Tynnu Sylw At Wirfoddolwyr Yng Nghymru Wrth I Oxfam Ddatgelu Pa Ddinasoedd Yn Y Du Sydd Fwyaf Hael Eu Hamser

Mae pobl Caerdydd ac Abertawe ymhlith y mwyaf hael ym Mhrydain o ran rhoi o’u hamser i elusennau, yn ôl ymchwil a gafodd ei chomisiynu gan Oxfam.

Cenhedlaeth Z yw’r genhedlaeth fwyaf hael ei hamser, yn cael ei dilyn yn agos gan Genhedlaeth y Mileniwm, a hynny yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan Oxfam, sy’n dibynnu ar wirfoddolwyr i weithio yn ei siopau ledled y DU. Mae’r elusen yn gobeithio recriwtio mwy o wirfoddolwyr yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Dywedodd bron dwy ran o dair (63%) o’r ymatebwyr hyd at 25 oed eu bod wedi gwirfoddoli i elusen mewn rhyw ffordd.  Mewn cymhariaeth, 55% o’r ymatebwyr o Genhedlaeth y Mileniwm, 39% o’r ymatebwyr o Genhedlaeth X, a 28% o’r ymatebwyr o’r genhedlaeth a anwyd yn y cyfnod wedi’r rhyfel a ddywedodd eu bod wedi gwirfoddoli.

Ar ôl cynnal arolwg o 2,000 o bobl ledled y DU, mae ymchwil Oxfam yn datgelu bod mwy na dau o bob pump (42%) o’r bobl a ymatebodd wedi dweud eu bod wedi gwirfoddoli eu hamser i elusen. O’r nifer hwn, mae chwarter (25%) wedi gwirfoddoli mewn siop elusen.

Yn Abertawe, roedd mwy na hanner y bobl a ymatebodd wedi gwirfoddoli (53%), ffigur a gododd i 57% o’r ymatebwyr yng Nghaerdydd.

Mae’r dadansoddiad llawn o ddinasoedd y DU, wedi’u rhestru yn ôl canran y bobl sydd wedi gwirfoddoli i elusen, yn cynnwys:

  1. Belfast (77%)
  2. Caeredin (75%)
  3. Glasgow/Plymouth (73%)
  4. Bryste (68%)
  5. Llundain (66%)
  6. Birmingham/Southampton (64%)
  7. Lerpwl (63%)
  8. Leeds (59%)
  9. Manceinion/Norwich/Nottingham – (58%)
  10. Caerdydd/Sheffield (57%)
  11. Abertawe (53%)
  12. Newcastle (52%)
  13. Brighton (47%)

Mae gwirfoddolwyr yng Nghymru hefyd yn cael effaith fawr o fewn Oxfam, ac yn wir roedd enillydd Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2022 wedi’i leoli yn siop Stryd yr Undeb yn Abertawe.

Carol Sayce yw’r prif wirfoddolwr yn siop Oxfam yn Abertawe, ac mae wedi cefnogi’r siop a’r rhai sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yno ers dros wyth mlynedd, gan gynnwys trwy gyfnodau anodd megis cyfyngiadau symud y pandemig. Cysylltodd Carol ag Oxfam trwy’r digwyddiad Masnach Deg, “Y Ffair Werdd”, lle mae bellach yn cynrychioli Oxfam Abertawe yn flynyddol.  A hithau’n ymladdwr angerddol dros anghydraddoldeb, yn amddiffynnydd hawliau dynol, ac yn hyrwyddwr masnach deg, roedd ei hymroddiad i dîm Abertawe yn glir wrth iddi dderbyn y wobr:

“”Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn gegrwth pan glywais am y wobr, ond rhaid i mi ddiolch i James Doel, ein rheolwr, am yr enwebiad ac i’r panel am fy newis, yn bennaf am fy mod yn meddwl bod cael fy newis yn dod â chydnabyddiaeth i siop Abertawe, y staff a’r cwsmeriaid, ond yn enwedig i’n tîm bach iawn ond anhygoel o wirfoddolwyr ymroddedig. Mae angen cydnabod pob un ohonynt a diolch iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad – felly diolch!”

 

Mae eleni yn nodi pymthengmlwyddiant a thrigain agor siop gyntaf Oxfam yn y DU yn 1947 ar Stryd Lydan, Rhydychen, y credir ei bod yn un o’r siopau elusen cyntaf yn y byd. Bellach, mae dros 500 o siopau Oxfam yn gweithredu ledled y DU – 16 ohonynt yng Nghymru – ac yn cael eu cefnogi gan wirfoddolwyr hael.

Ar ôl gofyn i ymatebwyr o bob oed beth y maent yn ei fwynhau fwyaf am wirfoddoli, dangosodd y canlyniadau fod ymhell dros ddwy ran o dair (70%) yn rhoi o’u hamser yn gyfnewid am gyfeillgarwch, rhyngweithio cymdeithasol, ac i fynd i’r afael ag unigrwydd. Dywedodd dros ddau o bob pum gwirfoddolwr hefyd y gall rhoi o’u hamser i elusen helpu: i’w cadw’n actif (22%); a helpu gydag iechyd meddwl a llesiant (21%).

Mae’r prif ymatebion eraill a nodwyd yn cynnwys: “mae’n fy ngalluogi i gefnogi elusen rwy’n teimlo’n angerddol yn ei chylch” (28%),“Rwy’n hoffi gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned leol” (28%) ac “i gael ymdeimlad o bwrpas” (27%).

Ond er bod yr arolwg wedi taflu goleuni disglair ar haelioni ac ysbryd cymunedol pobl a dinasoedd ledled Cymru a’r DU, amlygodd hefyd fygythiad posibl i hyn … yr argyfwng costau byw. Pan ofynnwyd iddynt am rwystrau i wirfoddoli, dywedodd mwy na dau o bob pump (44%) ymatebwr y gallai’r argyfwng costau byw effeithio ar eu ‘gallu’ a’u ‘parodrwydd’ i wirfoddoli i elusen.

Mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn, dywedodd Sarah Rees (Pennaeth Oxfam Cymru): “Mae’n addawol gweld bod cynifer o bobl ledled Cymru wedi rhoi o’u hamser i wirfoddoli, a gweld yr effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar eu llesiant.

 

Mae gwirfoddolwyr yn ganolog i deulu Oxfam ac wrth galon ein mudiad i ddod â thlodi byd-eang i ben. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i sicrhau bod ein siopau’n parhau i ffynnu; maent yn hanfodol i’n galluogi i gyflawni ein gwaith yng Nghymru a ledled y byd.

 

Yn lleol, mae Oxfam Cymru yn cefnogi ymgyrchoedd megis Yn Gynnes y Gaeaf Hwn a darparu Prydau Ysgol Am Ddim i bawb, y bu i ni gyfrannu atynt trwy’r Gynghrair Gwrthdlodi. Yn fyd-eang, rydym wedi canolbwyntio ar feithrin ymwybyddiaeth a chodi arian tuag at helpu pobl yr effeithir arnynt gan ddigwyddiadau tywydd eithafol, megis y sychder trychinebus ar draws Dwyrain Affrica. Ni fyddem yn gallu gwneud y gwaith hwn heb yr incwm o’n siopau a chymorth ein gwirfoddolwyr.

 

Mae llawer o’n siopau ledled Cymru wrthi’n recriwtio gwirfoddolwyr. Yn y cyfnod cyn ein hamser prysuraf o’r flwyddyn, y Nadolig, rydym yn annog pobl ledled Cymru i ystyried rôl wirfoddoli gyda ni, lle gallant helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymladd tlodi yn fyd-eang yr un pryd.”

 

Dywedodd Dr Carolyn Mair, Seicolegydd Ymddygiad:“Wrth edrych ar ganfyddiadau ymchwil diweddar Oxfam, mae’n wych dysgu bod cynifer o bobl wedi dweud am y modd y maent wedi mwynhau’r amser y maent wedi’i dreulio’n gwirfoddoli, a’u bod wedi gweld buddion personol hefyd. Cefnogir y canlyniadau hyn gan dystiolaeth sy’n canfod bod gwirfoddoli yn ffordd bwerus o hybu llesiant.

 

“Mae gwirfoddoli yn ein helpu i ddysgu sgiliau newydd, i feithrin profiad gwerthfawr, i ehangu ein rhwydwaith cymdeithasol ac i gyflawni nodau personol. Trwy chwarae rhan weithgar yn ein cymdeithas a chyfrannu at newid cadarnhaol, mae gwirfoddoli yn ein galluogi i ymuno â chymuned newydd o ffrindiau a chyd-weithwyr, sy’n cynyddu ein hymdeimlad o berthyn a phwrpas.

 

“Pan rydym yn gwirfoddoli, rydym yn helpu eraill ac yn cyfrannu at rywbeth mwy na ni ein hunain. Rydym yn profi ymdeimlad cryfach o berthyn, sy’n cynyddu ein hunan-barch, ein hymdeimlad o gyflawniad, ein hapusrwydd a’n boddhad mewn bywyd, a hefyd yn hybu ein hiechyd meddwl a chorfforol.” 

 

Mae Oxfam yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu yn ei siopau i frwydro yn erbyn tlodi. I gael gwybodaeth, neu i wneud cais, galwch i mewn i’ch siop Oxfam leol neu ewch i: https://www.oxfam.org.uk/shopvolunteering

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â:

Natalie Terry, Oxfam Cymru; nterry1@oxfam.org.uk / 07906139293