Ar ddydd Iau 22 o Fawrth, fe fydd hi’n Ddiwrnod Dŵr y Byd.
Mae dŵr yn hanfodol i’n goroesiad; ffaith syml yr ydym i gyd wedi’i dysgu yn yr ysgol. Rydym oll yn gwybod bod dŵr yn hollbwysig i gynnal ein cyrff, i ddyfrio ein cnydau, i dyfu ein bwyd, i dynnu dŵr yn y tŷ bach a miloedd o ddefnyddiau eraill.
Mae dŵr yn hanfodol i bob agwedd o’n bywydau ond mewn cyfnod o argyfwng, boed hynny’n wrthdaro, tlodi eithafol neu drychineb naturiol, mae cyflenwad glân o ddŵr yn un o’r adnoddau cyntaf i gael ei effeithio.
Yn Ne Swdan, mae hyn yn broblem enfawr. Mae’r wlad wedi cael ei difrodi gan ryfel cartref echrydus ers pum mlynedd, sydd wedi gadael dros bedair miliwn o bobl yn ddi-gartref. Mae pobl wedi cael eu gorfodi i ffoi heb unrhyw rybudd nac amser i gynllunio, ac yn aml iawn mae’n rhaid iddynt symud i ardaloedd sydd heb ddŵr glân na glanweithdra. Mae hyn, ynghyd â thlodi eithafol a diffyg isadeiledd wedi gadael un ym mhob dau o bobl yn Ne Swdan heb ddŵr glân. Hanner y boblogaeth.
I Jackline, sydd yn byw yn ardal Gumbo o Juba, prif ddinas De Swdan, mae canlyniad hyn yn dorcalonnus. Bu farw ei phlentyn cyntaf o ddolur rhydd, salwch cyffredin sy’n gysylltiedig â dŵr budr. Gall dŵr budr hefyd achosi clefydau megis tyffoid a cholera, sydd yn hawdd eu trin, ond heb gyflenwad dŵr priodol a thriniaeth gyflym, gall y clefydau hyn ladd.
Mae hyn yn broblem enfawr i wledydd sydd wedi cael eu hysgwyd gan ryfela a sychder. Ond, mae yna wastad bobl sydd yn dyfalbarhau, ac yn gweithio’n ddiflino i ddod a dŵr glân i’w cymunedau.
Mae Jackline a’i chymuned yn Gumbo yn un enghraifft o grŵp o bobl ymroddgar a gwydn, sydd yn gweithio i sicrhau bod dŵr glân ar gael i bawb. Mae’r orsaf trin dŵr yn Gumbo, sydd wedi’i ariannu gan Oxfam GB, wedi dod a dŵr glân i 24,000 o bobl. Mae’r orsaf, sydd yn cael ei phweru gan ynni solar, yn troi dŵr budr o’r afon gyfagos yn ddŵr glan, pur, i’w yfed. Mae’r orsaf yn cael ei rhedeg a’i rheoli gan y gymuned, yn hytrach na bod yn berchen i’r llywodraeth neu gwmnïau preifat.
Mae prosiectau fel hyn yn dod a gobaith i gymunedau sydd wedi cael eu taro gan wrthdaro, sychder a thlodi. Fel y dywedodd Jackline;
“Rydym ni wedi dioddef digon yn barod. Wnawn ni ddim dioddef rhagor nawr bod gennym ni ddŵr.”
Gwyliwch y fideo i weld y bobl tu ôl i’r stori ysbrydoledig hon:
Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am waith a phrosiectau WASH Oxfam (dŵr, glanweithdra a hylendid), neu os ydych yn rhiant neu athro/athrawes sydd eisiau dysgu eich plant neu ddisgyblion am bwysigrwydd dŵr glân, cymerwch olwg ar ein hadnoddau dysgu: