Gwneud y gorau o weithlu amrywiol

Mae Oxfam Cymru ac Alltudion ar Waith yn cynnig hyfforddiant am ddim i gyflogwyr yn Ne Cymru er mwyn iddyn nhw elwa ar ddoniau gweithlu sy’n cynnig sgiliau arbenigol lefel uchel a phrofiad helaeth.

Y gweithlu dan sylw yw ffoaduriaid sydd wedi dianc o’u gwledydd eu hunain i chwilio am noddfa a bywyd newydd yng Nghymru.

 “Mae ffoaduriaid yn grŵp amrywiol o bobl sy’n aml yn fedrus ac yn weithwyr proffesiynol yn eu gwledydd eu hunain – popeth o gyllid i adwerthu, busnes i’r byd academaidd a byd masnach.

 “Maen nhw hefyd yn cynrychioli gweithlu llawn cymhelliant, ac ar ôl cael yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, maen nhw’n benderfynol o wneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd Cymru,” meddai Ginger Wiegand o Alltudion ar Waith, sy’n darparu cyngor a chymorth i ffoaduriaid sy’n chwilio am waith.

Er gwaethaf eu hamrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad, mae lefelau cyflogaeth ffoaduriaid ymhell y tu ôl i’r cyfartaledd cenedlaethol. 

Mae Victoria Goodban, sy’n rhedeg prosiect Noddfa yng Nghymru ar ran Oxfam Cymru, yn cydweithio ag Alltudion ar Waith i gynnig y gweithdai am ddim yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe rhwng Ebrill a Mehefin. Dywed:

“Mae ein prosiect, sy’n rhan o fenter Oxfam ar Dlodi yn y Deyrnas Unedig, yn ceisio cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru a’u cael nhw’n barod i weithio. Rydym eisiau i gyflogwyr wybod cymaint y gallen nhw fod ar eu hennill yn sgil y ffaith bod y bobl ddawnus hyn wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru.”

“Bydd ein diwrnodau hyfforddi yn dangos i gyflogwyr sut i wneud y defnydd gorau posibl o sgiliau amrywiol ffoaduriaid sy’n byw yng Nghymru, a gweld sut gall hyrwyddo amrywiaeth wella eu busnes neu eu sefydliad.

“Fe gawn nhw arweiniad clir ac ymarferol ar ddogfennau hawl i weithio a gofynion y Swyddfa Gartref, a chlywed drostyn nhw eu hunain gan ffoaduriaid sy’n gweithio neu sy’n chwilio am waith yng Nghymru.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Caitlin Campbell yn Oxfam Cymru: cacampbell@oxfam.org.uk  0300 200 1269.