Pobl ledled Cymru yn cael eu herio i brynu dillad ail-law yn unig am fis er mwyn gweithredu yn erbyn ffasiwn gyflym

Pobl ledled Cymru yn cael eu herio i brynu dillad ail-law yn unig am fis er mwyn gweithredu yn erbyn ffasiwn gyflym

Mae defnyddwyr ledled Cymru yn cael eu hannog i brynu dillad ail-law yn unig am o leiaf 30 diwrnod er mwyn mynd i’r afael â diwylliant untro sydd, yn ôl Oxfam Cymru, yn gwaethygu’r newid yn yr hinsawdd.

Bydd ymgyrch Mis Medi Ail-law Oxfam yn cael ei chynnal cyn uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr hinsawdd, COP26, a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd ac sy’n gyfle hanfodol i arweinwyr byd-eang gymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae defnyddwyr yn anfon 13 miliwn o eitemau o ddillad yr wythnos i safleoedd tirlenwi, ac mae’r diwydiant tecstilau yn cyfrif am tua 10 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd – mae hynny’n fwy na hedfanaeth a morgludiant rhyngwladol wedi’u cyfuno.

I helpu i leihau allyriadau, mae Oxfam yn gofyn i ddefnyddwyr ledled Cymru brynu dillad ail-law yn unig yn ystod mis Medi, a rhoi eu hen eitemau yn rhodd. Mae siopwyr yn cael eu hannog i feithrin ymwybyddiaeth o fanteision siopa’n ail-law trwy rannu eu darganfyddiadau unigryw, gwneud addewid trwy ddefnyddio #SecondHandSeptember neu #MisMediAilLaw a thagio Oxfam ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Lawrence Lomas, Rheolwr Ardal Manwerthu Oxfam ar gyfer Cymru: “Rydym wedi cael ein rhybuddio ers blynyddoedd ynglŷn ag effeithiau mwyfwy difrifol y newid yn yr hinsawdd ar ein planed, ac wedi i’r Cenhedloedd Unedig ddatgan cod coch ar gyfer dynoliaeth, ni allai’r rhybudd hwn fod yn fwy llym. Mae’n rhaid i arweinwyr byd weithredu’n gyflym i arafu, ac i leihau, gobeithio, y dinistr y gallai dynoliaeth ei wynebu, gan hefyd gefnogi cymunedau tlotach o amgylch y byd sy’n teimlo effeithiau marwol y newid yn yr hinsawdd gyntaf a gwaethaf.

“Yn erbyn y cefndir hwn, rydym yn annog pobl ledled Cymru i fyfyrio ar y modd y gallant, bob yn un, adael ôl troed ysgafnach ar y blaned. Ewch ati i brynu dillad, esgidiau ac ategolion o’n Siopau Oxfam gwych yng Nghymru – yn enwedig yn ystod mis Medi. Mae gennym eitemau hyfryd sy’n addas i bob cyllideb. Nid yn unig y byddwch yn diweddaru eich cwpwrdd dillad, ond byddwch yn helpu i arafu ffasiwn gyflym ac yn cyfrannu at waith Oxfam, sy’n newid bywydau. Gallwch hefyd gefnogi Mis Medi Ail-law trwy roddi eich hen eitemau i’ch siop Oxfam leol, neu hyd yn oed ystyried ymuno ag un o’n timau gwych fel gwirfoddolwr!”

O amgylch y byd, mae Oxfam yn helpu pobl i ymdopi â thywydd eithafol, yn ogystal â chynllunio ar gyfer canlyniadau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Cyn COP26, mae Oxfam hefyd yn mynnu bod arweinwyr byd yn cymryd camau brys a phendant i leihau allyriadau byd-eang a chynyddu cyllid yn sylweddol i helpu cymunedau ledled y byd i oroesi a ffynnu er gwaetha’r argyfwng hinsawdd.  

Dywed Oxfam Cymru fod 14,000 tunnell fetrig o ddillad (dros 47 miliwn o eitemau) y flwyddyn yn y DU yn cael eu dargyfeirio o safleoedd tirlenwi trwy gael eu rhoi i Oxfam. Mae Mis Medi Ail-law yn annog prynwyr i leihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac ailfuddsoddi i greu dyfodol gwyrddach a thecach i bawb.

Mae pob dilledyn a werthir yn codi arian i ymladd tlodi o amgylch y byd: gallai un ffrog godi digon o arian i brynu hadau a all wrthsefyll sychder/llifogydd fel y gall teulu barhau i dyfu bwyd er gwaetha’r newid yn yr hinsawdd.

Mae gan Oxfam 20 o siopau stryd fawr ledled Cymru, yn cael eu hategu gan Siop Ar-lein Oxfam, sy’n drysorfa rithwir o ddegau o filoedd o eitemau ail-law.

Gall pobl hefyd gefnogi Mis Medi Ail-law trwy siopa yn Siop Ar-lein Oxfam neu wirfoddoli yn un o siopau Oxfam. Darganfyddwch ragor am wirfoddoli yma: https://www.oxfam.org.uk/get-involved/volunteer-with-us/volunteer-in-an-oxfam-shop/

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth a threfnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450

Nodiadau i Olygyddion

 

  • Mae’r diwydiant tecstilau yn cyfrif am tua 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd – mae hynny’n fwy na hedfanaeth a morgludiant rhyngwladol wedi’u cyfuno. Ffynhonnell: UNEP: https://www.unep.org/news-and-stories/story/putting-brakes-fast-fashion
  • Cymerwch ran ym menter #MisMediAilLaw #SecondHandSeptember Oxfam trwy brynu dillad ail-law yn unig am o leiaf 30 diwrnod, a rhoi eich eitemau ail-law yn rhodd. Dysgwch ragor yn oxfam.org.uk/second-hand-september
  • Mae gan Oxfam dros 70 mlynedd o brofiad yn hyrwyddo eitemau ail-law. Agorwyd y siop gyntaf yn Broad Street, Rhydychen, yn 1948 i godi arian o roddion o eitemau ail-law ar gyfer y newyn yng Ngwlad Groeg.
  • Mae Oxfam yn fudiad byd-eang o bobl sy’n gweithio tuag at yr un nod – rhoi terfyn ar anghyfiawnder tlodi. Gyda’n gilydd, rydym yn achub ac yn ailadeiladu bywydau mewn trychinebau, yn helpu pobl i ennill bywoliaeth, ac yn dweud ein dweud am y materion mawr, megis anghydraddoldeb a’r newid yn yr hinsawdd, sy’n cadw pobl yn dlawd.
  • Mae gan Oxfam 561 o siopau yn y DU. Trwy brynu a rhoddi eich dillad trwy siopau Oxfam, gallwch helpu i amddiffyn ein planed, gan hefyd helpu’r bobl dlotaf o amgylch y byd i ddianc rhag anghyfiawnder tlodi. I ddod o hyd i’ch siop Oxfam leol, ewch i oxfam.org.uk/shopfinder. Ewch i Siop Ar-lein Oxfam yn www.oxfam.org.uk/shop
  • I roddi dillad trwy’r post, archebwch fag rhad ac am ddim yma: https://onlineshop.oxfam.org.uk/donate-clothes