Syniadau syml ar gyfer cynnal digwyddiad Dewch at Eich Gilydd Oxfam heb lawer o waith cynllunio ymlaen llaw…

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched ymhen llai na mis, ac rydym wedi cynhyrfu’n arw gyda’r holl syniadau creadigol sy’n llifo i mewn gan bobl sydd eisoes wedi cofrestru i gynnal eu digwyddiadau Dewch at Eich Gilydd eu hunain er mwyn codi arian i Oxfam! O gystadlaethau pobi a the’r prynhawn crefftus, i sip-wifrio dros afon, mae digwyddiad Dewch at Eich Gilydd Oxfam 2013 yn argoeli i fod yn llwyddiant ysgubol!

Eisiau cymryd rhan ond yn poeni ychydig fod amser yn brin i drefnu digwyddiad?

Peidiwch â phoeni, gellir trefnu ambell ddigwyddiad mewn chwinciad – hyd yn oed mewn ychydig ddiwrnodau!

Dilynwch y blog hwn <https://community.oxfam.org.uk/get-together/b/weblog/archive/2013/02/13/easy-ideas-for-hosting-a-get-together-without-much-planning.aspx>, sy’n cyflwyno llawer o syniadau syml o’r ffordd y medrwch ymgynnull â ffrindiau, teulu neu gydweithwyr i godi arian i ferched sy’n byw mewn tlodi ledled y byd.

Mae’n werth cofio nad oes ots faint o arian mae eich digwyddiad chi yn ei godi – mae dim ond £31 yn ddigon i hyfforddi cynorthwywr nyrsio yn Ghana mewn gofal mamolaeth sylfaenol, sgiliau esgor, medru adnabod cymhlethdodau, cyfeiriadau a’r modd i atal trosglwyddiad HIV o’r fam i’r babi – felly cofrestrwch a gwnewch beth bynnag sy’n rhoi pleser i chi!

Cofiwch, nid oes rhaid i chi gynnal eich digwyddiad Dewch at Eich Gilydd Oxfam ar yr union ddyddiad, sef 8 Mawrth.  Mae unrhyw dro yn ystod y cyfnod hwn yn gwneud y tro, felly, dewiswch pa amser sydd fwyaf cyfleus i chi.