Ydych chi yn dymuno datblygu meddwl critigol eich myfyrwyr mewn dinasyddiaeth fyd-eang? Yn dymuno cael cyfres o weithdai diwrnod cyfan yn eich ysgol ar amser sy’n addas i chi? Oes ganddoch chi ddiddordeb mewn materion ynghlwm â’r Argyfwng Ffoaduriaid?
Os felly, dymunwn ichi ymgeisio am raglen gefnogi dinasyddiaeth fyd-eang CreuNewid 2017-2018, ar gyfer ysgolion uwchradd a cholegau. Dyma gyfle cyffrous i ysbrydoli pobl ifanc a datblygu eu sgiliau yn eich ysgol!
Pwy all gymryd rhan?
Mae CreuNewid ar gyfer grwpiau o ddysgwyr 14-18 mlwydd oed mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. Byddai’r prosiect yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr Bagloriaeth Cymru, fodd bynnag, nid oes rhaid i ddysgwyr fod yn astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru i gymryd rhan. Caiff pob ysgol a choleg yng Nghymru eu hannog i wneud cais. Os ydych yn ysgol/coleg cyfrwng Cymraeg, a fyddech cystal â nodi na fydd hwylusydd (hwyluswyr) y gweithdy o bosib yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond gwneir pob ymdrech i sicrhau y bydd deunyddiau a ddefnyddir gyda dysgwyr ar
gael yn newis iaith y grŵp (Cymraeg neu Saesneg).
Beth sydd ynghlwm wrth hyn?
TDylai’r athro/athrawes gyfrifol o’r ysgol/coleg gwblhau’r ffurflen gais, gyda dysgwyr yn cael eu hannog i roi eu mewnbwn. Dylai bod 12-20 dysgwr yn y grŵp CreuNewid. Eleni mae lle ar gyfer pedair ysgol CreuNewid./strong>.
Byddwn yn cynnal gweithdy diwrnod llawn neu ddau hanner diwrnod ym mhob un o’r ysgolion CreuNewid a ddewisir, ar amseroedd a dyddiadau y cytunir arnynt gyda’ch ysgol rhwng mis Hydref 2018 a mis Ionawr a 2019. Bydd y gweithdai’n cefnogi dysgwyr i;
- Archwilio’r argyfwng ffoaduriaid cyfredol a symudiad pobl, gan gynnwys ymfudo
- Meddwl yn ddifrifol am y materion hyn mewn ymateb i amrywiaeth o ysgogiadau
- Clywed gan ffoadur neu geisiwr lloches sy’n byw yng Nghymru
- Dysgu am yr hyn y mae eraill yn ei wneud i greu newid cadarnhaol
- Llunio a chynnal prosiectau addysg cyfoedion
Dim ond 3 Ysgol a choleg yng Nghymru fydd yn cael eu dewis i gymryd rhan drwy broses ymgeisio cystadleuol. I wneud cais, ewch i https://www.wcia.org.uk/cewc/index.html
Darperir CreuNewid mewn partneriaeth ag mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a Oxfam Cymru. Ariennir CreuNewid gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen
Addysg Ryngwladol British Council Wales.