Siop Oxfam ym Mangor yn Dathlu Dydd Miwsig Cymru 2020!

Siop Oxfam ym Mangor yn Dathlu Dydd Miwsig Cymru 2020!

Mae Dydd Gwener y 7fed o Chwefror yn Ddydd Miswig Cymru, diwrnod i ddathlu yr amrywiaeth a’r cyfoeth o gerddoriaeth sydd ar gael yn y Gymraeg.

Mae cwmni Sain yn Llandwrog, Gogledd Cymru, yn un o’r cwmniau recordiau enwocaf yng Nghymru. Wedi ei sefydlu dros hanner canrif yn ol, mae’r cwmni’n gyfrifol am gyhoeddi amrywiaeth o gerddoriaeth o Dafydd Iwan i Georgia Ruth!

Ar Dydd Llun yr 20fed o Chwefror, cafodd Rachel Rheolwraig Siop Oxfam Bangor wahoddiad gan Dafydd Roberts, Cyfarwyddwr Recordiau Sain, i ymweld a’r safle yn Llandwrog, er mwyn derbyn pecyn anferth o recordiau Cymraeg o’r archif er mwyn eu gwerthu yn Siop Oxfam Bangor. Roedd Sain yn awyddus i weld Oxfam yn codi arian a chyfrannu i’r ymgyrch o drechu tlodi.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd Rachel daith tywys o amgylch y safle a’r stiwdio recordio hyfryd. Roedd Rachel yn arfer rhedeg cwmni recordiau rhyngwladol cyn ymuno ag Oxfam, felly roedd hyn o ddiddordeb mawr! Hoffai Rachel a holl staff Oxfam ddiolch o galon i Sain am y croeso cynnes ac am eu cyfraniad arbennig i’r siop.

Bydd y casgliad recordiau Cymraeg gan Sain ar werth yn Siop Oxfam Bangor ar Ddydd Miwsig Cymru. Bydd cyfle hefyd i bori trwy gweddill ein casgliad cerddoriaeth a nwyddau Cymraeg, gan gynnwys ein casgliad o lyfrau Cymraeg.

Mae Oxfam yn ddiolchgar i’n holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth parhaus. Os hoffech gyfrannu nwyddau i helpu’n gwaith i drechu tlodi yng Nghymru ac yn fyd eang, cysylltwch gyda’ch siop leol. Mae pob eitem yn cyfri ac yn helpu’n gwaith hollbwysig.

Diolch i Rachel a staff Oxfam Bangor am rannu’r profiad gyda ni. Gan ddymuno Dydd Miwsig Cymru hapus i bawb!

Heulwen Davies, Oxfam Cymru