Yn ddiweddar, fe lansiwyd Tlodi Bwyd yng Nghymru: galwad i weithredu gan Gynghrair Tlodi Bwyd De Cymru (CTBDC). Mae’r adroddiad yn dangos maint syfrdanol tlodi bwyd yng Nghymru.
Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru yn poeni ynglŷn â bwyd yn dod i ben.
Mae’r adroddiad yn creu darlun brawychus o’r ffordd y mae hynny’n effeithio ar ferched, dynion a phlant, gan gynnwys nifer gynyddol o bobl mewn gwaith. I lawer iawn o bobl sy’n byw yn ein cymunedau heddiw, mae’n anodd rhoi prydau iach ar y bwrdd yn rheolaidd.
Mae CTBDC, sy’n cynnwys sefydliadau o bob rhan o’r rhanbarth, wedi mapio tirlun tlodi bwyd, ac yn gwneud galwadau eang ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gan gynnwys:
- Yr angen i fesur tlodi bwyd, fel y gallwn ddeall maint llawn y broblem, wedyn datblygu atebion effeithiol ac olrhain cynnydd;
- Yr angen i sicrhau bod holl blant Cymru yn cael eu bwydo a’u maethu’n ddigonol, yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau’r ysgol;
- Yr angen i ddefnyddio’r holl ysgogiadau polisi i sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru yn talu’r Cyflog Byw go iawn.
Daw’r adroddiad yn syth ar ôl i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, Yr Athro Phillip Alston, ymweld yr hydref diwethaf â’r Deyrnas Unedig, yn cynnwys Cymru. Roedd yn glir yn ei asesiad:
Mae llywodraethau olynol [y DU] wedi dod â newid chwyldroadol yn y system ar gyfer darparu lefelau lleiaf o degwch a chyfiawnder cymdeithasol i bobl Prydain, ac yn enwedig i’r gwerthoedd sy’n sail i hynny. Mae elfennau allweddol yng nghytundeb cymdeithasol Beveridge, a ddaeth i fod ar ôl y rhyfel, yn cael eu gwrthdroi. Yn y broses, sicrhawyd rhai canlyniadau da yn bendant, ond mae trallod mawr wedi cael ei osod hefyd, yn enwedig ar y tlawd sy’n gweithio, ar famau sengl sy’n brwydro yn erbyn anawsterau aruthrol, ar bobl ag anableddau sydd eisoes wedi’u gwthio i’r cyrion, ac ar filiynau o blant sydd yn cael eu caethiwo mewn cylch tlodi y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael anhawster mawr i ddianc ohono.
Mae’r datganiad o’i ymweliad â’r DU, y gellir ei weld yma, yn cynnwys adran ar Gymru, lle mae’n tynnu sylw at y ffaith bod Cymru’n dal i fod â’r gyfradd tlodi gymharol uchaf yn y DU.
Nid yw adroddiad CTBDC yn rhoi ateb gwyrthiol i ni ond mae’n alwad i weithredu. Mae’n ein hannog i integreiddio ein hymdrechion a chydweithio – ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru – tuag at ymyriadau mwy cydlynol ac effeithiol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.
.