Gofalwyr di-dâl yn Cymru yn cael cynnig cyfle i ddod yn ‘ymgyrchwyr gofalgar trwy grefft’

Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn cael eu hannog i fynegi’r heriau y maent yn eu hwynebu trwy rym ymgyrchu trwy grefft.

Mae We Care – sef ymgyrch ar lawr gwlad sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n cael ei rhedeg gan ofalwyr ar gyfer gofalwyr – ac Oxfam Cymru, wedi ymuno â’r artist tecstilau enwog Vanessa Marr i helpu i hybu barn a lleisiau gofalwyr mewn modd arloesol; a hynny trwy drawsnewid cadachau llwch melyn cyffredin yn negeseuon personol nerthol a phwerus a chynnig cipolwg ar sut beth yw gofalu am rywun arall.

Bydd detholiad o’r cadachau llwch gorffenedig yn cael eu harddangos mewn arddangosfa yn y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan fynd â lleisiau a phrofiadau gofalwyr di-dâl i galon democratiaeth Cymru.

Amcangyfrifir bod oddeutu 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru; sef dros 10% o’r boblogaeth. Mae gofalwyr di-dâl yn darparu gofal hanfodol i blant, pobl sâl a’r henoed a phobl ag anableddau. Ac eto, er gwaethaf y rôl hollbwysig sydd gan ofalwyr di-dâl yng nghymdeithas Cymru, mae We Care ac Oxfam Cymru yn dweud, yn rhy aml o lawer, nad oes neb yn sylwi ar eu hymdrechion nac yn eu gwobrwyo, sy’n golygu bod llawer o ofalwyr yn wynebu caledi emosiynol ac ariannol o ganlyniad.

Mae Ymgyrchwyr Gofalgar trwy Grefft: Gwau Llinynnau Newid, yn brosiect sydd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â’r anweledigrwydd y mae llawer o ofalwyr di-dâl yn dweud y maent yn ei deimlo wrth iddynt wneud eu gwaith gofalu o amgylch eu bywydau prysur. Mae We Care ac Oxfam Cymru yn annog gofalwyr di-dâl o Cymru i ystyried cymryd rhan.

Dywedodd Katy Styles, sylfaenydd We Care: “Trwy ymuno â’n prosiect ymgyrchu trwy grefft, rydym yn gobeithio tynnu sylw at y ffaith bod yna werth unigryw i ofalwyr di-dâl, yn debyg iawn i’r darnau crefft yr ydym yn gobeithio eu creu. Mae’n ffordd unigryw o godi materion yn ymwneud â gofalwyr a chodi ein lleisiau. Bydd dwyn y cadachau llwch gorffenedig ynghyd mewn arddangosfa yn plethu ein holl leisiau ynysig i’w gilydd, a byddant yn fwy pwerus pan fydd y rhai mewn safleoedd o rym yn eu gweld.”

Ychwanegodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Os yw’r pandemig wedi dysgu unrhyw beth i ni, y wers yw mai’r bobl sy’n gofalu am eraill yw sylfaen diamod y gymdeithas yng Nghymru. Heb ofalwyr, byddai ein gwlad a’n heconomi yn dod i stop. Ac eto, am lawer yn rhy hir, nid yw gofalwyr Cymru wedi cael eu gwerthfawrogi na’u gwobrwyo’n ddigonol, ac mae llawer ohonynt wedi cyrraedd pen eu tennyn o ganlyniad – a hynny’n emosiynol ac yn ariannol.

“Mae ymgyrchu trwy grefft yn ffordd o herio’r anghyfiawnder hwn mewn modd mynegiannol, hygyrch ac ystyrlon, trwy ddod â lleisiau a phrofiadau gofalwyr di-dâl – nad ydynt yn cael eu clywed yn aml – yn uniongyrchol i goridorau grym. Rydym yn gobeithio y bydd gofalwyr di-dâl o Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect hwn ac yn ein helpu i adeiladu gwlad sydd wir yn gofalu, lle nad oes neb yn wynebu tlodi o ganlyniad i ofalu.”

Dywed y sefydliadau fod y prosiect yn agored i bob gofalwr di-dâl, p’un a oes ganddo unrhyw brofiad blaenorol o grefftwaith ai peidio.

Byddwn yn postio pecyn ymgyrchu trwy grefft at bobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, ac yn eu gwahodd i ymuno â gweminarau i ddysgu rhagor am bwytho ac i gwrdd â gofalwyr eraill. Bydd y gweminarau’n cael eu recordio ac ar gael wedyn ar-lein i bobl y mae’n well ganddynt wneud gwaith crefft yn eu hamser eu hunain.

Gall gofalwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru ar-lein i gael eu pecyn ymgyrchu trwy grefft rhad ac am ddim.

 

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk/07917 738450    


Nodiadau i Olygyddion