Rhaglen Waith ‘yn siomi’r rhai sydd ei hangen fwyaf’

Cafodd Cynllun Gwaith Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei feirniadu gan Oxfam Cymru ym mhwyllgor Dethol Cymru yn San Steffan yr wythnos hon.

Dywedodd Chris Johnes, cyfarwyddwr Rhaglen Dlodi’r Deyrnas Unedig wrth y pwyllgor ddydd Mawrth (19 Mawrth) fod tystiolaeth amlwg yn dangos fod rhai darparwyr yn gweithredu system ‘goleuadau traffig’, sy’n cynnig hyfforddiant a lleoliadau gwaith i’r rhai hynny sy’n fwyaf tebygol o gael gwaith yn y lle cyntaf yn unig.

 “Mae’r bobl sydd angen cymorth dwys, megis y rhai hynny sydd ag anghenion llythrennedd gwan, problemau cyffuriau neu alcohol yn cael eu gosod yn y categori ‘coch’, a chânt eu hystyried mor isel yn y farchnad lafur fel na fydd contractwyr yn barod i fuddsoddi eu hamser neu eu harian ynddynt”.

“Mae hi’n gwbl annerbyniol nad yw rhaglen hon, sy’n ceisio cael pobl i sicrhau gwaith, ar gael i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.

“Dylai pawb sy’n cael cymorth â chyflogaeth yng Nghymru dderbyn gwasanaeth cynhwysfawr a di-dor, yn darparu iddynt hyfforddiant priodol, sgiliau, mentora a lleoliadau gwaith sy’n berthnasol i’w hanghenion, er gwaethaf eu statws isel yn y farchnad lafur.”

Dywedodd Mr Johnes fod cyfranogiad gorfodol yn Rhaglen Waith y Deyrnas Unedig yn rhwystro pobl Cymru rhag cael hyfforddiant a ariennir yn gyhoeddus oherwydd y rheol ‘talu ddwywaith’, tra’n gwrthod cynnig unrhyw hyfforddiant eu hunain.

Hefyd, mae’n cyhuddo darparwyr y rhaglen o beidio cadw cefn y cleientiaid wrth eu cyfeirio at swyddi sy’n amherthnasol i’w profiad.

Mewn tystiolaeth astudiaeth achos, soniodd Paul Stepczak, gweithiwr cymunedol sy’n rhedeg clwb gwaith yn Rhondda Cynon Taf, am ddyn na chafodd gefnogaeth gan ddarparwyr y Rhaglen Waith, er ei fod yn awyddus iawn i gael cymorth gyda’i sgiliau llythrennedd er mwyn cael gwaith, a hynny am ei fod wedi’i labelu yn ‘goch’ – y rhai mwyaf annhebygol o gael gwaith.

“Tybiaf mai’r rheswm dros hyn yw nad yw’r cwmni’n debygol o ddwyn elw ar unrhyw fuddsoddiad”, dywedodd Mr Stepczak