Prin y mae cyllid gofal plant yn crafu’r wyneb o ran y camau y mae angen eu cymryd

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb ddrafft ar gyfer 2024-2025.

Dywed Oxfam Cymru fod y gwariant cynyddol ar ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru yn gam cadarnhaol, ond nad yw’n cyflawni’r camau mentrus sy’n ofynnol i fynd i’r afael â thlodi plant ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfradd uwch fesul awr ar gyfer darparwyr gofal plant. Fodd bynnag, dywed ymgyrchwyr y bydd hyn yn dal i adael gormod o deuluoedd wedi’u dal mewn tlodi, yn brwydro i gael mynediad at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel.

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Er bod yr ymrwymiadau newydd mewn perthynas â gofal plant i’w croesawu, prin y maent yn crafu’r wyneb o ran y camau gweithredu sy’n ofynnol i fynd i’r afael â blynyddoedd o ddiffyg ariannu cronig a’r clytwaith hynod gamweithredol, digyswllt o ddarpariaeth gofal plant a ariennir sy’n parhau i orfodi rhieni ledled Cymru allan o’r gweithlu ac i dlodi.

“Ni allwch wella coes wedi’i thorri â rhwymyn. Mae’n bryd rhoi’r gorau i osod gofal plant mewn blwch wedi’i labelu’n ‘rhy anodd ei ddatrys’ ac yn lle hynny mynd ati i gyflawni’r diwygiad sylfaenol sy’n ofynnol. Mae teuluoedd yn haeddu gweithredu, nid esgusodion.”

Mae gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr mawr i deuluoedd yng Nghymru, gyda dros hanner y plant sydd mewn tlodi yn byw ar aelwydydd lle mae’r plentyn ieuengaf yn 0-4 oed.

Er gwaethaf y cyhoeddiad heddiw, nid oes unrhyw gymorth yn bodoli ar gyfer plant dan ddwy oed, gan adael teuluoedd incwm isel, yn enwedig mamau sengl, yn wynebu costau uchel ac opsiynau cyfyngedig. I lawer o deuluoedd, mae costau gofal plant yn llyncu bron hanner eu hincwm.

Yn dilyn adrodd truenus diweddar ar ddiffyg cynnydd Llywodraeth Cymru tuag at sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, dywed ymgyrchwyr nad yw honiadau Gweinidogion eu bod yn arwain llywodraeth ffeministaidd yn ddim mwy na geiriau gwag os na weithredir ar ofal plant.

Mae Oxfam Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Grŵp Cynghori Arbenigol ar Ofal Plant – corff cyfunol o sefydliadau trydydd sector nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar ofal plant – i lunio glasbrint newydd ar gyfer darpariaeth gofal plant a ariennir yng Nghymru.

Yn ogystal â symleiddio ac ehangu’r ddarpariaeth bresennol, dywed ymgyrchwyr y dylai Gweinidogion ymrwymo yn yr hirdymor i ehangu’n raddol ddarpariaeth gofal plant wedi’i ariannu’n llawn i gynnwys pob plentyn 0-4 oed, gyda thargedau clir a thryloywder wrth ddyrannu cyllid.

Ychwanegodd Sarah Rees: “Mae Cymru’n haeddu mwy na chyfaddawd ac atebion byrdymor. Mae arnom angen camau gweithredu dewr a gweledigaeth glir i chwalu’r cylch o dlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ‘nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

 

 /DIWEDD     

  

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd y Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk / 07917738450  

 

Nodiadau i Olygyddion 

  • Darllenwch adroddiad 2023 Oxfam Cymru, Camau Bach, Brwydrau Mawr: Gofal Plant yng Nghymru sy’n rhoi’r gwir am brofiadau dros 300 o rieni o lywio system gofal plant gymhleth a chostus Cymru: https://bit.ly/4aaN6Y9
  • Darllenwch bapur briffio cyn y Gyllideb y Grŵp Cynghori Arbenigol ar Ofal Plant ar gyfer Aelodau’r Senedd yma: https://bit.ly/3VnZIWn