FANs yn dod at ei gilydd mewn hwyl a chyfeillgarwch

Pwy yw fy ffrind? Pwy yw fy nghymydog? Dyletswydd pob un ohonom yw bod yn ffrind ac yn gymydog da.

 Grwpiau bychan o ffrindiau a chymdogion yw’r elusen FAN – neu bobl sy’n siŵr o ddod yn ffrindiau mewn dim o dro. Mae ymuno â’r grŵp FAN yn gyfle delfrydol i gyfarfod trigolion eraill yn eich cymuned. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd eisiau cyfarfod pobl newydd yn ogystal â gwella eu sgiliau Saesneg os ydynt yn dysgu’r iaith. Bwriad y cyfarfodydd FAN yw cynnig clust i wrando a theimlo’n fwy gobeithiol am y byd.

  Mae’r elusen FAN (Friends and Neighbours) wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, ac mae’n cynnig gwybodaeth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dechrau a chynnal Grwpiau FAN. Bellach mae grwpiau o’r fath wedi eu sefydlu mewn deg tref a dinas yng Nghymru a Lloegr.

 Mae un o’r grwpiau FAN yng Nghaerdydd, sydd â 11 i gyd, wedi ei leoli yng Nghanolfan Oasis ar Tavistock Street, oddi ar City Road yn y Rhath, sef cartref prosiect Noddfa yng Nghymru Oxfam Cymru yn y ddinas. Bwriad y grŵp, fel llawer o’r rhai eraill, yw annog siaradwyr Saesneg i ymuno â’r grŵp er mwyn cynorthwyo ac annog yr aelodau amlgenhedlig i ymarfer yr iaith.  

 Rydw i wedi gweithio i’r elusen FAN o swyddfa Oxfam Cymru dros y chwe mis diwethaf. Yn garedig iawn, mae’r aelodau yno wedi gosod swyddfa ac offer pwrpasol er mwyn i ni allu cynorthwyo’r elusen yn effeithiol. 

 Gyda chymorth a chefnogaeth Oxfam, mae’r elusen wedi mynd o nerth i nerth, ac mae’n dathlu’i phen-blwydd yn 10 oed eleni. Diolch i gyfeillgarwch a hyblygrwydd y staff, mae defnyddio’r swyddfa’n broses rhwydd a phleserus.  

 Ommelyla Gilani, Swyddog Datblygu FAN

https://www.thefancharity.org.uk

ommelyla@gmail.com