Cadw at addewid… o’r diwedd

Ddydd Mercher 20 Mawrth, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gadw at ei haddewid 43 mlynedd yn ôl, a chyhoeddi y bydd yn gwario 0.7% o’r incwm cenedlaethol ar gymorth.

Y Deyrnas Unedig yw’r wlad G8 gyntaf i gwrdd â’r addewid hwn (mae’r G8 yn fforwm i wyth wlad gyfoethocaf y byd), a’r 6ed o blith y 22 wlad a gyfarfu’n wreiddiol yn ôl yn 1970.

Mae hyn yn newyddion ffantastig, oherwydd mae modd i gymorth gael effaith enfawr ar fywydau pobl. Bydd addewid y Deyrnas Unedig ar gymorth yn golygu y bydd 16 miliwn o blant yn cael addysg, 80 miliwn yn cael eu brechu rhag afiechydon sy’n peryglu bywyd, sicrhau bod 6 miliwn o enedigaethau yn digwydd mewn amgylchedd diogel, darparu triniaeth HIV i achub bywydau 600,000 o bobl, a sicrhau rhagor o faeth i 9.6 miliwn o bobl.

Mae’r ymgyrch i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cadw at ei haddewid i wario 0.7% ar gymorth yn rhan o’r ymgyrch OS. Mae ‘Digon o fwyd i bawb OS’ yn glymblaid enfawr o sefydliadau sy’n ymrwymedig i ymgyrchu dros fyd lle mae gan bawb ddigon i’w fwyta. Yma yng Nghymru, mae Oxfam Cymru wedi bod yn gweithio’n galed mewn clymblaid o dros 20 o sefydliadau i sicrhau cyfiawnder ar faterion fel cymorth, treth a thir.

Ac mae 2013 yn flwyddyn allweddol, gan mai’r Deyrnas Unedig sy’n llywyddu’r G8, ac ym mis Mehefin, bydd wyth pennaeth llywodraethau mwyaf pwerus y byd yn cyfarfod yma yn y Deyrnas Unedig yn Lough Erne yng Ngogledd Iweddon.

Dyma lle gallwch chi helpu…

Rydym yn gofyn i bobl Cymru ymuno â’r digwyddiad OS MAWR yn Hyde Park, Llundain ar 8 Mehefin  neu’r digwyddiad OS ym Melffast ar 15 Mehefin.

Cofrestrwch yma   Caiff gwybodaeth am deithio o Gymru ei ebostio atoch

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr