Balch i gefnogi prosiect sy’n teimlo fel adre

Mae Eileen Dillon yn siarad am wirfoddoli ym mhrosiect Oxfam yng Nghaerdydd, fel rhan o raglen ‘See For Yourself’.

Pan gyrhaeddais Oasis, canolfan gefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd, lle’r ydw i’n gwirfoddoli am wythnos, teimlais fel pe bawn i wedi cael fy ngwahodd i gartref rhywun.  Roedd gwirfoddolwr lleol a dynes o Bacistan yn eistedd wrth beiriant gwnïo yn gwneud trowsusau, ac roedd dynes arall, (nid ydw i’n cofio o ba wlad roedd hi’n dod) yn chwarae ar y llawr gyda’i merch. 

 Fe wnaeth Helen Gubb, gweithwraig merched Oasis a gyllidir gan Oxfam, fy ngwahodd am baned o de, ac mewn dim o dro  roedd pawb ohonom yn sgwrsio am gerddoriaeth.  Mae dydd Llun yn Oasis wedi cael ei neilltuo fel diwrnod i ferched yn unig, oherwydd sylwyd mai dynion yn unig oedd yn defnyddio’r ganolfan bron yn ddieithriad. Cefais wybod gan Reynette Roberts, a sefydlodd y ganolfan bedair blynedd yn ôl, fod dydd Llun yn ddiwrnod gwahanol iawn i’r dyddiau eraill yno.  Ar ddyddiau eraill, cyfartaledd nifer yr ymwelwyr â’r ganolfan yw wyth deg. 

Heddiw, defnyddiwyd y ganolfan gan chwe dynes a’u plant.  Pan oedd y trowsusau wedi cael eu gorffen, cliriwyd y bwrdd ac fe wnaeth pawb ohonom eistedd i fwyta cyw iâr a salad.  Ar ôl cinio, cliriwyd y bwrdd eto, ac fe wnaeth un o’r merched sy’n ffoadur, a gyllidwyd gan Oasis i gael hyfforddiant mewn dysgu Saesneg, roi gwers Saesneg i ddwy ddynes nad oedd yn siarad llawer o Saesneg.  Roedd un o’r merched yn dod o Libya, lle mae’r bobl dywyllach eu crwyn yn cael eu targedu gan eu bod nhw’n cael eu hystyried fel cefnogwyr cyfundrefn Gadaffi,
gynt. 

 Roedd y ddynes hon wedi ffoi o Libya ar ôl gweld ei brawd yn cael ei ladd a’i phentref yn cael ei ysbeilio.  Wrth i weithiwr plant Oasis chwarae gyda’i dau o blant a ffoadur arall ddysgu Saesneg iddi, roedden yn teimlo’n falch bod fy nghyfraniad misol bychan at Oxfam yn cefnogi’r prosiect hwn.