Menu For Change Cymru
Er mai’r Deyrnas Unedig yw un o’r economïau cyfoethocaf yn y byd, mae llawer o bobl yn cael trafferth fforddio bwyd. Yr wythnos diwethaf, ymunodd 40 o bobl o bob rhan o Dde Cymru yng Nghymdeithas Tai Calon ym Mlaenau Gwent i drafod ansicrwydd bwyd.
Mae banciau bwyd yn dod yn rhan rhy gyfarwydd o fywyd yng Nghymru, ac mae gormod o bobl yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwyta. Nid oes modd cyfiawnhau’n foesol y defnydd cynyddol o fanciau bwyd mewn gwlad lle mae yna ddigonedd o fwyd. Achosir ansicrwydd bwyd gan ormod o dlodi, nid rhy ychydig o fwyd.
Yng Nghymru heddiw, mae 24% o bobl yn byw mewn tlodi, ac mae’r ffigur hwn wedi aros yn gyson i raddau helaeth ers degawd. Yn 2017-18, darparwyd 98,350 o werth tridiau o gyflenwadau bwyd brys i bobl mewn argyfwng yng Nghymru gan fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell – ac o’r rhain aeth 35,403 i blant.
Sefyllfa debyg sydd yn yr Alban, ac mae’r defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu. Sefydlwyd y prosiect ‘Menu for Change’ yn yr Alban yn 2017. Ei nod oedd lleihau’r angen am gymorth bwyd brys yn yr Alban trwy wella mynediad at gyngor a chymorth ariannol pan oedd pobl yn profi ansicrwydd bwyd ac argyfyngau ariannol. Datblygodd y prosiect amrywiaeth o argymhellion o ran polisïau, wedi’u hanelu at lefelau gwahanol o’r llywodraeth – pob un ohonynt yn ymwneud â thair prif alwad:
- Sicrhau incwm digonol a diogel;
- Gwella mynediad urddasol at arian parod a chyngor mewn argyfwng;
- Cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus cyfannol ac empathig sy’n trin pobl â charedigrwydd a pharch.
Roedd y digwyddiad yn galluogi cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, banciau bwyd, a sefydliadau cymunedol eraill i drafod sut y gellid cymhwyso yn Ne Cymru y canlyniadau a’r hyn a ddysgwyd o brosiect Menu for Change. Amlygwyd sawl thema allweddol yn ystod y drafodaeth a oedd yn canolbwyntio ar y canlynol: pwysigrwydd dull sy’n seiliedig ar leoedd a rhoi llais profiad go-iawn wrth galon unrhyw ymateb; yr angen i adnabod lle y mae cyngor yn eistedd, a lle y mae’r lleoedd diogel i bobl gael cyngor – gan sicrhau bod pob cyswllt a wneir yn cyfrif; yr angen i gynyddu lefelau ymddiriedaeth yn y cyngor a ddarperir gan awdurdodau; troi at fusnesau i weld beth arall y gallant ei wneud, er enghraifft, o ran cefnogi busnesau newydd, a gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd; yr angen dybryd am waith teilwng yn yr ardal; ac y rhai sy’n wynebu tlodi mewn gwaith; ond yn y pen draw, lleihau’r angen am fanciau bwyd.
Mae gan Dde Cymru gryfderau enfawr er mwyn mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd – llawer o ‘fes’: rhwydwaith trydydd sector cryf, rhwydwaith o ganolfannau cymunedol, pantrïau a chaffis cymunedol, gwirfoddolwyr, rhwydwaith lles integredig, a phrosiectau hyperleol sy’n mynd i’r afael ag anghenion lleol – ond rhaid ategu’r rhain trwy weithredu pendant gan lywodraethau a busnes.
Mae Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru yn darparu’r fframwaith i gyrff cyhoeddus fynd i’r afael â hyn – Cymru ffyniannus, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal. Mae Oxfam yn ddiolchgar i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent am ei gymorth wrth drefnu’r digwyddiad hwn.
Cyflwynwyd Menu for Change gan Oxfam yr Alban, Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yr Alban, y Gynghrair Tlodi, a Nourish Scotland, ac fe’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy’r Gronfa Gymunedol. Gellir gweld manylion llawn y prosiect yn https://menuforchange.org.uk/.
Wnawn ni ddim byw â thlodi.