Mae Rhian Anderson yn siarad am ei gwaith ar Raglen Tlodi’r Deyrnas Unedig Oxfam Cymru , ger Pontypridd, lle mae hi’n gweithio gyda theuluoedd sy’n agored i niwed sydd â phlant yn yr ysgolion cynradd lleol.
Fel rhan o’u trefniadau trimisol, mae Oxfam newydd ymweld â mi am y tro cyntaf, ac rydw i’n hapus gyda’r ffordd yr aeth pethau. Rydw i’n meddwl eu bod wedi cael eu plesio yn ôl y ffordd rydw i wedi ymgartrefu yng nghynllun Adfywio Cymunedol Glyncoch (mudiad partner Oxfam Cymru).
Roedd y prosiect yn llusgo braidd i ddechrau, ond, yn ara’ deg mae pethau’n gwella gan fod rhagor o brosiectau’n dod at ei gilydd.
Rydym yn cefnogi Grŵp babanod a phlant bach lleol o’r enw Tiny Tiddlers, er mwyn hyrwyddo llythrennedd i’r teulu yn ystod sesiynau ar ôl ysgol, cynorthwyo’r ysgol gynradd i sefydlu Cyngor i Rieni, a hyrwyddo Grŵp Cymorth ar gyfer y rhieni sydd â phlant gydag ymddygiad heriol ac ADHD.
Bydd y prosiectau hyn i gyd o gymorth i mi ddenu teuluoedd a fyddai, o bosib yn elwa o’r Dull Bywoliaethau Cynaliadwy, yna byddwn ar y trywydd cywir i gyrraedd fy nhargedau a gwneud y prosiect hwn yn llwyddiant yng Nglyncoch – cadwch olwg am fwy o fanylion.