oxfam i hyrwyddo ffasiwn ail-law i bawb, ymhobman.

Gall pobl steilio ar gyfer newid y mis Medi hwn trwy addo i brynu dillad ail-law a rhoi eu dillad diangen i Oxfam. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.oxfam.org.uk/get-involved/second-hand-september/

I gael rhagor o wybodaeth neu wneud cais am gyfweliad, cysylltwch ag: Uned y Cyfryngau Oxfam  media.unit@oxfam.org.uk / +44 1865 472498.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion 

Mae cyfrifiadau Oxfam ar gael ar gais.

Gwybodaeth am Oxfam

Mae Oxfam yn fudiad byd-eang o bobl sy’n gweithio tuag at yr un nod – rhoi terfyn ar anghyfiawnder tlodi. Gyda’n gilydd, rydym yn achub ac yn ailadeiladu bywydau mewn trychinebau, yn helpu pobl i ennill bywoliaeth, ac yn dweud ein dweud am y materion mawr, megis anghydraddoldeb a’r newid yn yr hinsawdd, sy’n cadw pobl yn dlawd.

Mae gan Oxfam fwy na 500 o siopau yn y DU. Trwy brynu a rhoddi trwy siopau Oxfam, gallwch help i amddiffyn ein planed, gan hefyd helpu i godi arian sy’n arbed bywydau i fynd i’r afael â thlodi o amgylch y byd.

I ddod o hyd i’ch siop Oxfam leol, ewch i: https://www.oxfam.org.uk/shops/

Ynglŷn â Mis Medi Ail-law

Lansiodd Oxfam ymgyrch Mis Medi Ail-law yn 2019 i ysbrydoli pobl i siopa mewn ffordd sy’n fwy caredig i bobl ac i’r blaned. Mae Mis Medi Ail-law yn ymgyrch i annog pobl i roddi a phrynu eitemau ail-law ym mis Medi.

Gall cyfranogwyr ddefnyddio’r hashnod #MediAilLaw #SecondHandSeptember #FoundInOfam ar Instagram, TikTok a Twitter wrth bostio am eu canfyddiadau, a thagio @OxfamGB.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth: https://www.oxfam.org.uk/get-involved/second-hand-september/