Prif Weinidog Cymru yn galw am gefnogaeth ar gyfer Apêl Argyfwng Syria

Wrth i gyfanswm Apêl DEC Argyfwng Syria gyrraedd £5 miliwn, mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi gal war bobl Cymru i gadw ati i estyn yn ddwfn i’w pocedi i gyfrannu i helpu y miliynnau sydd mewn angen yn y wlad sydd yn cael ei rheibio gan ryfel.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
“Lansiwyd apel gan Disasters Emergency Committee (DEC) Cymru yr wythnos diwethaf ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan y rhyfela yn Syria. Mae pobl Cymru o hyd yn ymateb yn  hael i apel gan y DEC ac rwy’n gobeithio bod y galwad yma am help ar fyrder yn ennyn ymateb tebyg.    

 “Mae’r argyfwng hwn mor fawr mae’n anodd ei ddirnad. Mae dros pump miliwn o bobl wedi’u heffeithio gan yr ymladd yn Syria, a tri miliwn o bobl yn gorfod ffoi o’u cartrefi a hynny yn ddi-fai. Mae’r nifer o ffoaduriaid yn gadael y wlad wedi cynyddu o 1,000 y dydd ar ddechrau’r flwyddyn i dros 8,000 y dydd.

 “Rwy’n galw ar bobl Cymru i gefnogi’r apêl yma ac estyn eu cymorth I helpu’r miliynau o bobl sydd wedi’u heffeithio gan y rhyfela.”

Bydd 14 o brif elusennau’r DU sy’n aelodau o DEC yn defnyddio’r arian a godir yn Syria ac yn y gwledydd cyfagos, lle mae dros un miliwn o ffoaduriad wedi ffoi. Bydd yr arian sydd wedi dod i mewn ers i’r apel gael ei ddarlledu ddyd Iau diwethaf yn galluogi aelodau DEC i ddarparu cymorth anghenrheidiol megis bwyd, dŵr glân, lloches dros dro a gofal iechyd. 

Bydd yr ymdrech i godi arian ar gyfer Apêl Argyfwng Syria DEC yn parhau wrth i’r ymladd ddwyshau ac i’r nifer o bobl sy’n ffoi o’u cartrefi a’u gwlad yn parhau i gynyddu. Mae anghenion enfawr sydd heb eu cwrdd yn Syria ac y gwledydd cyfagod, wrth i ddinasyddion barhau i oddef effeithiau’r rhyfel.

Meddai Julian Rosser, Cadeirydd DEC Cymru:

“Mae pobl Cymru wedi dangos haelioni arbenning a parodrwydd clir I helpu y nifer helaeth o bobl Syria sydd wedi eu gorfodi I adael eu cartrefi. Mae’r argyfwng dyngarol y tu mewn I Syria yn drychineb ac mae’n holl bwysig ein bod yn parhau i godi arian am fod anghenion y bobl yn enfawr.

“Rydym yn delio a sefyllfa anwadal sy’n newid o hyd ar lawr gwlad : mae teuluoedd yn wynebu heriau mawr wrth iddynt ffoi I wleydd cyfagos ac mae’r ymladd yn Syria yn ei gwneud hi’n anodd iawn i fynd a chymorth – ond nid yn amhosib. “

Lansiwyd Apêl DEC Argyfwng Syria ar ddydd Iau, 21 Mawrth gyda apêl gan gyn-gapten Rygbi Cymru Gwyn Jones, yr actor Rufus Sewell yn ogystal a’r actor, awdur, a darlledwr  Michael Palin, y newyddiadurwr  John McCarthy a’r actors Juliet Stephenson.

I gyfrannu i Apêl Argyfwng DEC Syria  ewch i’r wefan www.dec.org.uk  ffoniwch y rhif 24 awr 0370 60 60 900, gallwch gyfrannu dos y cownter mewn unrhyw fanc  neu swyddfa bost ar y stryd fawr, neu anfonwch siec. Gallwch hefyd gyfrannu £5 drwy decstio y gair SUPPORT i’r rhif  70000.

Gallwch gael gwybod am y diweddaraf am y datblygiadau yn Syria, yr ymateb argyfyngol a’r ymdrechion codi arian gyda DEC ar twitter: https://twitter.com/decappeal neu ar Facebook drwy https://www.facebook.com/DisastersEmergencyCommittee