Ers bron i ddwy flynedd dw’i wedi bod wrthi’n trio byw yn wyrddach, ac wedi bod yn ysgrifennu am y daith ar flog gwyrddach.com ac mewn cyfrol newydd sbon danlli, Gwyrddach: Camau Bach at Fyw’n Ddiwastraff a Diblastig. Doedd prynu potel ddŵr ailddefnyddadwy a defnyddio finegr a soda pobi i lanhau’r tŷ ddim yn teimlo fel rhyw aberth mawr, ond nid dyna’r achos gyda phrynu dillad…
Chi’n gweld, dw’i wastad wedi dwli ar ddillad… a sgidie, bagiau, hetiau, sgeirff, teits lliwgar ayyb ayyb. Ond wrth ymchwilio i mewn i effaith y diwydiant ffasiwn ar y ddaear a’i phobl, ges i fy synnu cyn lleied o’n i’n gwybod am sut o’dd y dillad ar fy nghefn yn cael eu creu.
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n cynhyrchu tua 80 biliwn o ddillad newydd bob blwyddyn, a’r diwydiant ffasiwn yw’r ail lygrwr mwyaf ar ôl y diwydiant olew. Ond nid yr amgylchedd yn unig mae’r diwydiant yma’n effeithio arno, ond hefyd y bobl sy’n creu ein dillad. Mae’n ymddangos bod rhywbeth newydd i ni ei brynu yn y siopau bob wythnos ac rydyn ni’n prynu 400% yn fwy o ddillad nag redden ni ryw ddeng mlynedd yn ôl, ac ar gyfartaledd dim ond rhyw bum gwaith y byddwn ni’n gwisgo dilledyn cyn ei daflu.
Ro’n i wastad wedi meddwl fy mod i’n siopwraig weddol gydwybodol, ond pan es i ati ddilyn dull Marie Kondo, “Kon Mari”, i dwtio fy nghwpwrdd (ahem, cypyrddau a drors) dillad ges i sioc fy mywyd. Ro’dd gymaint o ryw hen ddillad rhad o ansawdd isel yn y pentwr; dillad ro’n i wedi’u prynu heb feddwl a prin wedi’u gwisgo. Mae ’na dipyn o bethau dwi’n gwneud erbyn hyn i leihau effaith fy arferion siopa ar y blaned; trwsio, uwchgylchu ac ond prynu dillad newydd cynaliadwy o safon uchel.
Ond efallai’r peth sy’n siwtio’r bywyd gwyrddach (a’m cariad tuag at ddillad) orau yw prynu’n ail-law a vintage, a dw’i wrth fy modd yn cymryd rhan yn ymgyrch #MisMediAilLaw neu #SecondhandSeptember Oxfam mis yma.
Ymgyrch yw hon sy’n tynnu sylw at effaith negyddol y diwydiant ffasiwn cyflym ar y ddaear a’r bobl sy’n creu ein dillad, ac annog ni gyd i fynd 30 diwrnod heb brynu dilledyn newydd, ond yn hytrach i dwrio drwy siopau elusen, ail-law a vintage i chwilio am fargeinion!
Dw’i wrth fy modd yn gwneud hyn; dwi’n helpu’r amgylchedd, yn arbed arian ac yn gallu dod o hyd i ddarnau unigryw sy’n dweud rhywbeth amdana i… yn hytrach nag edrych fel copi rhyw mannequin stryd fawr! Dyma i chi rai o fy hoff ddarnau dw’i wedi dod o hyd iddyn nhw yn ddiweddar…
Os ydych chi awydd ymuno â’r ymgyrch, ewch i https://oxfamapps.org/secondhandseptember/ dyw hi ddim yn rhy hwyr… beth am wneud pob mis yn fis siopa ail-law? A’r tro nesaf chi’n ymlwybro o siop i siop neu’n chwilota ar-lein, cofiwch y geiriau doeth yma: Ma’ ffasiwn ar hast yn ffasiwn sy’n wast!
Mari Elin, Gwyrddach.com