Tag Your Bag Welsh

Ar ddechrau’r mis hwn, bydd Oxfam yn lansio un o raglenni ffyddlondeb mwyaf y Deyrnas Unedig. Drwy ymuno â Nectar, bydd Oxfam yn rhoi cyfle i’w cwsmeriaid gasglu pwyntiau ar yr eitemau maent wedi eu rhoi i siopau Oxfam!

O ddydd Iau, 4 Ebrill, bydd cwsmeriaid sy’n ymuno â Tag ar eich Bag, cynllun Rhodd Cymorth Oxfam, (mae Rhodd Cymorth yn caniatáu i elusennau adennill treth o 25% ar y cyfraniadau sy’n cael eu rhoi gan drethdalwyr yn y Deyrnas Unedig), yn gallu ennill 2 bwynt am bob £1 mae Oxfam yn ei gael am yr eitemau maen nhw wedi eu rhoi, drwy eu gwerthu yn siopau Oxfam neu ar-lein. Hefyd, ar ôl iddynt gofrestru, bydd cwsmeriaid yn cael 100 pwynt i ddechrau arni. Mae’r cynllun hwn yn annog llawer o bobl i roi cyfraniadau o safon y mae Oxfam wirioneddol eu
hangen, pa un ai’n llyfrau, cerddoriaeth, dillad neu nwyddau’r cartref, a hefyd yn rhoi cyfle i gasglwyr Nectar ennill rhagor o bwyntiau Nectar.

Dywedodd Val Griffiths, Rheolwr Masnachu Oxfam yng Nghymru, “Rydym wrth ein bodd fod Oxfam yn gweithio mewn partneriaeth â Nectar. Mae cyflwyno cynllun gwobrwyo yn gymhelliant gwych er mwyn denu unigolion i gyfrannu yn ein siopau ac ennill pwyntiau Nectar ar yr un pryd! Bydd y fenter, y cyntaf o’i bath, yn codi miliynau o bunnoedd at waith Oxfam i geisio ymladd yn erbyn tlodi o amgylch y byd, prosiect sy’n siŵr o wneud byd o wahaniaeth yn cefnogi gwaith Oxfam”

Gall cwsmeriaid ymuno gyda Tag ar eich Bag mewn siop Oxfam, neu drwy fynd i  www.oxfam.org.uk/tagyourbag Byddant yn derbyn pecyn croeso a fydd yn cynnwys y tagiau hollbwysig, ac mae’n rhaid iddynt fod ynghlwm wrth y bag o nwyddau rhoddedig cyn cael eu rhoi i siop Oxfam.

Bydd Oxfam yn prosesu’r holl gyfraniadau gan ychwanegu cod penodol ar gyfer pob eitem er mwyn sicrhau y gellir olrhain y gwerthiant yn ôl i’r rhoddwr unigol, gan adael i bwyntiau gael eu hennill os a/neu pryd caiff yr eitem gael ei gwerthu yn y siop neu drwy siop ar-lein Oxfam. 

Lansiwyd y cynllun ym mis Medi 2012, ac mae’r bartneriaeth ag Oxfam hyd yn hyn wedi galluogi casglwyr Nectar i wario eu pwyntiau ar anrhegion drwy’r cynllun Oxfam Unwrapped – syniadau am anrhegion gan Oxfam sy’n newid bywydau pobl ledled y byd.

Mae’r ychwanegiad diweddaraf hwn i’r bartneriaeth yn rhan o fwriad parhaus Nectar i annog newid mewn ymddygiad er gwell, adeiladu ar gyfleoedd presennol fel bod y casglwyr yn ennill pwyntiau naill ai drwy ailddefnyddio eu bag siopa yn Sainsbury’s, bilio heb bapur gyda British Gas, neu drwy ailgylchu gyda Chyngor Dinas Caerdydd.