Byw am bunt – stori Kate

Yr wythnos yma, mae Kate Anderson, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn tipyn o her i godi arian i Oxfam. Dyma ei stori yn ei geiriau ei hun.

“Yr wythnos yma,  rwy’n ‘Byw am bunt’. O ddydd Llun I ddydd Gwener, rwy’n gwario dim mwy na £5 ar fy holl fwyd a diod i gyd. Rwy’n ymuno a 20,000 o bobl dros tair cyfandir fydd yn derbyn yr her i Fyw am bunt  eleni. Drwy gael fy noddi i brofi yn wirfoddol gyfyngiadau rheiny sydd heb ddewis, byddaf yn codi arian fydd yn cael ei roi i gynorthwyo gwaith trawsnewidiol Oxfam.

 Mae’n gydnabyddedig ar draws y by dos ydych yn byw ar lai na $1.25 y dydd, eich body n byw mewn tlodi dybryd. Drwy Byw am bunt gallwch gael cip sydyn ar reality bywyd 1.4 biliwn o bobl led led y byd sydd yn byw mewn tlodi dybryd. Mewn gwirionedd mae’r swm pitw hynny o arian yn gorfod talu am bopeth: gofal iechyd, cartref, bwyd, addysg, trafnidiaeth. Mae’n hynod o anodd dychymygu. Felly, mae fy her i ond yn gipolwg ar y dewisiadau anodd sydd raid I chi wneud pan fod gennych gyn lleied.

Ry’n ni hefyd yn gwybod fod tlodi bwyd yn broblem gynyddol ym Mhrydain, gyda mwy a mwy o bobl yn gorfod troi at fanciau bwyd ar gyfer help a chefnogaeth. Mae Byw am bunt yn fy neffro i’r caledi mae nifer gynyddol o bobl yn fy nghymuned i yn eu wynebu yn ddyddiol. 

Fel rhywun sy’n cyfri’r dyddiau nes bod fy arian yn cyrraedd fy nghyfri banc, ac sydd yn aml yn rheoli’r gyllideb fwyd ar gyfer y lloches di-gartref lle dwi’n gwirfoddoli, ro’n I’n meddwl bo fi’n ofalus iawn gyda fy ngwariant ar fwyd. Dim ond torri mas y cig, caws a ffrwythau fyddai angen neud, mae’n siwr? Yn fuan wedi cyrraedd yr archfarchnad, dyma reality beth allwn I brynnu am £5 yn taro adref.

Dwi fel arfer yn prynu y bwyd rhataf, ond roedd hyd yn oed hynny yn anodd gyda fy nghyllideb o £5. Es i lan a lawr bob rhes dairgwaith neu fwy yn chwilio am fwyd fyddai’n ffitio’r gyllideb. Yn gyflyn iawn, syweddolais byddai’n rhaid i mi wneud dewisiadau go fawr. Rhiad oedd rhoi taw ar y tê am wythnos, dechre prynu fy ffrwythau a llysiau yn y farchnad leol a chwestiynu gwerth maeth bob peth yn fy masged. Yn lwcus, mae fy ffrind Kate yn neud yr her hefyd, felly prynom ambell beth i’w rhannu
megis wyau, pysgod ag uwd. Yn y frachnad ges i afael ar 4 banana masnach deg am 20c. Mae’n wyrth i mi allu cael gafael ar fwyd ethegol ar gyllideb mor fach.  

Dwi wedi bod yn neud yr her am 3 dydd nawr ac mae wedi neud i fi sylweddoli cyn lleied o ddewis sydd gan 1.4 biliwn o bobl o fwyta deiet iach a pha mor anodd yw hi i brynu bwyd iachus yn rhad. Mae hefyd wedi neud fi yn llwglyd iawn.