Rhaid i Senedd Cymru beidio â chadw’n dawel ynghylch yr apartheid brechlynnau angheuol, medd elusennau

Dywedodd cynghrair o elusennau o Gymru heddiw fod yn rhaid i Senedd Cymru fynd ati ar frys i leisio ei chefnogaeth gref i’r ymgyrch i roi terfyn ar fonopolïau cwmnïau fferyllol sy’n cyfyngu, mewn modd artiffisial, ar y cyflenwad o frechlynnau i wledydd incwm isel.

Mae’r sefydliadau, yn cynnwys Oxfam Cymru, Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Maint Cymru, PONT, CAFOD, Cymorth Cristnogol a Anabledd yng Nghymru ac Africa sydd i gyd yn cefnogi’r cynghrair rhyngwladol The People’s Vaccine, yn dweud bod yna ‘apartheid brechlynnau’ wedi deillio o’r ffaith fod yna lond dwrn o gwmnïau fferyllol yn cyfyngu ar gyflenwadau trwy wrthod rhannu ryseitiau eu brechlynnau a gwybodaeth amdanynt â gweddill y byd.

Mae’r sefydliadau, a gefnogir gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn dweud bod yn rhaid i Senedd Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru gydnabod bod gan Gymru ddyletswydd gyfreithiol, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i gefnogi galwad gwledydd incwm isel am fynediad at ryseitiau a thechnoleg brechlynnau a allai achub bywydau. Mae hyn yn rhan o rwymedigaeth Cymru i fod yn Genedl sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang.

Ar hyn o bryd, mae aelodau allweddol o’r G7, gan gynnwys y DU a’r Almaen, yn rhwystro camau i gynyddu cyflenwadau trwy roi terfyn ar reolaeth fonopoli cwmnïau ar y broses o greu’r brechlyn. Cefnogwyd y cynigion gan yr Arlywydd Biden, llywodraethau Ffrainc, Seland Newydd a Sbaen, a dros gant o wledydd sy’n datblygu.

Mae’r cynghrair yn galw ar i bob AS, a Mark Drakeford y Prif Weinidog yn benodol, gefnogi Datganiad Barn newydd yn Senedd Cymru a fydd yn annog Boris Johnson, Prif Weinidog y DU, i gefnogi cynlluniau i hepgor rheolau yn ymwneud ag eiddo deallusol, a mynnu bod yr wybodaeth am y brechlynnau a’r dechnoleg sydd ynghlwm wrthynt yn cael eu rhannu trwy Gronfa Mynediad at Dechnoleg COVID Sefydliad Iechyd y Byd, gan alluogi i’r broses fyd-eang o gynhyrchu brechlynnau gynyddu, ac achub bywydau.

Mae’r Prif Weinidog wedi nodi eisoes y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ei phartneriaid yn Lesotho, Namibia ac Uganda i ymdopi â’r pandemig, ond dywed y sefydliadau fod yn rhaid iddo fynd ymhellach ‘nawr, a hynny trwy leisio’i wrthwynebiad i apartheid brechlynnau byd-eang.

Mae’r elusennau’n galw ar i bob plaid uno y tu ôl i’r Datganiad, a osodir gan Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Materion Rhyngwladol, Heledd Fychan AS Plaid Cymru, ac anfon neges gref at Brif Weinidog y DU.

Dywedodd Claire O’Shea, Cadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru: “Mae perygl i’r broses hynod lwyddiannus o gyflwyno rhaglen frechu Cymru gael ei thanseilio’n llwyr gan apartheid brechlynnau byd-eang wrth i fonopolïau fferyllol gyfyngu, mewn modd artiffisial, ar y cyflenwad o frechlynnau. Trwy rwystro camau i chwalu’r monopolïau hyn ar y brechlynnau fel y gall gwneuthurwyr cymwys ledled y byd gynyddu’r broses o gynhyrchu, mae Llywodraeth y DU ar ochr anghywir hanes ac ni all Prif Weinidog Cymru na’r Senedd gadw’n dawel mwyach. Yn hytrach, rhaid i wleidyddion Cymru ddwyn Prif Weinidog y DU i gyfrif trwy gefnogi galwadau am frechlyn y bobl sy’n rhoi achub bywydau uwchlaw amddiffyn patentau ac elw”.

Yn ôl y cynghrair The People’s Vaccine, ar y gyfradd frechu bresennol byddai gwledydd incwm isel yn aros am 57 mlynedd i bawb gael eu brechu’n llawn. Heb fynediad at ddigon o frechlynnau, gweithwyr iechyd a chyfarpar meddygol, dywed y cynghrair fod miloedd o fywydau’n cael eu colli’n ddiangen mewn gwledydd megis Uganda a Nepal.

Dywedodd Kathrin Thomas, Cadeirydd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica: “Rydym yn ddinasyddion byd-eang, ac yn ystod pandemig byd-eang, gwyddom nad ydym yn ddiogel nes bod pawb yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod yn arloeswr byd-eang o ran ymgorffori cyfrifoldeb byd-eang mewn deddfwriaeth trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hon, bellach, yn ffordd ymarferol iawn o ddefnyddio ein llais dros gyfiawnder a chydsafiad”.

Yn Uganda, gwlad sydd â chysylltiadau cryf â chymunedau Cymru, cynyddodd achosion dros 1,000% ym mis Mehefin. Dim ond 4,000 o bobl sydd wedi cael eu brechu’n llawn mewn poblogaeth o dros 45 miliwn.

Dywedodd Mathias Mulumba, Cyfarwyddwr Hyfforddi y mudiad Care For Uganda: “Mae’r achosion yn parhau i gynyddu bob dydd. Cawsom frechlynnau o’r cyfleuster Covax yn ddiweddar yn rhodd gan Ffrainc, ond nid oedd y rhain yn agos at fod yn ddigon. Bwriadwyd iddynt gael eu rhoi yn ail ddos i’r gweithwyr allweddol, megis swyddogion yr heddlu, gweithwyr iechyd, athrawon a’r fyddin, ymhlith eraill. Ond nid oedd modd i nifer o’r gweithwyr allweddol a gafodd y dos cyntaf gael yr ail ddos oherwydd y cyflenwadau annigonol. Wrth i’r achosion dyddiol gynyddu, ac wrth i’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 gynyddu, mae angen i ni frechu o leiaf 80% o’n poblogaeth i fod yn ddiogel. Nid ydym yn ddiogel nes bod pawb yn ddiogel.”

Canfu cyfrifiadau gan y cynghrair The People’s Vaccine fod pobl sy’n byw yng ngwledydd yr G7 77 o weithiau’n fwy tebygol o gael cynnig brechlyn na’r rheiny sy’n byw yng ngwledydd tlotaf y byd. Tra bod COVID yn cael rhedeg yn rhemp ar draws y byd, mae’r Cynghrair yn rhybuddio bod yna risg wirioneddol y gallai mwtaniadau wneud i frechlynnau presennol fod yn aneffeithiol, gan arwain at ragor o farwolaethau a rhagor o gyfyngiadau symud poenus mewn gwledydd ledled y byd, gan gynnwys Cymru, a hynny yn y dyfodol agos.

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Ar hyn o bryd, mae gwledydd cyfoethog yn atal rhai o wledydd tlotaf y byd rhag cael mynediad at frechlynnau a allai achub bywydau. Nid yn unig y mae’n anghywir, ond y mae hefyd yn hunandrechol ac yn annoeth. Cyhyd ag y mae’r feirws yn cael lledaenu mewn rhannau eraill o’r byd, bydd iechyd ac economi Cymru a’r DU yn parhau i fod dan fygythiad. Dylai’r Senedd annog Llywodraeth y DU i wyrdroi’r monopolïau fferyllol sy’n peryglu ein bywydau a’n dyfodol ni i gyd. Dylai Cymru ddefnyddio ei llais i gefnogi galwadau gan wledydd incwm isel am i frechlynnau fod ar gael ac yn fforddiadwy i bawb. Dyma’r math o gyfrifoldeb byd-eang gan Gymru y mae ei angen ar gyfer pobl dlotaf y byd ar hyn o bryd.”

/DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth a threfnu cyfweliadau, cysylltwch â: Rebecca Lozza, Cynghorydd Cyfryngau a Chyfathrebu Oxfam, Yr Alban a Chymru: rlozza1@oxfam.org.uk/07917 738450  

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae’r cynghrair The People’s Vaccine yn fudiad sy’n cynnwys cyrff o feysydd iechyd, dyngarol a hawliau dynol, arweinwyr presennol y byd a chyn-arweinwyr, arbenigwyr iechyd, arweinwyr ffydd, ac economegwyr, oll yn dadlau y dylid cynhyrchu brechlynnau COVID-19 yn gyflym ac ar raddfa eang fel eu bod yn nwyddau cyffredin byd-eang, heb amddiffyniadau eiddo deallusol, a’u bod ar gael i bawb, ym mhob gwlad, yn rhad ac am ddim. https://peoplesvaccine.org/
  • Ystadegau COVID Uganda gan Our World in Data ar 30 Mehefin: https://ourworldindata.org/coronavirus/country/uganda
  • Daw’r data sy’n ymwneud â chyflenwi a darparu’r brechlyn gan Airfinity, Our World in Data, UNICEF a’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau. Mae’r rhagamcanion ynghylch faint o amser y gallai’r broses frechu ei gymryd yn seiliedig ar gyfradd gyfartalog y brechiadau rhwng 1 Mai a       25 Mai 2021. Gwnaed y cyfrifiadau ar 26 Mai 2021.
  • Rhyngddynt, mae cenhedloedd yr G7 yn brechu ar gyfradd o 4,630,533 o bobl y dydd. Ar y gyfradd honno, byddai’n cymryd 227 diwrnod i frechu eu poblogaeth gyfan yn llawn, tan 8 Ionawr 2022, gan dybio bod pawb yn cael dau ddos. Rhyngddynt, mae gwledydd incwm isel yn brechu ar gyfradd o 62,772 o bobl y dydd. Ar y gyfradd honno, byddai’n cymryd 57 blwyddyn i frechu eu poblogaeth gyfan yn llawn, tan 7 Hydref 2078, gan dybio bod pawb yn cael dau ddos.
  • Yn ôl cyfrifiadau newydd a wnaed gan y cynghrair The People’s Vaccine trwy ddefnyddio Our World In Data ar 25 Mai, mae 1,774,959,169 o frechlynnau wedi cael eu rhoi yn fyd-eang. Cafodd pobl sy’n byw yng ngwledydd yr G7 497,150,151 o’r brechlynnau hyn (28%). Mae ganddynt boblogaeth gyfunol o 774,917,290. Cafodd pobl sy’n byw mewn gwledydd incwm isel 5,481,470 o’r brechlynnau hyn (0.31%). Mae ganddynt boblogaeth gyfunol o 660,310,395.
  • Yn ystod mis Mai rhoddwyd 497.15 miliwn o ddosau yng ngwledydd yr G7, a’r rheiny wedi’u rhannu rhwng 774 miliwn o bobl = 0.6423 dos y pen. Rhoddwyd 5.48 miliwn o ddosau mewn gwledydd incwm isel, a’r rheiny wedi’u rhannu rhwng 660 miliwn o bobl = 0.0083 dos y pen. 0.6423 wedi’i rannu â 0.0083 = 77.4 – felly, y mis diwethaf, roedd pobl yng ngwledydd yr G7 77 o weithiau’n fwy tebygol o gael brechlyn na’r rheiny mewn gwledydd tlawd.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru i gefnogi saith nod llesiant y Ddeddf, sy’n cynnwys y nod i wneud Cymru’n genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
  • Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica yn cynrychioli ymateb unigryw gan Gymru mewn perthynas â mynd i’r afael â chyflawni’r nodau datblygu cynaliadwy wrth iddo harneisio’r arbenigedd sy’n bodoli yn y GIG yng Nghymru ac mewn corff cyfatebol yn Affrica is-Sahara. https://cy.wfahln.org/
  • Care for Uganda https://www.careforuganda.co.uk/