Yn dilyn blwyddyn wych yn codi arian, mae siopau bwyd, fferyllfeydd a banciau’r Co-operative dros Gymru wedi codi bron i £93,000 i’r elusen Hadau Gobaith, partneriaeth rhwng Oxfam a Dolen Cymru sy’n cefnogi prosiectau tyfu a chynaliadwyedd yng Nghymru ac Affrica.
Dywedodd Ashley Drake, rheolwr aelodaeth y Co-operative yng Nghymru, “Mae partneriaeth Hadau Gobaith wedi mynd o nerth i nerth ers i ni lansio ein hymgyrch codi arian ar ddechrau 2012. Manteisiodd gweithwyr ein siopau a’r canghennau ar y cyfle i gyflwyno ffyrdd newydd a hwyliog i godi arian. Mae’r ffaith ein bod wedi gwneud yn well na’r disgwyl ac wedi rhagori ar ein targed gwreiddiol o £50,000 yn glod i waith caled timau’r siopau a’r canghennau, a hefyd i haelioni a chefnogaeth ein cwsmeriaid”.
Dywedodd Lorraine Rees, Gweithwraig Codi Arian Cymunedol dros Oxfam, “Rydym wedi cael ein siomi ar yr ochr orau gan yr arian a godwyd, fydd yn siŵr o wneud gwahaniaeth hirhoedlog er gwell i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Mae hyn yn galluogi Oxfam i wella bywydau cannoedd o deuluoedd yn Ethiopia drwy hyfforddi gwenynwyr benywaidd ac ehangu’r fenter gydweithredol o wneud mêl. O ganlyniad, bydd teuluoedd yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol a bwyta bwyd gwell. Yng Nghymru, bydd peth o’r arian yn cael ei
ddefnyddio i recriwtio gweithiwr prosiect rhan-amser yn Nyffryn, Casnewydd, a’i nod fydd annog teuluoedd i ymuno yn y fenter fwyd gydweithredol leol, bwyta rhagor o ffrwythau a llysiau a gwella eu hiechyd”.
Bydd Dolen Cymru yn defnyddio cyfran o’u harian i ddatblygu prosiect y berllan yn Lesotho, a fydd yn galluogi pobl anabl a phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan glefydau HIV ac AIDS i dyfu bwyd, bwyta’n iach a gwerthu’r cynnyrch sy’n weddill.
Yn y llun gyda Lorraine ac Ashley mae Veronica German o’r elusen Dolen Cymru a staff o Co-operative Cydweli, a gododd y swm anhygoel o £2,400 gyda heriau eillio pen, stondin lyfrau a chystadleuaeth enwi’r tedi bêr.