Eileen yn dod i Gymru i weld Oxfam ar waith

Mae Eileen Dillon wedi bod yn un o gefnogwyr Oxfam ers un deg tri o flynyddoedd.  Yn ddynes 48 oed sy’n gyfarwyddwr theatr a swyddog addysg gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae hi wedi cefnogi ymgyrchoedd yr elusen a thalu debydau uniongyrchol rheolaidd ers gwirfoddoli am flwyddyn yng nghanolfan fyd-eang Oxfam yng Nghaerwysg.  Yn awr, mae hi wedi cael cyfle i weld beth mae Oxfam  yn ei wneud i frwydro yn erbyn tlodi – nid ym mhellafoedd Asia neu Affrica, ond gwta 100 milltir o’i chartref yng Nghaerwysg.

Bydd yn treulio pythefnos yn gwirfoddoli mewn dau o brosiectau Rhaglen Dlodi Oxfam yn Ne Cymru – un yng Nghaerdydd, a’r llall ym mhentref Banwen yng Nghwm Dulais i’r gogledd o Gastell-nedd.

Pam mae Oxfam yn gweithio gyda phobl dlawd yn y Deyrnas Unedig pan mae hyd yn oed y tlotaf yma yn freintiedig yn ôl rhai o safonau’r byd sy’n datblygu?  Y ffaith amdani yw bod tlodi’n gallu bod yr un mor real i’r 13 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig sydd ar incwm isel a budd-daliadau.  Fe all olygu bod eich plant yn llwgu wrth fynd i’r ysgol, eich bod yn oer yn barhaus gan nad ydych yn gallu fforddio gwresogi eich cartref, neu ofn argyfwng bach fel tegell neu oergell yn torri, gan na allwch fforddio cael un arall yn eu
lle.

Mae Cymru’n achos perffaith.  O blith poblogaeth o 3 miliwn, mae bron i 400,000 o oedolion sydd wedi cyrraedd oedran gweithio, 200,000 o blant a 100,000 o bensiynwyr yn dlawd yn ôl mesuriadau incwm isel ar ôl tynnu costau’r aelwyd.  Mae traean yr oedolion hyn naill ai’n anabl eu hunain neu mae eu partner yn anabl. Mae chwarter y plant yn byw gydag o leiaf un oedolyn sy’n anabl.

Bydd Eileen yn treulio ei hwythnos gyntaf yn gwirfoddoli yng Ngweithdai Dove ym Manwen, ger Castell-nedd, sy’n rhoi cartref i waith prosiect Oxfam ar helpu pobl sy’n ddi-waith ers cyfnod hir i reoli eu bywydau a newid pethau er gwell. Mae’r pentref yng ngogledd cwm Dulais, lle mae 35% o’r oedolion yn economaidd anweithgar, a bron i deirgwaith y cyfartaledd cenedlaethol â chyflwr meddygol hirdymor sy’n cyfyngu ar eu rhyddid.

Mae carfan o 10,000 o bobl mewn sefyllfa waeth na’r rhai ar incymau penodol a chyflogau isel, sef y rhai sydd wedi dianc o’u gwledydd eu hunain neu wedi ceisio lloches yn y pedair ‘ardal wasgaru’, sef Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam.  Ni all y bobl hyn weithio na hawlio budd-daliadau, ac yn aml maen nhw’n gorfod aros am flynyddoedd nes bydd yr Asiantaeth Ffiniau yn penderfynu ar eu hawl i aros yma.

Yr wythnos ar ôl honno, bydd Eileen yn gwirfoddoli ym mhrosiect Noddfa yng Nghymru Oxfam yn y Rhath, Caerdydd, yng nghanolfan Oasis y ddinas. Bydd yn helpu’r gweithiwr prosiect Helen Gubb, sy’n darparu cefnogaeth ddwys wedi’i deilwra i ferched sy’n ffoaduriaid neu’n ceisio lloches er mwyn meithrin eu hyder, bod yn weithgar yn eu cymunedau lleol, a bod yn barod a medrus i gael gwaith cyflogedig.

“Rwy’n edrych ymlaen at fy ymweliadau gwirfoddoli â Chymru.  Mae’n gyfle gwych i weld gwaith Oxfam ar waith yn y Deyrnas Unedig,” meddai Eileen, sydd wedi addo ysgrifennu blog am ei phrofiadau.