Ysgrifenna Rachel Morris o brosiect Noddfa yng Nghymru Oxfam yn Wrecsam:
Mae ein cymunedau, gan gynnwys y ffoaduriaid sydd wedi dangos parch tuag atom drwy ddod i fyw atom yma i Gymru, yn cynrychioli clytwaith o wreiddiau, sgiliau, doniau, gobeithion a breuddwydion. Mi wnaethon ni benderfynu dathlu Wythnos Ffoaduriaid drwy lunio clytwaith go iawn gan ddefnyddio darnau a sgwariau o wlân lliwgar, ac mae pobl wedi bod wrthi’n ddyfal yn gwneud hyn ers misoedd. Nid yw’r darnau’n debyg i’w gilydd o bell ffordd, ond, nid yw’r rhai hynny sy’n eu gwneud yn debyg i’w gilydd, chwaith: daw pobl (fel darnau o wlân) mewn gwahanol siapiau,
meintiau, a lliwiau. Os gwnewch chi glymu’r cyfan at ei gilydd, cewch rywbeth hardd sy’n denu diddordeb, ac rydym yn gobeithio ei arddangos. Mae Oriel Wrecsam yn cynnal digwyddiadau Wythnos Ffoaduriaid, yn cynnwys oriel o ffotograffau gan Sue McGrane. Mae’r delweddau yn dangos ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dal gwrthrychau sydd o bwysigrwydd personol iddyn nhw. Efallai bod y gwrthrychau’n ymddangos yn ddifywyd a diystyr, ond mae’r pethau rydym yn eu hystyried yn bwysig yn helpu pobl eraill i ddeall ein cefndir a phwy ydym ni. Mae Gwrthrychau gydag
Ystyr wedi cael ei ddatblygu gyda chefnogaeth Oriel Wrecsam, Tîm Cydlyniant Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Grŵp Cefnogi Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Wrecsam (WRASSG).
Ariennir y prosiect Noddfa yng Nghymru gan y Gronfa Loteri Fawr. Ei nod yw mynd i’r afael â materion sy’n wynebu ceiswyr lloches a ffoaduriaid benyw trwy eu cynorthwyo i gael mynediad at hyfforddiant a swyddi a chymryd rhan weithredol yn eu cymunedau.