Ein Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw byd cyfiawn heb dlodi. Rydym am gael byd lle mae pobl yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin yn gyfartal, lle maent yn mwynhau eu hawliau fel dinasyddion llawn, a lle maent yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Ein Cenhadaeth
Ein diben yw helpu i greu atebion parhaol i anghyfiawnder tlodi. Rydym yn rhan o ymgyrch fyd-eang i sicrhau newid, gan rymuso pobl i greu dyfodol sy’n ddiogel, yn deg, ac yn rhydd o dlodi. Rydym yn gweithio i roi diwedd ar dlodi, a hynny’n lleol ac yn fyd-eang, gan wneud hyn yn ganolog i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru.
Cyflawni ein Cenhadaeth
Yng Nghymru, rydym yn defnyddio cyfuniad o raglenni datblygu cynaliadwy sy’n seiliedig ar hawliau, ymgyrchoedd, gwaith eirioli a gwaith dylanwadu, er mwyn herio achosion strwythurol tlodi. Rydym yn creu cyfleoedd i helpu pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau i ddatblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y gwerthoedd a’r agweddau sydd eu hangen ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang.
Yn hanfodol, rydym yn cefnogi merched, oherwydd er gwaethaf datblygiadau gwych yn erbyn tlodi yn ystod y degawdau diwethaf, mae miliynau o fenywod a genethod dal i fyw dan amgylchiadau anodd, yn byw mewn ofn ac yn profi trais a hiliaeth. Felly, yn Oxfam Cymru, mae merched yn ganolog i bopeth a wnawn wrth i ni helpu i roi diwedd ar annhegwch tlodi i bawb, am byth.
Rydym yn gweithio gyda chynghreiriaid a phartneriaid lleol a byd-eang i gyflawni hyn.
Ein Credoau
Mae gan bawb hawl i wireddu eu potensial, ac i fyw yn rhydd o dlodi mewn byd mwy teg a diogel. Trwy sicrhau’r ewyllys gwleidyddol a’r camau gweithredu angenrheidiol, credwn fod y byd hwn yn bosibl.
Mae gan bobl hawl i fywyd a sicrwydd; i gael bywoliaeth gynaliadwy; i gael eu clywed; i gael hunaniaeth; ac i gael gwasanaethau cymdeithasol sylfaenol. Rydym yn ymrwymo i’r holl gyfamodau rhyngwladol o ran hawliau, ac i’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol.
Fel arfer, menywod a merched sy’n cael eu gormesu fwyaf gan dlodi; rhaid i’w hanghenion a’u hawliau fod yn ganolog i’r gwaith o’i ddileu. Dro ar ôl tro, rydym yn gweld sut mae merched sy’n cael addysg, yn ennill cyflog teg ac yn mwynhau bywyd annibynnol yn llwyddo i ddianc o fyd o dlodi – gan fynd a’u teuluoedd a’u cymunedau gyda nhw.
Ychydig iawn o rym sydd gan bobl mewn tlodi, ac nid oes ganddynt lais effeithiol. Mae tlodi’n golygu ychydig iawn o incwm, rhy ychydig o asedau, diffyg gwasanaethau sylfaenol a chyfleoedd, anghydraddoldebau difrifol, ansicrwydd parhaus a chyfleoedd prin i ddatblygu.
Mae tlodi wedi’i wreiddio mewn anghydraddoldeb, ac yng ngweithredoedd neu ddiffyg gweithredoedd pobl. Gall gael ei waethygu gan drychinebau naturiol, trais o du pobl, gormes a difrod amgylcheddol, a’i gynnal gan sefydliadau a thrwy ddulliau economaidd.
Fel arfer, menywod a merched sy’n cael eu gormesu fwyaf gan dlodi; rhaid i’w hanghenion a’u hawliau fod yn ganolog i’r gwaith o’i ddileu.
Y ganrif hon, rydym yn wynebu newidiadau a heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, newyn a chynnydd mewn prisiau bwyd, mwy o argyfyngau dyngarol, cyfyngiadau o ran ynni, twf arfogaeth, trefoli, a phrinder adnoddau naturiol. Er mwyn ateb yr heriau hyn, mae arnom angen cydweithrediad a chydlyniant byd-eang.
Dylai llywodraethau fod yn atebol i’w pobl, a dylai holl sefydliadau cymdeithas – yn gorfforaethau, sefydliadau a grwpiau, gan ein cynnwys ni – fod yn atebol am effaith eu gweithredoedd. Rydym yn seciwlar, yn ddiduedd ac yn amlblwyfol. Rydym yn croesawu pob cred sy’n datblygu hawliau dynol.