Newidiodd Oxfam Cymru fy mywyd yn 2019 ac ysgogi fy nod i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl

Newidiodd Oxfam Cymru fy mywyd yn 2019 ac ysgogi fy nod i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a masnachu pobl

Fy enw yw Emertha Uwanyirigira. Cefais fy ngeni yn Tanzania. Roedd fy rhieni yn ffoaduriaid o Rwanda, ac aethom yn ôl i fyw yn Rwanda ar ôl Hil-laddiad 1994 yn erbyn y Tutsi. Symudais i Wlad Belg yn 2009, ac yna i’r Deyrnas Unedig gyda fy nau blentyn ifanc yn 2017. Dewisais y Deyrnas Unedig oherwydd ei pholisïau da ar gyfleoedd cyfartal. Rwyf wedi ymgartrefu yng Nghymru am fod y Cymry mor gyfeillgar ac yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol.

Pan gyrhaeddais Gymru, doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un, ac roeddwn yn feichiog gyda fy nhrydydd plentyn, heb neb i helpu. Roeddwn yn byw ar fy nghynilion. Pan oedd fy mhlant wedi setlo yn yr ysgol leol, penderfynais y byddwn yn mynd i’r llyfrgell i ddarllen. Roeddwn wedi cael addysg, ac yn meddu ar MSc mewn Llywodraethu Byd-eang, yn ogystal ag 17 mlynedd o brofiad gwaith ym maes datblygu cymunedol. Fodd bynnag, doeddwn i ddim yn gwybod beth yr oeddwn am ei wneud na pha lwybr y dylwn ei gymryd i’m cynnal fy hun a’m tri phlentyn.

Roeddwn yn y lle iawn ar yr adeg iawn. Yn y llyfrgell leol, cwrddais â dyn a oedd yn gyflogai yn yr Adran Gwaith a Phensiynau – y Canolfannau Swyddi. Rhoddodd ef fi mewn cysylltiad ag Anna McVicker a oedd yn gweithio i brosiect Sgiliau am Oes Oxfam Cymru. Roedd bod yn rhan o’r prosiect yn union yr hyn yr oedd arnaf ei angen – rhoddodd eglurder i mi.

Roedd bod yn newydd yn y Deyrnas Unedig a heb deulu o gwmpas yn sefyllfa heriol i mi, yn enwedig o ran integreiddio i gymuned a diwylliant newydd. Dangosodd Sgiliau am Oes Oxfam i mi sut i ddod i gysylltiad â’r bobl iawn, ac arweiniodd fi i’r lle iawn.

Roedd Sgiliau am Oes, trwy ddarparu hyfforddiant cyflogadwyedd, sesiynau hyfforddi am ddim, a llawer o gysylltiadau coll i’m helpu i ddatblygu, wedi rhoi i mi gyfle i ddysgu sgiliau defnyddiol a fyddai’n fy helpu ar fy ffordd. Yn anad dim, helpodd y prosiect hwn fi i gysylltu â’m cymuned. Cefais gwrdd ag 20 o ferched o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol gwahanol, a gwneud ffrindiau. Roedd dysgu a rhannu ein profiadau a syniadau yn beth hyfryd, ac mor werthfawr, ac yn wirioneddol yn ein grymuso fel menywod.

Roedd gweithio gyda phrosiect Oxfam Cymru wedi rhoi eglurder a ffocws i mi, i’m helpu i benderfynu ar y llwybr gyrfa cywir. Doedd gennyf fawr o syniad ynghylch sut i wneud rhai pethau yn y wlad hon, yn enwedig pan oedd yn rhaid i mi gydymffurfio â’r prosesau gweinyddu, ond cefais gymorth rhagorol trwy Oxfam. Aethant ati i fy helpu i gael mynediad at ofal plant, ac ni fyddwn wedi cyflawni’r hyn yr wyf wedi’i gyflawni heb gymorth Oxfam.

Deuthum i sylweddoli fy mod yn teimlo’n angerddol ynghylch gwasanaethu fy nghymuned a thu hwnt. Roeddwn am ddileu caethwasiaeth a mathau o ecsbloetio, yn enwedig ymhlith menywod a phlant. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi llwyddo i astudio ar gyfer gradd meistr mewn Llywodraethu Byd-eang ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd cael cymorth a mynediad at ofal plant yn golygu y gallwn wneud hyn a chyflawni fy mreuddwydion.

Emertha ar daith ymchwil yn Uganda yn ymchwilio sefyllfa caethwasiaeth fodern a masnachu pobl, Mehefin 2019

Caethwasiaeth fodern oedd un o fy modiwlau yn y brifysgol, a thrwy fy nghysylltiadau â Sgiliau am Oes Oxfam, bûm yn ddigon ffodus i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ariannu ymweliad ymchwil ag Uganda a Nairobi am bedair wythnos ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2019. Dewisais Uganda a Kenya am fod y ddwy wlad hyn yn uchel ar y rhestr ymhlith gwledydd Affrica oherwydd eu hachosion o fasnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, ac, yn anad dim, roeddwn yn gwybod am ddiwylliant y ddwy wlad ac yn siarad eu hieithoedd. Rhoddodd y profiad hwn gipolwg go iawn i mi ar realiti difrifol yr hyn y mae menywod a phlant yn ei wynebu yn y gwledydd hyn, a pha mor hawdd yw hi i fasnachwyr fasnachu a chludo pobl sy’n agored i niwed.

Emertha gyda Is – Lywydd Uganda, Edward Ssekandi yn trafod taclo masnachu pobl, Mehefin 2019.

Mae menywod yn cael addewid o fywyd gwell a gwaith dymunol mewn siopau, ond y gwir amdani yw mai gwneud gwaith rhyw yw eu hanes. Mae teuluoedd sydd ar eu gliniau yn gwerthu eu plant am arian – ni allant oroesi hebddo. Mae’r masnachwyr yn addo i’r teuluoedd y bydd y plant hyn yn cael bywyd gwell, ond gorfod cardota ar y strydoedd mewn dinas neu dref gyfagos neu fod yn rhan o’r fasnach ryw yno, yn ifanc iawn, yw hanes llawer. Roedd cwrdd â dioddefwyr wyneb yn wyneb yn dorcalonnus. Yn dilyn cyfarfodydd â rhai o’r bobl mewn grym yn y gwledydd hyn, daeth yn amlwg nad oeddent mewn gwirionedd yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae’n anodd credu eu bod o ddifrif yn meddwl nad yw hyn yn digwydd, ond mae’n wir – gwelais hynny â’m llygaid fy hun. Roedd yr ymweliad hwn wedi fy ngwneud hyd yn oed yn fwy penderfynol o wneud gwahaniaeth.

Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith y byddaf yn graddio ym mis Rhagfyr, ac y bydd fy mhlant yno i’m gweld. Fy nghynllun yw dechrau sefydliad yn y Deyrnas Unedig i feithrin ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb caethwasiaeth fodern a masnachu pobl. Credaf fod meithrin ymwybyddiaeth a dylanwadu ar y rhai sydd mewn grym yn y gwledydd hyn yn hanfodol i ddylanwadu ar newid. Rwyf hefyd yn credu bod angen addysgu’r rhai sy’n agored i niwed a’r rhai sydd mewn tlodi yn y gwledydd hyn fel eu bod yn sylweddoli pa mor hawdd fyddai iddynt hwy a’u plant gael eu twyllo i fod yn ddioddefwyr caethwasiaeth a masnachu pobl. Ar hyn o bryd, rwy’n chwilio am gyllid a chymorth i ddechrau’r sefydliad hwn, a byddwn yn croesawu unrhyw un a allai helpu.

Mae Oxfam wedi rhoi cymaint i mi. Mae bod yn rhan o’r Prosiect Sgiliau am Oes gydag Oxfam Cymru wedi newid fy mywyd a’m hagwedd at fywyd. A minnau’n fam i dri, rwyf wedi profi sut y gall menywod deimlo eu bod yn cael eu grymuso, ac y gallwn rannu ein profiadau a’n sgiliau i helpu eraill. Rwyf am roi yn ôl.

Emertha Uwanyirigira

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gefnogi Emertha neu i gael gwybodaeth bellach am waith Oxfam, cysylltwch â Heulwen Davies, Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam Cymru – hdavies1@oxfam.org.uk.   

Roedd Sgiliau am Oes yn brosiect Oxfam Cymru a ddaeth i ben yn 2018. Gweithiodd y prosiect gyda menywod yng Nghaerdydd fel y gallent feithrin y sgiliau a’r hyder yr oedd arnynt eu hangen i symud ymlaen i waith teilwng. Roedd y prosiect yn canolbwyntio’n benodol ar ferched du ac o leiafrifoedd ethnig, ac, ochr yn ochr â Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glanyrafon, cyflwynodd raglen blwyddyn o hyd a oedd yn cynnwys gweithdai, hyfforddiant, coetsio a lleoliadau gwaith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar https://oxfamapps.org/cymru/press_release/2017-06-skills-for-life/. Gallwch ddysgu rhagor am y prosiect ar y fideo hwn.