Oxfam Cymru yn gwneud sylw ar y cynnydd mwyaf erioed yn y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru

Mae ffigyrau newydd a ryddhawyd yr wythnos hon gan Ymddiriedolaeth Trussell yn dangos fod nifer y bobl sy’n troi at fanciau bwyd yng Nghymru wedi cynyddu fwy na 120% llynedd. Ers mis Ebrill 2012, mae 35,000 o bobl wedi mynd i fanc bwyd i gael cyflenwad o fwyd mewn argyfwng.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn cael cefnogaeth gan Raglen Tlodi yn y Deyrnas Unedig Oxfam.

Dywedodd Pennaeth Oxfam Cymru, Julian Rosser, wrth newyddiadurwyr: “Mae’r ffigyrau ysgytwol hyn yn dangos fod storm gyfun o gostau byw cynyddol, diffyg swyddi da a sefydlog ynghyd â newid i fudd-daliadau yn ei gwneud yn amhosibl i nifer o bobl fwydo eu hunain na’u teuluoedd. Mae’n amlwg fod bwlch enfawr yn y rhwyd ddiogelwch os oes cymaint o bobl yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar gyflenwadau o fwyd mewn argyfwng.

“Rydym yn ofni mai dim ond dechrau sylweddoli pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa ydym ni, gan y gallai’r newidiadau i’r system fudd-daliadau sydd ar y gweill rwygo’r rhwyd ddiogelwch, gan arwain at ganlyniadau trychinebus i’r rhai yng Nghymru sy’n dibynnu ar gymorth o’r fath.

“Ni all y Llywodraeth anwybyddu’r sefyllfa hon mwyach. Yn hytrach na chymryd arian gan bobl sy’n methu fforddio prynu digon o fwyd, fe ddylen nhw dargedu cwmnïau ac unigolion cyfoethog sy’n osgoi’r trethi, sef eu cyfraniad teg nhw at y gymdeithas.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.trusselltrust.org