Siaradodd Deio Gruffydd, Swyddog y Wasg Oxfam Cymru, gyda Sohail Ali am ei brofiadau fel ceisiwr lloches yng Nghymru
Gall byw yng Nghymru fel ceisiwr lloches neu ffoadur fod yn anodd. Ar ôl dianc oddi wrth wrthdaro, erledigaeth, a thywydd eithafol megis sychder, mae pobl yn cyrraedd yma gan obeithio am gyfle i gychwyn eu bywydau eto. A tra bod llawer o waith da yn cael ei wneud, diolch i gynghorau a chymunedau; nid yw’r croeso mor gynnes ag y gallai fod.
Yn y misoedd diwethaf, mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Awdurdodau Lleol a Chymunedau wedi bod yn edrych ar yr heriau hyn, i gael syniad o sut y mae bywyd i bobl sydd wedi dianc o erledigaeth, newyn a rhyfel. Clywodd gwleidyddion sy’n rhan o’r pwyllgor gan sefydliadau, ond yn bwysicach, gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches eu hunain.
Canlyniad yr ymchwiliad yw adroddiad sydd yn cynnig argymhellion ac yn galw am newidiadau fydd yn gwella safonau byw i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru, ac yn galw arnom ni i gyd i gyfrannu i wneud Cymru yn Genedl o Noddfa.
Mi wnes i siarad hefo Sohail Ali, ceisiwr lloches o Bakistan sydd rŵan yn byw yn Abertawe, a roddodd dystiolaeth ger bron y pwyllgor. Mi bwysleisiodd fod y sefyllfa bresennol, yn enwedig wrth ystyried materion fel tai, gwasanaethau ag amddiffyn ffoaduriaid sy’n agored i niwed, angen eu gwella;
“Ni all pobl barhau i fyw mewn tai ble mae popeth wedi torri, ac sy’n fudur. Mae pobl yn cael eu trin fel anifeiliaid yn yr amodau hyn. Mi rydym ni angen system gwyno newydd, ble mae cwyn yn cael ei gofnodi, yn hytrach nai wthio i’r ochr.
“Problem fawr arall yw’r diffyg cefnogaeth sydd yn cael i roi i ffoaduriaid sy’n agored i niwed, yn aml iawn, plant sydd wedi dianc o’r amodau gwaethaf y medrwch ei ddychmygu. Tydi o ddim yn ddigon. Mae llawer yn gorfod edrych ar ôl eu hunain, yn aml heb ddim cefnogaeth.
“Mae gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn fy mhoeni. Ers cyrraedd y wlad yma, nid yw’r system drafnidiaeth wedi bod ar gael yn llawn i ni, ac mae gwersi Saesneg wedi bod yn brin. Heb ddefnydd llawn o wasanaethau hanfodol, sut y mae disgwyl i ni gario’n ‘mlaen? A dwêd, er enghraifft, fod yna deulu sydd hefo argyfwng, ac angen ffonio 999, sut mae posib iddynt wneud hynny heb fedru siarad gair o Saesneg?”
Fel y dywedodd Sohail, mae yna rannau sydd angen gwelliannau ar frys, ond mi ddywedodd ei fod yn croesawu’r argymhellion o’r adroddiad, a’r ffaith eu bod yn targedu’r prif broblemau a’r heriau sydd yn wynebu ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Trwy ddod a materion hyn allan i’r agored, mae pobl yn gallu gweld drostynt eu hunain nad yw’r amodau’n ddigon da, ac mae’r adroddiad yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir.
Hefyd, gwelodd Sohail yr adroddiad fel cyfle i Gymru ddatblygu fel cenedl;
“Fe all Cymru gael ei ystyried fel Cenedl O Noddfa. Mae Cymru wedi bod yn garedig iawn i mi ag eraill sydd yn yr un sefyllfa. Mae yna gymunedau sydd yn barod i helpu. Parhewch i alw am newid, ac mi fyddwch yn wir Genedl o Noddfa.”
Felly beth am fod yn wlad sydd yn barod i gymryd yr her, i fod yn ddinasyddion byd-eang, cyfrifol. Ymunwch ar ymgyrch, a gofynnwch i’ch Aelodau Cynulliad i gefnogi’r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor: