Yr 1% mwyaf cyfoethog yn bachu bron ddwywaith cymaint o gyfoeth newydd â gweddill y byd gyda’i gilydd  

  • Tlodi eithafol yn cynyddu wrth i ffortiwn biliwnyddion chwyddo $2.7 biliwn y dydd (£2 biliwn)
  • Mae’r 1% cyfoethocaf ym Mhrydain yn meddu ar fwy o gyfoeth na 70 y cant o Brydeinwyr
  • Yn y cyfamser, mae 31% o’r plant yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol

 

Mae adroddiad gan Oxfam yn datgelu heddiw bod yr 1% cyfoethocaf wedi pocedu $26 triliwn (£21 triliwn) mewn cyfoeth newydd oddi ar 2020 – bron ddwywaith cymaint â’r 99 y cant arall o boblogaeth y byd.

 

Mae Survival of the Richest yn amlygu’r modd y mae cyfoeth eithafol a thlodi eithafol wedi cynyddu’n gydamserol am y tro cyntaf ers 25 mlynedd. Mae’n dangos bod yr 1% yn sicrhau cyfran hyd yn oed yn fwy o adnoddau’r byd, a hynny er gwaetha’r ffaith eu bod eisoes wedi cipio tua hanner yr holl gyfoeth newydd yn ystod y degawd diwethaf. Yn y ddwy flynedd hyd at fis Rhagfyr 2021, cipiodd yr 1% bron ddwy ran o dair (63 y cant) o’r $42 triliwn (£34 triliwn) o gyfoeth newydd a grëwyd.

 

Cyhoeddir yr adroddiad wrth i’r elite ymgynnull yng nghyrchfan sgïo Davos yn y Swistir ar gyfer diwrnod agoriadol Fforwm Economaidd y Byd. Disgwylir i anghydraddoldeb fod yn uchel ar yr agenda yn dilyn cyhoeddiad Banc y Byd y llynedd fod y datblygiad byd-eang o ran lleihau tlodi eithafol wedi dod i stop yng nghanol yr hyn y disgwylir iddo fod y cynnydd mwyaf mewn anghydraddoldeb byd-eang ers yr Ail Ryfel Byd.

 

Mae adroddiad Oxfam yn dangos bod y bobl gyfoethog iawn hefyd wedi gweld enillion eithriadol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf – am bob $1 o gyfoeth byd-eang newydd a enillwyd gan unigolyn yn y 90 y cant isaf, enillodd pob biliwnydd tua $1.7 miliwn (£1.4 miliwn). Mae ffortiwn cyfunol biliwnyddion wedi cynyddu $2.7 biliwn (£2 biliwn) y dydd, sy’n swm anhygoel. Mae hyn yn dilyn degawd o enillion hanesyddol – mae nifer a chyfoeth y biliwnyddion wedi dyblu dros y deng mlynedd ddiwethaf.

 

Ar yr un pryd, mae o leiaf 1.7 biliwn o weithwyr ‘nawr yn byw mewn gwledydd lle mae chwyddiant yn fwy na chyflogau, ac mae dros 820 miliwn o bobl – tua un o bob deg o bobl ar y Ddaear – yn gorfod mynd heb fwyd. Mae Oxfam yn galw am gynnydd systemig a phellgyrhaeddol yn nhrethi pobl gyfoethog iawn er mwyn adfachu enillion argyfwng a ysgogir gan arian cyhoeddus a gorelwa.

 

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru: “Yn fyd-eang, mae bron biliwn o bobl yn gorfod mynd heb fwyd, ac mae tlodi eithafol yn cynyddu am y tro cyntaf ers 25 mlynedd. Ar yr un pryd, mae’r cyfoethog iawn yn parhau i fynd yn gyfoethocach, tra bo elwau corfforaethol yn fwy nag erioed. Mae biliwnyddion yn ychwanegu at eu cyfoeth yn ddyddiol, a hynny ar draul y gweddill ohonom.

 

“Mae’n hanfodol bod pob llywodraeth yn rhoi’r gorau i weithredu er budd personol yr 1%.

 

“Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi – yn cynnwys tlodi plant. Mae cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn oedran cynradd, ynghyd â 30 awr o ofal plant rhad ac am ddim i blant tair a phedair oed, wedi cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd; ond os ydym am ddileu tlodi plant yng Nghymru, mae angen i ni weld camau gweithredu radical.”

 

Ledled y byd, dim ond pedwar sent ym mhob doler o’r dreth sy’n dod o drethi ar gyfoeth erbyn hyn. Mae hanner biliwnyddion y byd yn byw mewn gwledydd lle nad oes yna dreth etifeddiant ar gyfer disgynyddion uniongyrchol. Byddant yn trosglwyddo trysorfa ddi-dreth gwerth $5 triliwn (£4 triliwn) i’w hetifeddion, sy’n fwy na chynnyrch domestig gros Affrica.

 

Mae pobl ledled y byd wedi cael eu taro’n galed gan y cynnydd ym mhrisiau tanwydd a bwyd, sydd wedi arwain at gynnydd mewn tlodi ac anghydraddoldeb, gan hefyd ysgogi twf di-baid mewn cyfoeth ac incwm i’r cyfoethocaf. Mae’r cynnydd mewn prisiau bwyd yn effeithio fwy ar bobl sy’n byw mewn tlodi eithafol, a hynny oherwydd eu bod yn gwario tua dwy ran o dair o’u hadnoddau ar fwyd. At hynny, mae’r cynnydd mewn prisiau bwyd wedi taro nifer o wledydd incwm isel yn galetach na chyfartaledd y byd. Er enghraifft, mae chwyddiant prisiau bwyd yn Ethiopia yn 44 y cant o gymharu â’r cyfartaledd byd-eang o naw y cant.

 

Canfu Oxfam fod 95 o’r corfforaethau bwyd ac ynni wedi mwy na dyblu eu helw yn 2022. Gwnaethant ffawdelw o $306 biliwn (£251 biliwn), a thalu 84 y cant o hwnnw, sef $257 biliwn (£211 biliwn), i gyfranddalwyr cyfoethog. Canfu ymchwil Oxfam fod elw corfforaethol gormodol wedi ysgogi o leiaf hanner y chwyddiant yn Awstralia, UDA a’r DU.

 

Mae’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r gweddill yn y DU hefyd yn amlwg iawn. Canfu dadansoddiad Oxfam fod yr 1% o Brydeinwyr cyfoethocaf yn dal mwy o gyfoeth na 70 y cant o Brydeinwyr, tra bo gan y pedwar Prydeiniwr cyfoethocaf fwy o gyfoeth nag 20 miliwn o Brydeinwyr.

 

Mae Charlotte yn fam sengl sy’n gofalu am ei phum plentyn, ac mae’n rhan o gymuned Home-Start Cymru. Dywedodd: “’Nawr mae hyd yn oed yn fwy anodd am fod gennyf bum plentyn a brawd i ofal amdanynt, a hynny heb lawer o arian, heb sôn am yr effaith y mae’n ei chael ar fy iechyd meddwl, ac yna delio â rhagor o straen a phryder, teimlo’n euog ac yn ddig, a theimlo fel methiant. Yr unig beth rwy’n teimlo y gallaf ei wneud yw prin lwyddo i fwydo fy mhlant a thalu fy miliau.

 

Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu bwydo fy mhlant, ond ni allaf fforddio prynu dillad iddynt neu ddillad gwely newydd, neu welyau, lloriau a hanfodion i’r cartref. Bu’n rhaid i mi ddefnyddio nifer o elusennau sydd wedi fy helpu â phethau’r cartref.

 

Weithiau mae’n anodd iawn gofyn am help am eich bod yn teimlo cywilydd, ac rydych yn teimlo fel petai pobl yn eich barnu neu eich bod yn fethiant am na allwch fforddio pethau eich hun.

 

Mae fel petai weithiau’n amhosibl i rieni allu gofalu am eu teulu a gweithio a gwneud popeth i gyd yr un pryd. Oherwydd bod yna bob amser rywbeth sy’n mynd i newid neu gynyddu mewn pris, felly nid ydych fyth yn teimlo cydbwysedd. Gall hynny effeithio ar eich llesiant, sydd wedyn yn creu problem arall.

Rwy’n meddwl bod costau byw yn effeithio ar blant gymaint ag ar rieni. Mae yna ddywediad: os yw mam yn hapus, mae’r plant yn hapus.”

 

Dywedodd Steffan Evans, y Pennaeth Polisi (Tlodi) yn Sefydliad Bevan:

 

“Nid yw’n iawn bod cynifer o bobl yng Nghymru wedi’u dal mewn tlodi. Mae darllen canfyddiadau adroddiad Oxfam yn peri cryn bryder. Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, ni fu erioed fwy o angen cymryd camau gweithredu.”

 

Yn ôl dadansoddiad newydd gan y Gynghrair dros Frwydro Anghydraddoldeb, y Sefydliad Astudiaethau Polisi, Oxfam a’r Patriotic Millionaires, gallai treth flynyddol ar gyfoeth o hyd at bump y cant ar amlfiliwnyddion a biliwnyddion y byd godi $1.7 triliwn y flwyddyn (£1.4 triliwn). Byddai hyn yn ddigon i gyflawni camau gweithredu trawsnewidiol, yn cynnwys codi dau biliwn o bobl allan o dlodi.

 

Mae Ian Gregg, cyn-reolwr gyfarwyddwr Greggs a mab sylfaenydd y cwmni, yn cefnogi Patriotic Millionaires UK a Tax Justice UK, sy’n ymgyrchu dros dreth ar gyfoeth yn y DU.

 

Dywedodd Gregg: “Ni allaf fyth fod yn hapus ag economi sy’n meithrin rhaniadau o’r fath mewn cymdeithas ar gyfer ein plant a’n hwyrion. ‘Nawr, fwy nag erioed, rhaid i’r cyfoethocaf gyfrannu rhagor. I mi, byddai talu rhagor o drethi yn bris bach i’w dalu i ddechrau’r broses o sicrhau cymdeithas decach a lleihau anghydraddoldebau o ran cyfoeth a chyfleoedd.”

 

Mae’r adroddiad yn dangos bod trethi ar y mwyaf cyfoethog yn arfer bod yn llawer uwch. Yn ystod y deugain mlynedd ddiwethaf, mae llywodraethau ledled Affrica, Asia, Ewrop a gwledydd America wedi cwtogi llawer iawn ar gyfraddau’r dreth incwm ar y cyfoethocaf. Ar yr un pryd, maent wedi cynyddu’r dreth ar nwyddau a gwasanaethau, sy’n disgyn yn anghymesur ar y bobl dlotaf ac yn gwaethygu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Er enghraifft, canfu astudiaeth a gynhaliwyd yn Guatemala, Honduras ac El Salvador fod cynyddiadau mewn TAW yn arwain at gynnydd mewn tlodi yn yr aelwydydd hynny lle mae yna fwy o fenywod.

 

Mae rhai llywodraethau blaengar wedi cymryd camau i gynyddu trethiant: mae Costa Rica wedi cynyddu ei chyfradd treth incwm uchaf 10 pwynt canrannol, o 15 y cant i 25 y cant, a chyflwynodd Bolifia a’r Ariannin drethi cyfoeth a chydsefyll, yn y drefn honno, ar eu dinasyddion cyfoethocaf.

 

Mae Oxfam Cymru yn annog Aelodau Seneddol Cymru i alw ar Lywodraeth y DU i wneud y canlynol:

 

  • Cyflwyno trethi cydsefyll ar gyfoeth a threthi ffawdelw untro i roi terfyn ar orelwa mewn argyfwng.

 

  • Cynyddu trethi yn barhaol ar yr 1% cyfoethocaf, er enghraifft i o leiaf 60 y cant o’u hincwm o lafur a chyfalaf, gyda chyfraddau uwch ar gyfer amlfiliwnyddion a biliwnyddion. Rhaid i lywodraethau godi trethi ar enillion cyfalaf yn arbennig, sy’n ddarostyngedig i gyfraddau treth is na mathau eraill o incwm.

 

  • Trethu cyfoeth yr 1% cyfoethocaf ar gyfraddau sy’n ddigon uchel i leihau niferoedd a chyfoeth y bobl gyfoethocaf yn sylweddol, ac ailddosbarthu’r adnoddau hyn. Mae hyn yn cynnwys gweithredu trethi etifeddiant, trethi eiddo a threthi tir, yn ogystal â threthi net ar gyfoeth.

 

  • Grymuso gweinyddiaeth gyhoeddus a gweinyddiaeth trethi i olrhain cyfoeth y bobl a’r corfforaethau cyfoethocaf. Mae codi trethi ar y rhai mwyaf cyfoethog yn amhosibl oni chefnogir gweinyddiaeth gyhoeddus a gweinyddiaeth trethi i nodi ac olrhain gwir gyfoeth y bobl gyfoethocaf, ac oni bai fod llywodraethau’n cymryd camau i chwalu cyfrinachedd trethi ac yn trethu cyfoeth ac asedau alltraeth.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Natalie Terry ar 07906139293/nterry1@oxfam.org.uk

Diwedd

 

Nodiadau i’r golygydd

 

Gellir lawrlwytho lluniau, gan gynnwys rhai o Ian Gregg, yma.

Mae’r adroddiad Survival of the Fittest llawn, y crynodeb gweithredol a’r ddogfen fethodoleg ar gael ar gais.

Mae cyfrifiadau Oxfam yn seiliedig ar y ffynonellau data mwyaf diweddar a chynhwysfawr sydd ar gael. Daw’r ffigurau cysylltiedig â’r bobl gyfoethocaf mewn cymdeithas o restr Forbes o’r biliwnyddion amser real, ar 30 Tachwedd 2022.

Mae’r ystadegau ar dlodi plant yng Nghymru i’w gweld yn y Strategaeth Tlodi Plant: Adroddiad Cynnydd 2022

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim ar gyfer plant ysgolion cynradd yma.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ofal plant rhad ac am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed yma.

Er bod yr 1% cyfoethocaf wedi cipio 54 y cant o’r cyfoeth byd-eang newydd yn ystod y degawd diwethaf, mae’r adroddiad yn dangos bod hyn wedi cyflymu i 63 y cant yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Crëwyd $42 triliwn o gyfoeth newydd rhwng mis Rhagfyr 2019 a mis Rhagfyr 2021. Cipiwyd $26 triliwn (63 y cant) gan yr 1% cyfoethocaf, ac aeth $16 triliwn (37 y cant) i’r 99 y cant isaf. Yn ôl Credit Suisse, mae unigolion sydd â chyfoeth o fwy na $1 miliwn yn rhan o grŵp yr 1% uchaf.

Roedd poblogaeth y DU yn 68.4 miliwn o bobl yn 2021. Yn ôl Credit Suisse, mae angen isafswm cyfoeth o $2,685,099 (£2,211,528) i fod yn aelod o’r 1% cyfoethocaf yn y DU. Mae ffigurau diweddaraf Credit Suisse yn 2021 yn dangos bod yna tua 685,500 o Brydeinwyr yn yr 1% cyfoethocaf, a bod cyfanswm eu cyfoeth yn $3.4 triliwn (£2.8 triliwn). O gymharu, mae gan tua 48 miliwn o Brydeinwyr, sef 70 y cant o’r boblogaeth, gyfanswm cyfoeth o $2.9 triliwn (£2.4 biliwn). Y pedwar Prydeiniwr cyfoethocaf ar 30 Tachwedd 2022 – yn ôl rhestr Forbes o filiwynyddion amser real – yw Michael Platt: $15.2 biliwn (£12.5 biliwn); y brodyr Hinduja: $15.1 biliwn (£12.4 biliwn); James Ratcliffe: $13.1 biliwn (£10.8 biliwn); a Christopher Hohn: $7.9 biliwn (£6.5 biliwn). Mae ganddynt gyfoeth o $51.3 biliwn (£42.2 biliwn) rhyngddynt, o gymharu â chyfanswm cyfoeth o $46 biliwn (£38 biliwn) sy’n cael ei ddal gan 20 miliwn o Brydeinwyr.

Mae’r holl symiau wedi’u mynegi mewn doleri UDA a, lle bo hynny’n briodol, wedi’u haddasu ar gyfer chwyddiant gan ddefnyddio mynegai prisiau defnyddwyr UDA.

Yn ôl Banc y Byd, cynyddodd tlodi eithafol yn 2020 am y tro cyntaf ers 25 mlynedd. Ar yr un pryd, mae cyfoeth eithafol wedi cynyddu’n ddramatig ers dechrau’r pandemig.

Cyhoeddodd Banc y Byd fod y byd bron yn sicr wedi colli ei nod o ddileu tlodi eithafol erbyn 2030 a bod “cynnydd byd-eang o ran lleihau tlodi eithafol wedi arafu a stopio” ymhlith yr hyn, yn ôl y Banc, y disgwylid iddo fod y cynnydd mwyaf mewn anghydraddoldeb byd-eang a’r cam mwyaf yn ôl o ran tlodi byd-eang ers yr Ail Ryfel Byd. Mae Banc y Byd yn diffinio tlodi eithafol fel byw ar lai na $2.15 y dydd.

Mae dosbarth y biliwnyddion $2.6 triliwn yn fwy cyfoethog na chyn y pandemig, a hynny er i ffortiwn biliwnyddion ddisgyn rhywfaint yn 2022 yn dilyn y brig yn 2021 a dorrodd y record. Mae pobl gyfoethocaf y byd ‘nawr yn gweld eu cyfoeth yn cynyddu eto.

Gellir dod o hyd i fanylion am brisiau bwyd byd-eang mewn gwledydd incwm isel, gan gynnwys Ethiopia, yma.

Yn UDA, y DU ac Awstralia, mae astudiaethau wedi canfod bod 54 y cant, 59 y cant a 60 y cant o’r chwyddiant, yn eu tro, wedi’u gyrru gan gynnydd mewn elw corfforaethol. Yn achos y DU, y cyfnod a aseswyd oedd mis Hydref 2021 hyd at fis Mawrth 2022. Yn Sbaen, canfu’r CCOO (un o undebau llafur mwyaf y wlad) fod yr elwau corfforaethol yn gyfrifol am 83.4 y cant o’r cynnydd mewn prisiau yn ystod chwarter cyntaf 2022.

Roedd Elon Musk wedi talu “cyfradd dreth wirioneddol” o ddim ond 3.27 y cant rhwng 2014 a 2018, yn ôl ProPublica.

Defnyddiwyd y llinell dlodi o $6.85 i gyfrifo faint o bobl (2 biliwn) y gellid eu codi allan o dlodi trwy godi treth flynyddol ar gyfoeth o hyd at bump y cant ar amlfiliwnyddion a biliwnyddion y byd.

Mae polau piniwn yn canfod yn gyson fod y rhan fwyaf o bobl ar draws gwledydd yn cefnogi codi trethi ar y rhai mwyaf cyfoethog. Er enghraifft, mae mwyafrif y bobl yn UDA, 80 y cant o Indiaid, 85 y cant o Frasiliaid a 69 y cant o’r bobl y gofynnwyd am eu barn ledled 34 o wledydd yn Affrica yn cefnogi cynyddu trethi ar bobl gyfoethog.

Mae ymchwil Oxfam yn dangos mai’r rhai cyfoethog iawn sy’n cyfrannu fwyaf i’r argyfwng hinsawdd. Trwy eu buddsoddiadau sy’n llygru, mae’r biliwnyddion cyfoethocaf yn allyrru miliwn gwaith yn fwy o garbon na’r unigolyn cyffredin. Mae 1% cyfoethocaf dynoliaeth yn gyfrifol am ddwywaith gymaint o allyriadau â’r 50 y cant tlotaf ac erbyn 2030, bydd eu hôl troed carbon 30 gwaith yn fwy na’r lefel sy’n gydnaws â’r nod o 1.5°C yng Nghytundeb Paris.