Dewch at eich gilydd a chefnogwch ferched ledled y byd

Ymunwch â ni i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth 2013 a thrawsffurfio bywydau merched sy’n byw mewn tlodi ledled y byd.

Bydd miloedd o bobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn dod ynghyd â ffrindiau, cydweithwyr a’r rhai sy’n annwyl ganddyn nhw i wneud beth maen nhw’n ei hoffi – gan godi arian i Oxfam yr un pryd.

Fyddwch chi’n ymuno â nhw? Gallech gynnal noson ffilmiau gartref, cystadleuaeth goginio yn y gwaith neu ddosbarth ymarfer corff yn eich cymuned.  Beth bynnag rydych chi’n hoffi ei wneud, gwnewch hynny er budd merched ledled y byd.

Beth yw diben y cyfan?

Trais domestig. Gwahaniaethu. Diffyg addysg. Dyma rai o’r rhesymau pam mae miliynau o ferched ledled y byd yn byw mewn tlodi.

Yn aml, mae gan ferched lai o adnoddau, llai o hawliau a llai o gyfleoedd na dynion i wneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar gwrs eu bywyd. A phan ddaw argyfyngau, y nhw sy’n cael eu heffeithio fwyaf.  Rydym yn cefnogi merched i sicrhau eu hawliau a gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Fe wnawn ni eu grymuso a’u galluogi i weithio eu ffordd allan o dlodi – gan drawsffurfio cymunedau cyfan.

Dechreuwch gynllunio eich digwyddiad Oxfam Get Together heddiw:

Beth wnewch chi?

  • Gartref – cynhaliwch noson cyfnewid dillad, swper neu noson o faldod
  • Yn y gwaith – heriwch gydweithwyr i gymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio, neu trefnwch ddiwrnod cwrdd i ffwrdd i’r tîm
  • Yn eich cymuned – cynhaliwch gwis tafarn, dosbarth celf neu fore coffi
  • Yma ac acw – trefnwch bryd o fwyd gyda ffrindiau yn eich hoff fwyty

Cofrestrwch nawr i gael eich pecyn codi arian am ddim, ac fe anfonwn bosteri, balwnau, matiau diod a baneri bychain atoch chi. www.oxfam.org.uk/gettogether