Dyddiadur de Cymru Eileen

Wythnos diwethaf, fe wnaethom gyflwyno Eileen Dillon o Gaerwysg, cefnogwr Oxfam sy’n treulio pythefnos yn gwirfoddoli yng Nghymru gyda dau o brosiectau Rhaglen Dlodi’r elusen yn y Deyrnas Unedig. Yn ei blog cyntaf, mae Eileen edrych yn ôl ar beth oedd ei disgwyliadau cyn iddi ymweld â rhan uchaf Cwm Dulais yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Beth ydyw i’n rhagweld fydd yn digwydd yn ystod fy wythnos mewn hen gymuned lofaol yn Ne Cymru?

Lawer o flynyddoedd yn ôl, mi yrrais drwy un o’r cymoedd cyfagos, ac mi feddyliais fod amddifadedd wedi cael ei blannu yn y tirwedd. Roedd y cwm tywyll ag ochrau serth yn dra gwahanol i gefnau a gwastadeddau agored gogledd Bannau Brycheiniog. Yn wahanol i’r Bannau, nid oedd gorwel i’w weld o’r cwm. Darllenais yr wythnos hon fod 35% o oedolion ym Manwen yn ‘economaidd anweithgar’. Byddai ystadegau’r llywodraeth wedi disgrifio holl oedolion y stad dai lle cefais fy magu yn Ne Llundain yn ‘economaidd anweithgar’. Ni fyddai gwaith fy mam o ddiberfeddu a
phluo ieir i’w gwerthu’n lleol am elw bychan, menywod yn cael eu talu ag arian parod am lanhau tai pâr y strydoedd cyfagos, neu baentio ac ail baentio ceir amheus â chwistrell yn y sgwâr lle’r oeddwn yn chwarae ers talwm wedi cael eu crybwyll mewn unrhyw ystadegyn gan y llywodraeth yn ymwneud â gweithgarwch economaidd. Fodd bynnag, roedd entrepreneuriaeth y farchnad ddu hon wedi’i sbarduno’n bennaf gan gyfoeth yr ardaloedd cyfagos. Hyd yn ddiweddar, mae cyfoeth a thlodi wedi bodoli ochr yn ochr yn Llundain, ac fe all cyfoeth cyfagos agor drysau. (Ond mae polisi
presennol y llywodraeth ynghylch rhoi cap ar fudd-daliadau tai ar fin datgymalu hyn. Heddiw, mi ddarllenais fod 750 o deuluoedd tlotaf yn Camden ar fin cael eu hailgartrefu yn Bradford a Chaerlŷr). Fe wnaeth byw o fewn tafliad carreg i gyfoeth fy nghymdogion fy ngalluogi i eistedd yn yr un ystafell ddosbarth â phlant dosbarth canol, lle’r oedd eu rhieni’n gweld gwerth mewn addysg. Am wn i, un o’r gwahaniaethau mwyaf o ran fy mhrofiad i o gael fy magu â theulu un rhiant ar fudd-daliadau o’i gymharu â rhywun ym Manwen, yw fy mod wedi cael golygfa o’r gorwel. Wrth gwrs,
gan nad wyf erioed wedi bod ym Manwen, nid oes modd i mi wybod hyn yn iawn, yn ddim mwy na all ystadegau’r llywodraeth lunio darlun i gynrychioli gweithgarwch economaidd y stad lle cefais fy magu.