Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru
Mae biliwnydd newydd wedi cael ei greu bob 26 awr ers i’r pandemig ddechrau.
Gadewch i’r ffaith hon dreiddio i’ch meddwl.
‘Nawr ystyriwch hyn: yn ystod yr un cyfnod, mae 10 dyn cyfoethocaf y byd wedi dyblu ei gyfoeth, tra bo rhai hyd yn oed wedi eu lansio eu hunain a’u ffrindiau i’r gofod.
Yn y cyfamser, mae gweddill y byd wedi gweld toriad yn eu cyflog: gyda 160 miliwn arall o bobl wedi cael eu gwthio i dlodi. Mae tlodi o’r fath nid yn unig yn creu dioddefaint aruthrol. Mae tlodi yn lladd. Ym mhob gwlad, mae’r bobl dlotaf yn wynebu marwolaeth gynharach na’r rhai nad ydynt yn dlawd.
Dyma’r ystadegau syfrdanol sydd y tu ôl i ganfyddiadau allweddol adroddiad byd-eang newydd gan Oxfam y mis hwn: sef bod anghydraddoldeb nid yn unig yn niweidiol – mae’n farwol.
Mae ein hadroddiad Inequality Kills yn dangos yn eglur nad yw model economaidd cyfredol y byd yn gweithio. Mae’n rhoi gwerth ar y pethau anghywir, ac yn gwobrwyo’r bobl anghywir yn ormodol. A menywod a grwpiau ymylol eraill sy’n gorfod talu’r pris uchaf.
Mae arweinwyr gwleidyddol yn gwybod yn iawn fod anghydraddoldeb yn achosi tlodi anghymesur i fenywod; menywod y mae eu gwaith gofal di-dâl mor aml yn llenwi bylchau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn amsugno sioc argyfyngau economaidd.
A dweud y gwir, mae Oxfam yn amcangyfrif y bydd mesurau cyni byd-eang a achosir gan COVID yn symud y cloc yn ôl ymhellach fyth ar hawliau menywod a’r cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywiol, a hynny ynghanol argyfwng sydd eisoes yn golygu bod y nod o gyflawni cydraddoldeb rhywiol wedi mynd yn ei ôl genhedlaeth gyfan i 135 o flynyddoedd, pan oedd yn 99 o flynyddoedd yn flaenorol.
Yma yng Nghymru, yn lle meddwl am fynd i’r gofod, mae mwy a mwy o bobl yn ystyried mynd i’w banc bwyd lleol am fod yr argyfwng costau byw yr ydym i gyd yn ei wynebu yn dechrau brathu o ganlyniad i gael ei ysgogi gan brisiau uwch a chyflogau sy’n aros yn yr unfan.
Argyfwng costau byw
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y Senedd ddadl frys ar y mater, ac ymrwymodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, i gynnal uwchgynhadledd arbennig fis nesaf i ddyfeisio cynllun gweithredu i helpu i liniaru’r ergyd i deuluoedd yng Nghymru.
Ond er mor eithriadol yw’r amgylchiadau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd, nid yw problemau tlodi ac anghydraddoldeb yng Nghymru yn newydd. Maent yn hollbresennol, yn para’n hir, ac yn cael eu hamlygu gan y ffaith bod gennym y cyfraddau tlodi plant a thlodi cymharol gwaethaf yn y DU, ffaith sydd wedi yn wir trwy gydol 25 mlynedd Llafur Cymru wrth y llyw. Dywedodd un Aelod ein bod, yn y Gymru gyfoes, yn wynebu tlodi ar lefelau Fictoraidd.
Ni ellir gwadu bod yr ysgogiadau sylweddol ar gyfer newid yn gorwedd yn San Steffan, ond mae Llywodraeth Cymru ymhell o fod yn ddi-rym. Mae yna rai camau uniongyrchol y gallai Gweinidogion eu cymryd i ddefnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael iddynt i ddechrau ailgydbwyso ein heconomi a helpu i gyflawni amcan y Llywodraeth o fod yn Llywodraeth Ffeministaidd.
Lle da i ddechrau fyddai ailfeddwl yn llwyr ynghylch y modd y rhoddir gwerth ar ofalwyr y genedl a’r modd y’u gwobrwyir.
Mae angen gofal ar bob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywyd: boed hynny pan fyddwn yn blant, yn sâl neu’n anabl, neu mewn oedran hŷn. Ac eto, yn rhy aml, mae’r bobl sy’n gofalu amdanom, pa un a ydynt yn ofalwyr di-dâl, yn rhieni neu’n weithwyr gofal cyflogedig, yn wynebu tlodi o ganlyniad uniongyrchol i ofalu.
Mae’n gwbl afresymol bod yr union bobl a helpodd y genedl i ddod trwy ddyddiau tywyllaf y pandemig – y mwyafrif helaeth ohonynt yn fenywod – yn cael eu gadael i ddihoeni mewn tlodi.
Ar bapur, mae’r Prif Weinidog yn ei deall hi. Roedd ei faniffesto arweinyddiaeth ei hun yn datgan bod yn rhaid rhoi gwerth priodol ar ofal di-dâl gan fenywod yn y cartref, ac ar waith ansicr gofal cymdeithasol a’i gyflogau isel. Ond mae ymhell o gyflawni’r uchelgais hon.
Ai gwaith cyflogedig yw’r ffordd allan o dlodi?
Wrth gwrs, rydym yn aml yn clywed mai gwaith yw’r llwybr gorau allan o dlodi. I lawer o ofalwyr Cymru, nid yw’r hen ddywediad yn wir o gwbl. Nid yw rhai gofalwyr di-dâl yn gallu ffitio gwaith â thâl o amgylch eu cyfrifoldebau gofalu, ac felly cânt eu gorfodi i ddibynnu ar ‘rwyd ddiogelwch’ nawdd cymdeithasol, sydd â mwy o dyllau ynddi na chaws y Swistir.
Ac mae rhieni, hefyd, yn wynebu cael eu cloi allan o gyflogaeth oherwydd costau gofal plant anhygoel o uchel, a all olygu nad yw’n talu i weithio.
Yn achos llawer o weithwyr gofal cyflogedig – gan gynnwys staff cartrefi gofal a meithrinfeydd – nid yw’r sefyllfa fawr gwell gan eu bod yn wynebu cyflogau tlodi ac amodau gwaith ansicr. Sut y gall fod yn iawn i gasglwyr sbwriel gael mwy o dâl na phobl sy’n meithrin ac yn gofalu am ein plant a’n teidiau a neiniau?
Nid oes angen i Lywodraeth Cymru aros i San Steffan weithredu yn llawer o’r meysydd hyn. Ystyriwch ofal plant yn enghraifft. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig oriau gofal plant a ariennir i grwpiau penodol o rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio. O dan glymblaid Llafur Cymru/Plaid Cymru, mae’r cynnig hwn ar fin cael ei ehangu i gynnwys plant dwy oed.
Mae Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn sicr wedi bod o fudd i rieni cymwys yng Nghymru, gydag 84% o’r defnyddwyr yn dweud bod ganddynt fwy o incwm gwario erbyn hyn, a 56% yn dweud bod ganddynt fwy o gyfleoedd i gynyddu eu hincwm.
Ond mae wedi methu’r pwynt pan ddaw’n fater o helpu mamau i gael gwaith neu aros mewn cyflogaeth ar ôl absenoldeb mamolaeth; mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos mai dim ond cyfran fach iawn o’r rhieni sydd wedi manteisio ar y Cynnig a oedd heb fod mewn gwaith yn flaenorol.
Mae’r diffygion yn gynhenid yn y cynllun: mae rhieni’n wynebu tair blynedd yn y diffeithwch cyflogaeth cyn y gallant fanteisio ar y Cynnig, a, hyd yn oed wedyn, mae’n ofynnol iddynt eisoes fod yn gweithio er mwyn bod yn gymwys ar ei gyfer, neu allu talu costau sylweddol o flaen llaw i feithrinfa. Yn syml, mae’r Cynnig yn rhy ychydig, yn rhy hwyr.
Yn hytrach na dim ond cyflwyno’r Cynnig Gofal Plant cyfredol i blant dwy oed, dylai Gweinidogion wrando ar sefydliadau gwrth-dlodi a chydraddoldeb menywod, ac ailedrych yn llwyr ar baramedrau’r cynllun: trwy sicrhau ei fod ar gael i bob rhiant y mae ei blant yn chwe mis oed a hŷn, a thrwy sicrhau ei fod yn darparu popeth posibl i gynyddu cyflog fesul awr staff gofal plant.
Dyma’r union feddylfryd gwleidyddol blaengar a dewr y mae angen i ni ei weld o du arweinwyr Cymru os ydynt am ddechrau adeiladu gwlad ôl-bandemig sy’n malio ac sy’n cael ei chynnal gan economi lle nad oes neb yn byw mewn tlodi, a lle nad yw anghydraddoldeb yn lladd mwyach.
Ni all pobl Cymru fforddio aros yn hirach.
Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.