Tair blynedd ers cychwyn gwrthdaro ciaidd yn Yemen, mae Oxfam yn galw am derfyn i’r ymladd ar unwaith yn y gobaith o gael heddwch parhaol yn y wlad.
Mae’r rhyfel didrugaredd wedi lladd miloedd ac wedi difetha’r wlad. Hyd yma, mae bron i dair miliwn o bobl – sy’n cyfateb i holl boblogaeth Cymru – wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi oherwydd y bomio a’r ymladd.
“Dros y tair blynedd ddiwethaf mae teuluoedd ar draws Yemen wedi profi dioddefaint ar raddfa enbyd,” dywedodd Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru. “Mae miloedd ar filoedd yn ceisio goroesi mewn pebyll dros dro, heb fwyd, heb ddŵr. Mae angen cymryd camau ar unwaith i atal rhag mwy o niwed a dinistr.
“Rydym yn annog Llywodraeth y DU i roi pwysau ar bob ochr yn y gwrthdaro i gytuno ar gadoediad yn yr ymladd, ac i ddod o hyd i ateb gwleidyddol a fydd yn galluogi pobl Yemen i gael mynediad at fwyd, dŵr a gwasanaethau sylfaenol eraill y maent eu hangen.
“Mae Cennad arbennig newydd y Cenhedloedd Unedig i Yemen, Martin Griffiths, hefyd yn rhoi cyfle newydd i helpu’r wlad hon sydd wedi cael ei difetha gan ryfel i symud tuag at heddwch. Mae pobl Yemen angen cyfle i adfer eu calonnau a’u cartrefi.”
Mae’r gwrthdaro cynyddol yn arwain at ddirywiad dyddiol yn y sefyllfa ddyngarol. Mae dros bedair miliwn o bobl yn dioddef o ddiffyg maeth, gan gynnwys bron i hanner miliwn o blant sydd mewn cyflwr a all beryglu eu bywydau. Mae dros 14 miliwn o bobl yn byw heb gyfleusterau dŵr glân a glanweithdra, ac mae angen cymorth dyngarol ar dros 20 miliwn o bobl – sef 75 y cant o’r boblogaeth.
Mae rhifau enfawr fel hyn yn aml yn colli pob ystyr, ond mae straeon y teuluoedd sydd tu ôl i’r rhifau yn dangos y realiti mor glir â haul ar bared.
“Doeddwn i ddim yn medru gweld dim byd oherwydd y llwch,” meddai Halima, sy’n 36, ac yn fam i wyth o blant, wrth iddi feddwl yn ôl am yr ymosodiad ar eu cartref. “Y cyfan yr ydw i’n ei gofio ydi sgrechian enwau fy mhlant.”
Fe ddihangodd Halima o’i chartref yn dilyn ymladd dwys ag ymosodiadau o’r awyr a laddodd ei gŵr. Gydag unman i fynd, dihangodd i wersyll Amran, ac mae hi’n dweud fod y “dioddefaint wedi dyblu” ers symud yno.
“Mae fy mhlant a minnau yn byw ar ba bynnag fwyd a meddyginiaeth yr ydym ni’n ei gael gan bobl. Weithiau, rydw i’n begera yn y marchnadoedd neu wrth ddrysau pobl i ofyn am fwyd. Un pryd y dydd gawn ni rhan fwyaf o’r amser.”
Ers i’r rhifel ddechrau mae prisiau codi wedi codi yn arthurol. Mae pris reis wedi codi 131 y cant, ffa 92 y cant, olew llysiau 86 y cant, a blawd er mwyn pobi bara wedi codi 54 y cant. Yn ystod yr un cyfnod mae’r nifer o bobl sydd heb ddigon i’w fwyta wedi codi 68 y cant, ac felly yn cyrraedd y ffigwr anhygoel o
bron i 18 miliwn o bobl.
Mae Oxfam wedi helpu Halima gyda nwyddau angenrheidiol megis blawd gwenith, reis, siwgr, ffa ac olew llysiau. “Mae Oxfam wedi darparu cymorth i ni ar yr amser iawn. Dyma’r tro cyntaf i ni dderbyn bwyd ers i ni gyrraedd y gwersyll, gan achub fy mywyd i a bywydau fy mhlant.”
Mae stori Halima yn un o filoedd. Ar draws Yemen, mae teuluoedd yn ceisio goroesi mewn pebyll dros dro ar leiniau o dywod. Pob dydd mae mwy a mwy o deuluoedd yn cael eu heffeithio gan ymosodiadau ffyrnig o’r awyr. Mae pobl o bob oed yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi heb hyd yn oed eu heiddo mwyaf gwerthfawr, ac weithiau heb eu teuluoedd hyd yn oed.
Daw Dr. Ali Saif yn wreiddiol o Yemen, ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd. Mae’n dal i fod mewn cysylltiad gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ei wlad enedigol.
“Mae’r bobl ddiniwed hyn, sydd eisoes yn byw yn un o wledydd tlotaf y byd, bellach yn byw ar y dibyn go iawn. Rwy’n poeni am fy ffrindiau a fy nheulu yn Yemen. Mae’r brwydro wedi dinistrio llawer o’r porthladdoedd, ac mewn gwlad lle mae 90% o’r bwyd yn cael ei fewnforio, mae hyn yn drychineb.
“Rydw i’n credu y dylai’r DU, ynghyd â’r gymuned ryngwladol, roi pwysau i roi terfyn ar y trais disynnwyr, a rhoi stop ar y dioddefaint yma sydd ar raddfa enfawr. Mae pobl Yemen yn haeddu’r un hawliau a diogelwch sydd gennym ni yma’n Nghymru, ac felly mae gennym ni ddyletswydd i’n cyd bobl i alw ar ddiwedd i’r gwerthiant o arfau, ac i ddylanwadu ar newid positif i Yemen.”
Mewn ymateb i argyfwng Yemen, mae Oxfam wedi cyrraedd dros 1.4 miliwn o bobl gyda dŵr a gwasanaethau glanweithdra, cymorth ariannol a thocynnau bwyd.
DIWEDD