Gan Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru
Mae’r cloc yn tician yn y ras i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru.
Bydd pwy bynnag a fydd yn llwyddo yn wynebu pum prawf tyngedfennol allweddol yn ystod ei 100 niwrnod cyntaf yn y swydd.
Prawf 1: Mynd i’r afael â phroblem tlodi enbyd Cymru
Mae cyfradd tlodi Cymru wedi aros yn ystyfnig o uchel ers blynyddoedd, gydag un o bob pum unigolyn (21%) yn byw mewn tlodi. Mae’r gyfradd tlodi plant hyd yn oed yn uwch, gyda mwy nag un o bob pedwar plentyn (28%) yn tyfu i fyny mewn tlodi. Mae’n rhaid i’r mater o roi terfyn ar yr anghyfiawnder hwn fod ar frig rhestr y Prif Weinidog newydd o bethau i’w gwneud.
Ni fydd hyn yn hawdd: mae achosion a symptomau tlodi yng Nghymru yn gymhleth ac eang eu cwmpas. Dyna pam y mae’n hanfodol i’r Prif Weinidog gydnabod bod delio â’r materion hyn mewn modd effeithiol yn gofyn am ddull llywodraeth gyfan sy’n seiliedig ar Strategaeth Gwrthdlodi uchelgeisiol dargededig, ac iddi gyfyngiad amser a’r nod o ysgogi a chyflawni camau gweithredu trawsadrannol.
Prawf 2: Gofalu am ein gofalwyr
Mae’n ofynnol gweithredu i sicrhau y rhoddir gwell gwerth ar ofal ac y buddsoddir ynddo, a hefyd yn achos y rhai sy’n darparu’r gofal hwnnw. Ar hyn o bryd, mae gormod o fenywod – gan mai nhw yw’r gofalwyr bron i gyd – yn byw mewn tlodi oherwydd eu bod yn gofalu am rywun. Heb y bobl sy’n gofalu am ein plant, ein pobl sâl, yr henoed neu’r anabl, byddai ein heconomi a’n gwlad yn arafu a stopio, ac eto mae cyfraniadau gofalwyr i’n cymdeithas yn anweledig o hyd i raddau helaeth.
Mae’r Glymblaid Gwneud Gofal yn Deg wedi pennu ystod o opsiynau polisi sy’n anelu at fynd i’r afael â’r broblem systemig hon, ond blaenoriaeth ddi-oed yw mynd i’r afael â’r ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru.
Y llynedd, datgelodd ymchwil Oxfam Cymru fod diffyg gofal plant fforddiadwy y gellir cael gafael arno yn trapio rhieni mewn tlodi neu’n eu gadael ar ymyl dibyn tlodi, a’i fod hefyd yn cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl, eu gyrfaoedd a’u cynlluniau ar gyfer y teulu yn y dyfodol.
Mae’r ddau ymgeisydd wedi ailadrodd addewid presennol Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth gofal plant i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, ond nid ydynt wedi cynnig llawer o fanylion ynghylch pryd a sut y bydd hyn yn digwydd. Yr hyn sy’n wirioneddol angenrheidiol yw map trywydd gofal plant newydd i Gymru, a arweinir gan Grŵp Cynghori Arbenigol Annibynnol newydd ac sy’n sicrhau bod unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol yn cyflawni ar gyfer rhieni a darparwyr ac yn cael ei hategu gan y buddsoddiad parhaus y mae ei ddirfawr angen.
Prawf 3: Ailsefydlu’r hygrededd sy’n dadfeilio o ran yr hinsawdd
Y trydydd prawf allweddol yw sicrhau bod Cymru yn cyrraedd ei thargedau newid hinsawdd cyfreithiol-rwym. O amgylch y byd, mae’r chwalfa hinsawdd a grëwyd gan wledydd cyfoethog, megis Cymru, yn llethu economïau cenedlaethol, ac mae sychder, seiclonau a llifogydd yn gorfodi pobl o’u cartrefi.
Yn erbyn y cefndir difrifol hwn, mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran yr hinsawdd yn ymddangos fel pe baent wedi mynd ar gyfeiliorn yn llwyr, gyda’i chynghorwyr ei hun yn dweud bod yna fwlch pryderus rhwng yr uchelgais o ran yr hinsawdd a chyflawni’r uchelgais honno.
Mae rhybudd Gweinidogion Cymru ynghylch glo yn enghraifft wych. Fwy na dwy flynedd wedi i’r byd ddatgan yn uwchgynhadledd hinsawdd fyd-eang COP26 fod glo yn cael ei roi yn nwylo hanes, mae’n destun pryder mawr mai’r llysoedd sydd i benderfynu pa un a ddylid bwrw ymlaen â chynlluniau i ehangu gwaith codi glo yng Nghymru. Rhaid i’r Prif Weinidog newydd roi blaenoriaeth i ddilyn arweiniad yr Alban trwy weithredu gwaharddiad de facto ar lo.
Wrth gwrs, rhaid i’r newid i sero net fod yn deg yn ogystal ag yn gyflym, ac mae pwy sy’n talu’r bil yn gwestiwn allweddol y mae’n rhaid i’r Prif Weinidog newydd roi sylw iddo. Rhaid iddo bwyso ar Brif Weinidog y DU i roi cyfres o drethi synnwyr cyffredin ar waith yn achos y llygrwyr mwyaf a chyfoethocaf er mwyn codi’r refeniw sy’n ofynnol i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd mewn modd teg. Fel y mae modelu enghreifftiol yn ei awgrymu, gallai gweithredu o’r fath arwain at arian annisgwyl sylweddol i Gymru i gyflymu’r gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Dylai Cymru anfon neges glir at Brif Weinidog y DU: ni ellir parhau i feio pawb arall: mae’n bryd i’r llygrwyr mwyaf dalu am y difrod y maent yn ei achosi.
Prawf 4: Arwain Cymru sy’n wirioneddol gyfrifol yn fyd-eang
Rhaid i’r Prif Weinidog newydd ddangos undod byd-eang mewn ffyrdd eraill hefyd, ac mae’r pedwerydd prawf yn ymwneud ag a yw Cymru yn gwireddu ei henw o fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang; gwlad sy’n sicrhau nad yw ein polisïau yn arwain at ganlyniadau niweidiol ac effeithiau sy’n lledaenu i fannau eraill o’r byd.
Mae bod yn gyfrifol yn fyd-eang hefyd yn golygu sefyll heb ymddiheuriad ar ochr iawn hanes yn ystod cyfnodau o argyfyngau dyngarol digynsail. Yn brif flaenoriaeth i’r Prif Weinidog y mae camu i’r adwy lle methodd y Prif Weinidog blaenorol, a hynny trwy fynd ati’n ddigamsyniol i gefnogi galwadau am gadoediad diymdroi a pharhaol yn Gaza.
A, gyda Strategaeth Ryngwladol bresennol Cymru yn dod i ben yn 2025, rhaid i’r Prif Weinidog newydd sicrhau ei fod yn cymhwyso brwdfrydedd dywededig Llywodraeth Cymru dros gyfiawnder hiliol i’n partneriaethau tramor presennol ac yn y dyfodol, gan sicrhau dull diogel, ffeministaidd, dad-drefedigaethol.
Prawf 5: Adeiladu economi llesiant i Gymru
Yn sail i holl ymdrechion y Prif Weinidog ar dlodi, yr hinsawdd, gofal ac undod rhyngwladol y mae’r gofyniad i weithredu ar y cyd i adeiladu economi sy’n gweithio i bobl a’r blaned; rhaid symud oddi wrth ddibynnu ar fesurau a rhethreg economaidd sydd wedi methu, ac, yn lle hynny, dylid canolbwyntio ar ddiwallu anghenion pobl, a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd.
Dylai Cymru fod yn falch o’r ffaith mai ni yw’r genedl gyntaf yn y byd i sefydlu diogelu ac atal niwed i genedlaethau’r dyfodol mewn cyfraith; ond rhaid i’r Prif Weinidog newydd fynd ymhellach, a hynny trwy adeiladu strategaeth economaidd sy’n canolbwyntio ar gyfres o amcanion economi llesiant sy’n sicrhau y gall pawb ffynnu a llwyddo, heb i neb gael ei adael ar ôl – boed hynny yng Nghymru neu’n rhyngwladol.
Profion na all y Prif Weinidog newydd fforddio eu methu
Bydd hanes yn barnu ein Prif Weinidog newydd yn ôl ei weithredoedd yn hytrach na’i eiriau. Nid yw ein hangen am Brif Weinidog dewr, llawn gweledigaeth a gobeithiol erioed wedi bod yn fwy.
Nid yw tlodi yn anochel, yng Nghymru nac yn unman arall. Rhaid i’n Prif Weinidog nesaf ddefnyddio ei 100 diwrnod cyntaf yn y swydd i amlygu ei ymrwymiad i roi terfyn ar yr anghyfiawnder hwn unwaith ac am byth, a hynny trwy adeiladu’r Gymru fwy caredig a hanfodol well yr ydym i gyd am fyw ynddi.