Pe bai pawb cyfoethog yn talu eu trethi…

Os ydych yn un o’r rhai sy’n gorfod llenwi’r ffurflen dreth, heddiw, (sef 31 Ionawr) yw’r dyddiad cau i roi eich ffurflen i Gyllid y Wlad.

 

Mae Oxfam Cymru yn defnyddio’r dyddiad hwn fel cyfle i’n hatgoffa o’r twll enfawr sydd yn yr economi o ganlyniad i’r bobl gyfoethog hynny sy’n gyndyn o dalu eu trethi, ac sy’n gwneud popeth allan nhw, a hynny’n anghyfreithlon, er mwyn ceisio eu hosgoi. Mae cyfrifiadau diweddaraf yr elusen o’r farn fod y rhai hynny sy’n osgoi talu eu trethi yn amddifadu economi’r Deyrnas Unedig o £5.2 biliwn y flwyddyn o leiaf.

 

Dywedodd Julian Rosser, Pennaeth Oxfam Cymru: “Y bobl dlotaf yng Nghymru sy’n teimlo ergyd y camau cynilo waethaf, ond, pe bai’r holl bobl gyfoethog yn talu eu trethi’n llawn ni fyddai hynny’n wir.”

 

Pe bai’r £5.2 biliwn yn cael ei dalu i’r dyn treth a’i rannu’n deg ymysg y bobl dlotaf yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig, o bosib, byddai’n :

 

  • Darparu dros £1000 y flwyddyn i wella effeithlonrwydd ynni ym mhob cartref yng Nghymru a’r DU sy’n dioeddef o dlodi tanwydd
  • Neu, dyblu’r hawliau gofal plant cyffredinol i 25 awr yr wythnos, er mwyn galluogi’r teuluoedd hynny sy’n cael anhawster cael dau ben llinyn ynghyd byw i fynd i weithio
  • Neu, rhoi £180 y flwyddyn sy’n ddyledus i 9.4 miliwn o gartrefi’r Deyrnas Unedig drwy ddileu’r cynlluniau i osod cap 1 y cant ar uwchraddio’r system lles.

 

Dywedodd Angela Morgan, 44 oed o’r Coed-duon, dynes sydd wedi bod yn talu ei threthi trwy gydol ei hoes, ond sydd bellach yn gorfod hawlio budd-daliadau o ganlyniad i gyflwr iechyd hirdymor difrifol:

 

“Mae llawer o bethau o’i le ar y system dreth yn y wlad hon.”

 

Ychwanegodd Julian Rosser: “Mae biliynau o bunnoedd sy’n ddyledus i’r Llywodraeth yn cael eu cadw mewn cyfrifon banc alltraeth, gan adael i’r bobl gyffredin geisio talu am y gefnogaeth a’r gwasanaethau y mae pawb ohonom yn dibynnu arnyn nhw.”

 

“Pam na ddylai osgowyr trethi ddod o dan y lach pan mae miloedd o deuluoedd tlotaf Cymru yn cael eu gorfodi i ddefnyddio’r banc bwyd er mwyn bwydo eu plant, neu fyw heb wres a hithau’n rhewi tu allan?”