Ym mhob cwr o Gymru, mae mwy a mwy o bobl yn sefyll ar ymyl dibyn tlodi wrth i hunllef COVID barhau i achosi difrod ledled ein cymdeithas a’n heconomi.
Ond, fel y gŵyr Oxfam ar ôl treulio degawdau yn gweithio gyda chymunedau o amgylch y byd, nid dioddefwyr goddefol y mae angen eu hachub yw pobl sy’n byw mewn tlodi. Mae hynny ymhell o fod yn wir.
Dyna pam y mae Oxfam Cymru wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru i sefydlu dull sy’n cefnogi pobl ledled Cymru i fod yn benseiri eu llwybrau eu hunain i ffyniant.
Ers bron 15 mlynedd mae Oxfam Cymru wedi manteisio ar arbenigedd byd-eang Oxfam wrth fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru, a hynny trwy ddefnyddio dull o ymgysylltu â phobl sy’n byw mewn tlodi o’r enw ‘Dull Gweithredu sy’n canolbwyntio ar Fywoliaeth Gynaliadwy’.
Wrth wraidd y dull hwn mae yna ffordd o ddadansoddi a newid bywydau pobl sy’n profi tlodi a difreintedd. Mae’n ddull cyfranogol sy’n seiliedig ar gydnabod bod gan bob unigolyn alluoedd ac asedau y gellir eu meithrin i’w helpu i wella eu bywydau.
Ei nod yw ailddychmygu athrawiaeth ddiflas, sydd yn hanesyddol yn aml wedi arwain y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio maint balans banc rhywun i roi syniad o’i ddyfeisgarwch. Gwyddom fod dull o’r fath yn arwain at bolisi gwael sy’n trin pobl sy’n byw mewn tlodi fel grŵp homogenaidd, y mae yna un ateb ar ei gyfer.
Yn lle diystyru pobl oherwydd y pethau nad oes ganddynt, mae’r Dull Gweithredu sy’n canolbwyntio ar Fywoliaeth Gynaliadwy yn ffocysu ar y sgiliau, y galluoedd a’r adnoddau sydd gan bobl. Yn ogystal â bod yn offeryn defnyddiol i helpu unigolion a chymunedau i wella eu sefyllfaoedd, mae gan y Dull rôl ganolog i’w chwarae o ran llunio ymatebion priodol i bolisi sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth graff o’r strategaethau y mae pobl yn eu defnyddio a’r dewisiadau y maent yn eu gwneud bob dydd er mwyn goroesi.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Oxfam Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru i gyflwyno hyfforddiant ar y Dull Gweithredu sy’n canolbwyntio ar Fywoliaeth Gynaliadwy a’i gynnwys yn ffyrdd o weithio Canolfannau Gwaith.
Gyda Gweinidog yr Economi yng Nghymru yn rhybuddio bod y wlad yn wynebu lefelau o ddiweithdra nas gwelwyd ers degawdau, ni fu erioed mwy o angen mabwysiadu dull o’r fath ledled y wlad.
Yn gyffredinol, cafodd 669 o staff yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid cymunedol eu hyfforddi mewn sesiynau a oedd yn cwmpasu ymwybyddiaeth o dlodi, ynghyd â’r broses o gymhwyso pecyn cymorth Oxfam Cymru, sef Dull Gweithredu sy’n canolbwyntio ar Fywoliaeth Gynaliadwy.
Mae canlyniadau’r prosiect yn siarad drostynt eu hunain. Roedd yr adborth gan yr hyfforddwyr gwaith yn eithriadol o gadarnhaol, gyda’r hyfforddwyr yn nodi hwb i hyder, llesiant meddyliol a lefelau cyflogaeth y bobl yr oeddent yn eu helpu, yn ogystal â chynnydd i forâl a phenderfyniad yr hyfforddwyr eu hunain.
Mewn gwirionedd, bu’r broses o roi’r Dull Gweithredu ar waith mor llwyddiannus nes bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dull wrth gyflwyno buddion datganoledig yng Nghymru; penderfyniad darbodus o ystyried y rhagolygon economaidd llwm.
Os oes yna un peth y mae COVID wedi’i ddangos i ni, y ffaith bod nifer ohonom yn ddim mwy nag un siec gyflog i ffwrdd o dlodi yw hynny. Ac os oes yna un peth y mae’r prosiect hwn wedi ei ddangos i ni, y ffaith nad un llwybr allan yn unig sydd yna yw hynny. Yn hytrach, mae’n rhaid i ni groesawu’r egwyddor na ddylai cyngor a chymorth ar gyfer pobl sy’n byw mewn tlodi fyth fod yn nawddoglyd nac yn ostyngol; yn lle hynny, dylai fod yn bersonol, yn gyfannol ac wedi’i wreiddio yn y broses o gydnabod y sgiliau a’r adnoddau cynhenid sydd gan bob un ohonom i adeiladu bywydau teilwng, hapus sy’n rhydd o anghyfiawnder tlodi.
Darllenwch y gwerthusiad annibynnol terfynol o Ddull Gweithredu sy’n canolbwyntio ar Fywoliaeth Gynaliadwy Oxfam Cymru/Yr Adran Gwaith a Phensiynau yma: https://bit.ly/35K9jgM