Heddiw yng Nghymru, mae 24% o bobl yn byw mewn tlodi, a menywod yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw. Dro ar ôl tro, mae gormod o fenywod mewn swyddi rhan-amser, ansicr a dros dro sy’n talu’n wael. Mae menywod yn wynebu’r baich dwbl o dlodi a gwahaniaethu, ac yn parhau i dderbyn llai o gyflog na dynion, hyd yn oed ar y brig. Hefyd, maen nhw’n ei chael hi’n anodd ffeindio swydd sy’n caniatáu iddyn nhw ennill bywoliaeth ac ysgwyddo’r rhan fwyaf o faich gwaith tŷ a
gofal plant.
Mae Oxfam Cymru wedi comisiynu tri darn o waith ymchwil annibynnol ond cysylltiedig ar waith gweddus i fenywod yng Nghymru, pob un gyda safbwyntiau a chyfres o argymhellion gwahanol.
Bu’r Sefydliad Materion Cymreig, ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, yn cynnal prosiect ymchwil ansoddol yn ystyried profiadau gweithwyr ar gyflogau isel yng Nghymru. Daeth sawl thema gyffredin i’r amlwg: yr heriau o gydbwyso gwaith a dyletswyddau gofal, yn enwedig gofal plant; pwysigrwydd boddhad mewn swydd a bod gweithio’n werth chweil; bod cyflog ac amodau gwaith yn hollbwysig; a gwerth cysylltiadau rhyngbersonol ac amgylchedd cymdeithasol da yn y gwaith. Mae’r ymchwil yn bwrw golwg fanwl ar brofiadau cadarnhaol a negyddol o waith, a’r ffactorau
sy’n golygu ‘gwaith gweddus’. Gallwch weld yr adroddiad llawn ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig yn https://www.iwa.wales/wp-content/uploads/2018/08/201708-FINAL-Oxfam-Decent-Work-Qualitative-Research-Report.pdf.
Aeth Dr Claire Evans o Brifysgol Metropolitan Caerdydd ati gynnal adolygiad llenyddiaeth trylwyr ar dlodi mewn gwaith ac ymdrechion menywod i chwilio am waith gweddus yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn cynnig pob math o argymhellion gwahanol, gan gynnwys: bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu corff i wella amodau gwaith gweithwyr ar gyflogau isel; bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei pholisi caffael ei hun i ddylanwadu ar ymddygiad cyflogwyr; bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi, yn annog ac yn |
Cynhaliodd Chwarae Teg astudiaeth ymchwil ansoddol ar waith gweddus a rhwystrau i fenywod rhag camu ymlaen yn y maes gofal cartref a’r sector bwyd a diod. Mae’r sectorau hyn yn debygol o dyfu, ac eto wedi’u nodweddu gan waith o ansawdd isel a chyflogau isel heb fawr o gyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa. Roedd yr adroddiad yn pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng syniadau neu ragdybiaethau pobl am y sectorau hyn, a’r realiti o weithio ynddyn nhw. Mae’r syniad fod y gwaith sy’n cael ei wneud yn y sectorau hyn o werth di-nod yn parhau i ysgogi llawer o’r
heriau sy’n rhaid mynd i’r afael â nhw – heriau fel sicrhau gwaith gweddus, gan gynnwys cyflogau isel, contractau ansicr, trosiant uchel o staff, heriau recriwtio a chadw, a buddsoddiad prin. I weld yr adroddiad a’r argymhellion yn llawn, trowch i wefan Chwarae Teg yn https://www.cteg.org.uk/.
Mae’r dystiolaeth fod menywod yn wynebu rhwystrau ychwanegol i gael gwaith gweddus yn amlwg, ac mae’n addas bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ‘Comisiwn Gwaith Teg’. Nod y Comisiwn yw gwneud argymhellion i hyrwyddo ac annog gwaith teg yma yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys datblygu mesurau gwaith teg, a nodi a oes angen cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd. O gofio nad yw cyfraddau tlodi Cymru wedi newid rhyw lawer mewn degawd, rhaid i’r Comisiwn Gwaith Teg fod yn uchelgeisiol. Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod gwaith gweddus i fenywod wrth wraidd ei ymdrechion. Mae
Prif Weinidog Cymru eisoes wedi datgan yn gyhoeddus ei ymrwymiad i gael llywodraeth ffeministaidd yng Nghymru – mae hwn yn gam pwysig ar y trywydd hwnnw.
Gwyddom fod gwaith teg a gwerth chweil yn hanfodol i drechu tlodi yn ein gwlad, ac rydym yn barod i gefnogi Comisiwn Gwaith Teg Llywodraeth Cymru. Mae’n hollbwysig hefyd fod menywod – eu lleisiau, eu profiadau a’u hanghenion – wrth galon yr ymdrechion hyn.