O ddiffyg hyder i swydd lawn amser: llwyddiant prosiect Sgiliau Bywyd

Mae Rumi Razzak o Gaerdydd yn fam brysur i dri bachgen ac mae ei gŵr yn gweithio’n llawn amser. Y llynedd, fe ddechreuodd ystyried edrych am swydd, ond heb syniad lle i gychwyn.

 

“Y flwyddyn ddiwethaf roeddwn i’n teimlo’n ddigon diymadferth a dweud y gwir,” meddai Rumi, oedd yn arfer gwneud gwaith gofal cwsmer yn British Gas. “Roeddwn i’n teimlo fel nad oeddwn i byth am gael swydd gan nad oedd gen i brofiad, does gen i ddim byd i’w ddangos ar fy CV, yn brofiad gwaith diweddar, gan fy mod i wedi bod yn edrych ar ôl fy meibion.”

Pum mis yn ôl, fe ymunodd Rumi â Sgiliau Bywyd, prosiect oedd yn cael ei redeg gan Oxfam Cymru a Chanolfan Datblygu Gymunedol De Glan yr Afon, i gefnogi merched yng Nghaerdydd i fagu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen at waith gweddus. Roedd Prosiect Sgiliau Bywyd yn canolbwyntio yn benodol ar ferched Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME), ac yn darparu rhaglen wedi ei theilwra o weithdai, hyfforddiant, sesiynau hyfforddi proffesiynol (coaching) a lleoliadau gwaith gwirfoddol dros gyfnod o flwyddyn.

“Ers cychwyn ar y prosiect, a’r hyfforddiant rydw i wedi’i gael, mae wedi fy helpu i adeiladu ar fy hyder,” meddai Rumi. “Rydw i nawr yn teimlo fel fy mod i’n medru cael swydd. Rydw i’n teimlo’n hyderus, mae gen i fwy i’w gynnig. Rydw i’n teimlo’n gyffrous ar ôl y profiad gwaith, rydw i’n sicr yn teimlo’n dda amdanaf i fy hun erbyn hyn.”

Hefyd, yn y mis diwethaf, fe dderbynion ni’r newyddion gwych fod Rumi bellach wedi cael cynnig swydd gyflogedig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ôl cyfnod o dri mis ar leoliad gwaith yno.

“Rydw i’n teimlo’n hynod o gyffrous am gael swydd ac mi rydw i’n edrych ymlaen at gychwyn arni. Y peth sydd fwyaf cyffrous ydi’r oriau, mi fedra i fynd a’r plant i’r ysgol o gwmpas fy swydd, sy’n beth hynod o braf” meddai Rumi.

Mae stori Rumi yn un enghraifft o lwyddiant y Prosiect. Mae Sgiliau Bywyd wedi cefnogi 54 o ferched, ac mae 14 nawr wedi cael gwaith. I glywed mwy o straeon ysbrydoledig, gwyliwch y fideo:

 

Wrth weithio a chefnogi pobl, mae Oxfam wastad yn edrych ar beth all person ei wneud, yn hytrach na’r hyn na allent ei wneud, gan adeiladu ar hynny trwy rymuso, ysbrydoli a chefnogi pobl i gymryd rheolaeth o’u sefyllfa economaidd er hunain. Dyma’n union a wnaed yn ystod Prosiect Sgiliau Bywyd. I ddysgu mwy am y dull hwn o weithio gyda phobl, sef y Dull Bywoliaethau Cynaliadwy (SLA yn Saesneg, Sustainable Livelihoods Approach) cliciwch yma.

Roedd Prosiect Sgiliau Bywyd yn rhan annatod o waith Oxfam yng Nghymru ac ar draws y DU i fynd i’r afael ag achosion tlodi. Mae cymunedau BME, ac yn enwedig merched, yn un o’r grwpiau sydd yn dioddef fwyaf o ran anfantais cymdeithasol ag economaidd, ac yn dioddef lefelau anghymesur o dlodi ac alltudo cymdeithasol. Mae merched yn dal i gael llai o dâl am y gwaith maen nhw’n ei wneud – mae’r bwlch cyflog rhwng merched a dynion yn golygu bod merched yn ennill 18% yn llai na dynion am wneud yr un swydd – ac o ran y merched sy’n gweithio’n rhan-amser yng Nghymru, mae
40% yn cael eu talu llai na’r Cyflog Byw. Yn aml, nid oes gan ferched lais yn y broses o wneud penderfyniadau ac nid ydynt yn cael eu cynrychioli yn llawn mewn swyddi arweinyddiaeth chwaith – dyna pam mae Oxfam a’n partneriaid yn gweithio i newid hyn.

Mae Sgiliau Bywyd yn brosiect oedd yn rhan o raglen ehangach Oxfam;Future Skills, sydd yn helpu i daclo tlodi ar draws y DU trwy ddefnyddio ein rhwydwaith o siopau elusen. Mae’r prosiect wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ym Manceinion yn y flwyddyn ddiwethaf gyda Chaerdydd, Glasgow, Rhydychen a Llundain yn dilyn wedyn. Mae’r prosiect hefyd wedi adeiladu ar brosiectau blaenorol Oxfam Cymru; Sanctuary in Wales a Mynediad at Waith a Menter, yn ogystal â’n prosiect tair blynedd, Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau. Gallwch ddarllen copi o’r adroddiad gwerthuso terfynol trwy glicio yma.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Oxfam Cymru: oxfamcymru@oxfam.org.uk / 0300 200 1269.

Mae’r prosiect Sgiliau wedi’i gefnogi gan raglen Cymunedau Dros Waith ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.